Sport

Traciau Mwyaf Hanfodol Hip-Hop Cymraeg

Gyda hip-hop yn dathlu hanner canrif eleni, mae'n gyfle i nodi bron i 40 mlynedd o'r genre o fewn y sin roc Gymraeg.

Yr awdur Llwyd Owen, cyflwynydd rhaglen radio Neud Nid Deud am hanes y gerddoriaeth, sy'n dewis 10 trac sy'n adlewyrchu'r sin.

Er bod y gerddoriaeth wedi cyrraedd y brif ffrwd erbyn hyn mae'n dweud bod ei ddewis yn cynrychioli "cyfoeth sonig yr isfyd annisgwyl ac amrywiol hwn, sydd wedi llechu yng nghysgodion y sin roc Gymreig ers bron i bedwar degawd".

Cliciwch ar y lincs yn y darn i gael blas ar y gerddoriaeth. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.

1. Llwybr Llaethog – Dyddiau Braf (Rap Cymraeg)

EP Llwybr Llaethog
Record hanesyddol... Dyddiau Braf (Rap Cymraeg) ydi ail gân ar ochr A y 7" yma Recordiau Anhrefn

Mae’r cyfan yn cychwyn gyda’r gân Dyddiau Braf (Rap Cymraeg) gan Llwybr Llaethog, a gafodd ei chynhyrchu yn 1984 a’i rhyddhau ar record 7” (Dull Di-Drais) trwy Recordiau Anhrefn yn 1986.

Cafodd John Griffiths ei ysbrydoli gan ymweliad ag Efrog Newydd, lle gwelodd DJ-Red Alert yn troelli, crafu a jyglo recordiau mewn hen rinc sglefrio, ac er bod John a Kevs wedi mynd ymlaen i gynhyrchu nifer o ganeuon gwell na hon, mewn ystod o genres gwahanol dros y blynyddoedd, Dyddiau Braf yw conglfaen hip-hop Cymraeg ac, o ganlyniad, mae’n gân gwbl anhepgorol o’r rhestr hon.

Gwrando pellach:

Profiad Rhys Lloyd – Dim Cwsg Tan Cyrlwys ↗

Hanner Pei – Badumdum ↗

Tŷ Gwydr – Dros Ben Llestri yng Nghwm Rhymni ↗

2. Tystion – Tryweryn

Albym Tystion
Mae Tryweryn yn un o 16 trac ar ail albym Tystion - Shrug Off Ya Complex Tysion/Ankstmusik

Does dim amheuaeth mai Tystion yw cewri’r byd hip-hop Cymraeg, gyda goruchafiaeth y band yn para am yn agos at ddeg mlynedd, yn gyntaf fel triawd (Steffan Cravos, Gruff Meredith, Curig Huws), cyn ehangu i gynnwys MC Chef, DJ-Jaffa a Clancey Pegg. Gan ddefnyddio curiadau caled, samplo cywrain a geiriau cignoeth i herio’r gyfundrefn a galw ar y Cymry i ddihuno o’n trwmgwsg casgliadol, mae cerddoriaeth y band mor berthnasol heddiw ag erioed.

Gyda thri LP, cwpwl o sesiynau John Peel a llond llaw o senglau ac EPs ar gael, erfynnaf arnoch i agor eich clustiau a gwrando ar y Tystion yn siarad y gwir i bŵer. Gyda degau o draciau i ddewis ohonynt, roedd hi’n anodd dethol dim ond un, ond mae Tryweryn yn ymgorffori popeth rwy’n caru am y Tystion – curiadau ffres, cynhyrchu craff, hiwmor, hanes, hunaniaeth... a rhai o gwpledi gorau hip-hop Cymraeg.

Os chi’n hoffi hon, gwrandewch ar Byw ar y Briwsion ↗, Diwrnod Braf ↗, Gwyddbwyll ↗, Y Byd Cymraeg v Y Byd Hip-Hop ↗, a’r medlai yma o fideos a gafodd ei recordio i Garej yn 1998 ↗.

Gwrando pellach:

Johnny R – Sony Sandra, Sony Kevin ↗

Skep - Rhwng Llyn Syfaddan a Llyn Eiddwen ↗

3. MC Mabon – XR3i

Albym Mr Blaidd
MC Mabon/Ankstmusik

Gadawodd G-Man (Gruff Meredith) y Tystion yn 1999 er mwyn rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw MC Mabon, gan fynd ymlaen i ryddhau deg albwm yn ystod degawd cyntaf y ganrif newydd. Fy ffefryn personol yw Mr Blaidd, sef record hir gyntaf y cerddor o’r Bala, ac mae’r trac XR3i yn dal i swnio’n wych heddiw, chwarter canrif yn ddiweddarach.

Gwrando pellach:

Lo-Cut a Sleifar - CF5 ↗

MC Mabon – Be Di Be ↗

4. Pep le Pew - Y Mwyafrif

Y mwyafrif
Mae Y Mwyafrif ar LP cyntaf Pep le Pew - Y Da, Y Drwg ac Yr Hyll Pep Le Pew

Does dim amheuaeth mai Aaron Elias yw perchennog un o leisiau mwyaf unigryw ac eiconig hip-hop Cymru a, diolch i’w fand, Pep le Pew, mae ei le ym mhantheon y mawrion yn ddiogel.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y band (Y Mwyafrif) ar label Steffan Cravos, Fitamin Un, cyn i’r band (oedd hefyd yn cynnwys Ed Holden a Dyl Mei) fynd ymlaen i ryddhau dau LP hollol wych (Y Da, Y Drwg ac Yr Hyll ac Un Dydd yn y Gorllewin) cyn chwalu yn 2005.

Aeth rhai aelodau o Pep le Pew ymlaen i ffurfio’r Genod Droog, tra aeth Aaron i fyw mewn ogof yn Andalucia.

Gwrando pellach:

Y Diwygiad – Paneidiwch ↗

Dybl-L – Y Cam Nesaf ↗

5. Cofi Bach a Tew Shady – Triwch Hi Ar

Cofi Bach a Tew Shady
Llun cyfrannydd

“Working class scumbag o Gaernarfon ydw i...” yw geiriau agoriadol y gân yma, gan superstar cyntaf y sin hip-hop Cymraeg, Cofi Bach, cyn iddi fynd ati i ddyrchafu’r genre yn gwbl ddiymdrech dros gwpwl o EPs ac un albwm hollol wych. Gyda chymorth ei chynhyrchydd blaenslaes broliwr, Tew Shady, newidiwyd y gêm gan gynnwys cignoeth eu caneuon.

Yn wahanol i’w cyfoedion a’u rhagflaenwyr, nid sefydliadau, y gyfundrefn, cyfalafiaeth neu hanes a chwedloniaeth Cymru oedd ffocws eu cerddoriaeth, ond yn hytrach tlodi, iechyd meddwl, hunan-laddiad a thrais domestig. Nid oedd Cymru wedi gweld na chlywed unrhyw un fel Cofi Bach o’r blaen... nac ers hynny, a dweud y gwir.

Gwrando pellach:

MC Saizmundo - Terri a Huw ↗

Cofi Bach a Tew Shady – Isho Bod yn Rhywun ↗

Amheuthun ac Aaron Elias – Juice ↗

6. Sleifar a’r Teulu – Yn Cynrychioli

Sleifar a'r teulu
Recordio Yn Cynrychioli yn stiwdio Maida Vale y BBC yn Llundain Sion Mali/Lleucu Meilir

Dyma benllanw degawd MC Sleifar (Steffan Cravos) ar frig y sin hip-hop Cymraeg. Dathliad a chiplun o’r byd hip-hop Cymraeg ar yr union eiliad yma yn 2004. Gwahoddiad gan John Peel i recordio sesiwn yn Maida Vale, er na gafodd y DJ dylanwadol gyfle i glywed y gân, oherwydd y bu farw cyn i’r opws gael ei recordio.

Yn ystod y gân epig, gallwch glywed lleisiau Aaron Elias, Mr Phormula, John Griffiths, Cofi Bach, Tew Shady, Cynan Llwyd (Kenavo), MC Chef a Sleifar ei hun, tra bod Dyl Mei ar y troellfyrddau ac yn cynhyrchu.

Dros gyrn milwrol fydd yn siŵr o chwythu tympanau eich clustiau, mae pawb yn cyfrannu yn eu ffyrdd unigryw eu hunain, er nad oes neb cweit yn ei hoelio hi mor galed â Tew Shady, sydd yn poeri tân fel draig flin. Wow!

Gwrando pellach:

Kenavo - Meibion G yn y BBC ↗

Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady – Dwb ↗

7. Genod Droog – Gig Mawr y Gofod

Albym Genod Droog
Gallwch wrando ar Gig Mawr y Gofod ar Ni Oedd y Genod Droog, unig LP y band Genod Droog

Roedd y Genod Droog yn hiwj yn ail hanner y dim-dimau. O ludw Pep le Pew, cododd y band fel ffenics ffynci gyda’i fryd ar gael parti, gan fynd ymlaen i hedleinio Maes B, Sesiwn Fawr Dolgellau a Pesda Roc, heb sôn am groesi’r ffin a pherfformio yn Electric Proms y BBC ↗.

Un LP ryddhaodd y band... a hynny ar ôl iddynt chwalu. Ond am albwm! Dyma fy hoff gân oddi arni, yn bennaf oherwydd y llinell fas a’r rhyng-chwarae geiriol rhwng Mr Phormula ac Aneirin Karadog ar y mic. Dyma fand oedd ag un llygad ar y brif ffrwd, a’r llall ar brynu gormod o falŵns a gliter. Anfarwol.

Gwrando pellach:

Llwybr Llaethog a Rufus Mufasa - Rhagfarn ↗

Genod Droog a Cate le Bon – Breuddwyd Oer ↗

8. Mr Phormula – Y Lleiafrifol

Clawr Y Lleiafrifol
Mr Phormula

Ed Holden, AKA Mr Phormula, yw pencampwr pwysau trwm diamheuol hip-hop Cymraeg... cyn-aelod o Pep le Pew, Genod Droog a’r Diwygiad, ac artist solo uchel ei barch bellach, yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dyma unigolyn sydd wedi concro’r byd beatbocsio ↗, sy’n teithio’r wlad yn addysgu plant Cymru am hip-hop (mae Dom a Lloyd yn cofio Mr Phormula yn ymweld â’u hysgolion nhw!), ac sy’n cydweithio gyda phawb, o 3hree 8ight, Dybl-L a Martin Kinnear yng Nghymru, i Deadalus, Akil The MC (o’r band Jurassic 5 ↗ a Guilty Simpson yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei sengl ddiweddar, Safe Bet ↗, ei chwarae ar raglen radio neb llai na Chuck D ↗ tra fod pob un o’i albymau yn hollol wych, yn enwedig Llais / Voice ↗, a gafodd ei recordio’n defnyddio dim ond synau a ddaeth allan o geg Ed! Rhyfeddol. Fy hoff gân i o’i ôl-gatalog yw Y Lleiafrifol, oddi ar ei LP cyntaf, Cymud ↗, yn bennaf oherwydd y samples gwych, ond hefyd oherwydd bod yn gân yn arddangos sgiliau poeri anghyffyrddadwy y dyn ei hun.

Gwrando pellach:

Hanner Pei a Mr Phormula - Does Dim Gair Cymraeg am Random ↗

Rufus Mufasa - Dyletswydd Gofal ↗

Hoax MC a Mr Phormula – Cau Dy Geg ↗

9. 3 Hwr Doeth – Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi

LP 3 Hwr Doeth
Hip Hip Hwre, ail LP y band, sy'n cynnwys y trac Ma Nain Fi'n Wech Na Nain Chdi Carl Tango Jones/Recordiau Noddfa

Mae’r grŵp myglyd a mygydog o Gaernarfon, o dan arweiniad y cynhyrchydd athrylithgar, Brochwel Ysgithrog, wedi rhyddhau dau LP ers 2017, sef Pasta Hull Presents... ↗ a Hip Hip Hwre ↗, gan gyfuno offeryniaeth byw, samplau lleddf, straeon doniol o fywydau bob dydd yr aelodau, a sylwebaeth cymdeithasol a gwleidyddol craff, deifiol a chignoeth, i greu ôl-gatalog o ganeuon anghymarol ym myd hip-hop Cymraeg.

Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi yw fy hoff gân gan yr Hwrs, er bod eu halbymau yn bolio â pherlau cofiadwy, ill oll yn ffrwyth llafur y Buarth.

Ar ôl ymgyfarwyddo â byd y band, gwyliwch y sesiwn byw hwn ↗, sy’n atgoffaol o’r Beastie Boys yn eu pomp. Achw!

Gwrando pellach:

Eadyth ac Izzy - Cymru Ni ↗

Boi Na a’r Arch Hwch – Gigs ↗

Sywel Nyw a Lauren Connelly – 10/10 ↗

10. Dom a Lloyd – Pwy Sy’n Galw?

Clawr Pwy sy'n Galw
Lloyd a Dom James

Dyma’r trac a lusgodd hip-hop Cymraeg, o’r diwedd, i’r brif ffrwd, diolch i gynhyrchu llyfn Don The Prod, a lleisiau cyfaddas a phersonoliaethau cynnes Dom James a Lloyd Lewis.

Mae cwpwl o senglau ac EP ↗ wedi dilyn, ac mae pawb yn aros yn eiddgar am eu halbwm cyntaf. Dw i ’di bod yn ddigon ffodus i weld Dom a Lloyd yn perfformio’n fyw lond llaw o weithiau, ac mae’r ymateb bob tro yn rhyfeddol, gyda phobl o bob oed yn sgrechian a chanu a begian am hun-luniau gyda’r rapwyr.

Ynghyd ag artistiaid eraill - fel Sage Todz ↗, Lemfreck ↗, Gwcci ↗, Eadyth ac Izzy ↗ a Skylrk ↗ - mae’r ystod a’r amrywiaeth o is-genres hip-hop (drill, grime, post-dubstep, horror-core) yn amlycach nag erioed, a gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru’n dewis O Hyd ↗ gan Sage Todz fel cân swyddogol Cwpan y Byd Qatar 2022, ac Undeb Rygbi Cymru’n dewis I’r Gad ↗ gan Gwcci ar gyfer ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2023, mae cyrhaeddiad hip-hop Cymraeg yn ehangach nag erioed.

  • Gwrandewch ar Neud Nid Deud, stori hip-hop Cymraeg, efo Llwyd Owen ar BBC Sounds
Llwyd Owen