Sport

Haia
ffotoNant

Yn dilyn wythnos o ddigwyddiadau - o farddoni a phitsa, i Shakespeare a chyngerdd côr - daeth Gŵyl Rhuthun i uchafbwynt ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, gyda gigs ar lwyfannau yn Top Dre.

Daeth cannoedd o bobl draw i fwynhau perfformiadau gan Yws Gwynedd, Candelas, Welsh Whisperer a mwy, a phawb yn eu hwyliau!

Tyrfa
Daeth cannoedd ynghyd i Top Dre i weld y perfformiadau ar y ddau lwyfan oedd yno, i ddathlu diwedd wythnos o weithgareddau ffotoNant
Y bois yn cael hwyl
Cyfle am beint neu ddau gyda ffrind ffotoNant
Dawnsio Gwyddelig
Daeth rhai o ddisgyblion Rogers Academy of Irish Dance draw i arddangos eu sgiliau ffotoNant
O ma' bywyd mor braf!
O ma' bywyd mor braf, chwedl Yws Gwynedd ffotoNant
Yws Gwynedd a'r Band
... ac roedd bywyd yn sicr yn braf i Yws a'i fand, a chwaraeodd slot olaf y noson i gloi'r holl ŵyl ffotoNant
Heloooo
Hwyl i'r teulu i gyd! ffotoNant
Welsh Whisperer
Welsh Whisperer yn sicrhau ei fod wedi gwisgo mewn lliw addas ar gyfer y lleoliad... ffotoNant
Tair merch yn mwynhau
Tywydd gwisgo blodau yn eich gwallt ffotoNant
Pib Wyddelig
Roedd cerddoriaeth Wyddelig i'w chlywed hefyd, gan y band lleol Wee Bag Band ffotoNant
Pawb yn hapus
Ffansi diod?! ffotoNant
Candelas
Roedd Candelas yn chwarae i'r dyrfa fywiog ffotoNant
Osian Candelas
... ac Osian, y prif leisydd, yn cael modd i fyw! ffotoNant
Hen ffrindiau
Cyfle i gael treulio amser yng nghwmni hen ffrindiau ffotoNant
Yws Gwynedd yn tynnu tafod
Oi! Yws Gwynedd yn cael hwyl wrth berfformio ffotoNant
Tyrfa Top Dre
Roedd y sgwâr dan ei sang, ac roedd angen help llaw (neu ysgwydd) ar rai i gael gweld y llwyfan yn well ffotoNant

Hefyd o ddiddordeb: