Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ddathlu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ond wrth gwrs mae 'na gerddoriaeth gwych yn cael ei greu drwy'r flwyddyn.
Bydd Cymru Fyw yn rhoi sylw cyson i'r sin, felly gwnewch baned, rhowch eich hoff drac ymlaen ac ymlaciwch drwy bori drwy'r casgliad yma o eitemau gafodd eu cyhoeddi dros y 12 mis diwethaf.
Cyfweliadau
Tu ôl i bob cân a phob artist mae 'na stori - ac mae nifer o bobl yn fodlon eu rhannu. O ail-ddarganfod cerddoriaeth ar ôl gwaeledd i hoff luniau un o'n sêr, dyma rai o'r erthyglau gafodd eu cyhoeddi ar Cymru Fyw dros y 12 mis diwethaf:
- O Berlin i'r byrfyfyr: Dylanwadau cerddorol Bethan Lloyd
- Tri llun: Izzy Rabey
- Iwan Huws Cowbois: 'Teimlo fel cerddor eto'
- Michael Aaron: Un o selogion y sin gerddoriaeth Gymraeg
- Llechan Lân o'r diwedd i Gwilym ar ôl Covid
- Esgusodwch Fi?: Pum peth o sgwrs Gruff Jones, Sŵnami
- Gruff Rhys: Sioe laser yn 'brofiad ysgytwol'
- Elin Fflur: Cyflwyno, canu a Sir Fôn
- Y band dirgel a'u cân rap i dîm rygbi Cymru
- Cerys Hafana: 'O'n i byth yn ffitio mewn i'r bocs traddodiadol'
Hanes pop Cymraeg
Tra bod digon i'w sgwennu am gerddoriaeth cyfoes, mae hanes pop Cymraeg yn bwnc yn ei hun. Ymysg yr erthyglau eleni, roedd yr awdur Llwyd Owen yn olrhain hanes hip hop Cymraeg gyda'i 10 trac hanfodol, a chawson ni hanes recordio clasur o albwm - Bibopalwla'r Delyn Aur gan Meic Stevens
- Lle oeddwn i: Recordio Bibopalwla'r Delyn Aur
- 'Simply the Besda'? Cysylltiad Cymreig Tina Turner
- Traciau Mwyaf Hanfodol Hip-Hop Cymraeg
- Sesiwn Fawr Dolgellau: Atgofion Ywain Myfyr
- Lisa Gwilym: 20 mlynedd o uchafbwyntiau cerddorol
- Cofio Emyr Glyn Williams
- Dathlu bywyd un o Driawd y Coleg - y 'band pop Cymraeg cyntaf'
Cwisys
Mae ffans pop yn tueddu i hoffi cwisys pop... ac mae sawl un wedi bod ar Cymru Fyw, yn cynnwys dathlu pen-blwydd deugain un o leoliadau cerddoriaeth byw pwysicaf Cymru ac un o'n grwpiau eiconig. Rhowch gynnig arni:
Orielau
Mae delweddau yn elfen bwysig o unrhyw sin cerddoriaeth pop, o'r band ar y llwyfan, y dorf yn mwynhau, a'r posteri sy'n eu denu yno yn y lle cyntaf.
- Oriel luniau: Tafwyl 2023
- Oeddech chi yno? Hen bosteri Y Ddawns Rhyng-Gol
- Lluniau: Gŵyl Rhuthun 2023
- Rhys Grail: Pry ar wal sin gerddoriaeth Cymru
- Lluniau: Cyngerdd 'chillout' Sian Eleri
Hefyd o ddiddordeb: