Sport

Golygfa o'r llwyfan dros sgwar Rhuthun
Dafydd Iwan a'r Band oedd yn cloi Gŵyl Rhuthun yn y digwyddiad Top Dre nos Sadwrn, 2 Gorffennaf Outwest Images

Wedi tair blynedd o seibiant oherwydd Covid roedd digwyddiad Top Dre yng Ngŵyl Rhuthun ↗ yn fwy poblogaidd nag erioed yn 2022 meddai'r trefnwyr.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ers 1994, wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn nhref Briec yn Llydaw, sydd wedi gefeillio gyda Rhuthun. Mae wedi tyfu o un diwrnod i wythnos o ddigwyddiadau.

Ymysg y perfformwyr ar 2 Gorffennaf roedd Dafydd Iwan, sy'n ymddangos mor brysur ag erioed yn sgil ei berfformiadau yng ngemau pêl-droed rhyngwladol Cymru.

Cynulleidfa yn mwynhau a chanu
Roedd sgwâr Rhuthun yn orlawn i benllanw'r ŵyl yn Top Dre nos Sadwrn Outwest Images
Dafydd Iwan ar y llwyfan
Fe ganodd Dafydd Iwan Yma o Hyd i gyfeiliant lleisiau llond sgwâr o bobl Outwest Images
Morgan Elwy
Morgan Elwy a'r band yn rhoi dipyn bach o... hwyl i'r dorf Outwest Images
Dwy ferch yn mwynhau yn y gynulleidfa
Roedd y trefnwyr wedi gobeithio am dywydd braf i'r digwyddiad Top Dre, ac fe ddaeth eu breuddwydion yn wir! Outwest Images
Dyn gydag offeryn pres
Offerynwyr pres yn codi hwyliau Outwest Images
Alys Williams
Y gantores Alys Williams - nod yr ŵyl meddai'r trefnwyr yw rhoi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a hwyliog Outwest Images
Dynes yn codi gwydryn
Wedi tair blynedd, mae cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth mewn awyrgylch gŵyl yn braf i lawer Outwest Images
Dwy ferch yn mwynhau yn y gynulleidfa
Mwy o hwyl yn yr haul yn cloi wythnos lwyddiannus o ddigwyddiadau rhwng 25 Mehefin a 3 Gorffennaf Outwest Images
Y sgwar dan ei sang
Y sgwâr dan ei sang a drymwyr dur ar y llwyfan fach Outwest Images
Cantores
Mae Elfin Bow yn gerddor ac artist o'r gogledd ddwyrain Outwest Images
Chwarae'r ffidil
Roedd cyfle i grwpiau ac ysgolion lleol berfformio hefyd Outwest Images

Hefyd o ddiddordeb: