Sport

Roedd yna rywbeth at ddant pawb yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon 2023 dros y penwythnos; bwyd, diod, cerddoriaeth, anifeiliaid, adloniant, cynnyrch Cymreig, celf, cwmni da a thywydd braf.

Heidiodd pobl yn eu miloedd yno gan grwydro heibio'r nifer fwyaf o stondinau mae'r ŵyl wedi ei chael erioed.

Dyma gasgliad y ffotograffydd Iolo Penri o hwyl yr ŵyl.

Roedd rhaglen Tudur Owen, Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r ŵyl ben bore
Roedd rhaglen Tudur Owen, Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r ŵyl ben bore Iolo Penri
Y maes dan ei sang
Y maes dan ei sang Iolo Penri
Nŵdls i ginio?
Nŵdls i ginio? Iolo Penri
Y plant yn mwynhau gweld defaid Coleg Glynllifon
Y plant yn mwynhau gweld defaid Coleg Glynllifon Iolo Penri
Mwynhau llymaid o gwrw gan ddefnyddio cwpanau aml ddefnydd yr ŵyl
Mwynhau llymaid o gwrw gan ddefnyddio cwpanau aml ddefnydd yr ŵyl Iolo Penri
Roedd rhaid edrych i fyny at yr awyr las er mwyn dal llygaid ymwelwyr talaf yr ŵyl
Roedd rhaid edrych i fyny at yr awyr las er mwyn dal llygaid ymwelwyr talaf yr ŵyl Iolo Penri
Leinio'r stumog gydag ychydig o saim
Leinio'r stumog gydag ychydig o saim Iolo Penri
Y gwirfoddolwyr yn casglu arian
Roedd gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed trwy'r dydd yn rhoi gwybodaeth ac yn casglu arian Iolo Penri
Band Pres Llareggub yn diddanu ar Stryd Llyn ac yn chwarae 'Ysbeidiau Heulog'. Mi wrandawodd yr haul arnynt drwy'r dydd
Band Pres Llareggub yn diddanu ar Stryd Llyn ac yn chwarae Ysbeidiau Heulog. Mi wrandawodd yr haul arnynt drwy'r dydd Iolo Penri
Iechyd da!
Iechyd da! Iolo Penri
Digonedd o bysgod ffres
Digonedd o bysgod ffres Iolo Penri
Adloniant o flaen wal Yr Angylsi
Adloniant o flaen wal Yr Anglesey Arms Iolo Penri
Llwyfan y corau
Llwyfan y corau Iolo Penri
Staff Cyngor Gwynedd yn sicrhau gŵyl daclus i bawb
Staff Cyngor Gwynedd yn sicrhau gŵyl daclus i bawb Iolo Penri

Hefyd o ddiddordeb: