Sport

Y rhedwr eithafol Simon Roberts yn rhedeg y Montane Spine Challenger North
Y rhedwr eithafol Simon Roberts yn rhedeg y Montane Spine Challenger North Stephen Ashworth

"Wnaeth 'na lot o bobl gamu yn ôl oherwydd y tywydd. Roedd y dechrau yn afiach - eira a rhew ym mhob man a digon o wynt i wneud pobl ddisgyn drosodd."

Dyna eiriau'r rhedwr Simon Roberts o Bontypridd, y Cymro cyntaf i ennill ras eithafol Cefn y Ddraig yng Nghymru, wrth iddo geisio cofio lle'r oedd o ddeuddydd ynghynt mewn ras ar hyd mynyddoedd Lloegr.

Ar ôl torri cefn Cymru ac ennill "ras mynydd anoddaf y byd" yn 2021, sydd â phellter o 380km a 17,400m o ddringo gan dywys rhedwyr ar hyd copaon mynyddoedd y wlad, mae Simon wedi cychwyn blwyddyn newydd o redeg drwy 'dorri cefn Lloegr'.

Fe chwalodd y ras honno hefyd, sef ras gyntaf erioed y Montane Spine Race Challenger North, ym mis Ionawr 2022. Mae'n ras 257Km sydd yn mynd ar hyd un o lwybrau mwyaf heriol a garw Prydain ac mae'n rhaid ei orffen o dan 108 awr.

Gorffennodd y Cymro 4.5 awr o flaen y rhedwr ddaeth yn ail, sy'n dweud y cyfan. Ond be' ydy apêl rhoi eich enaid drwy her meddyliol a chorfforol mor ddifrifol? A be' sydd gan un o redwyr disgleiriaf Cymru o'i flaen?

'Gweithio, rhedeg, cysgu'

I'r rhai ohonoch sy'n yn byw yn ochrau Pontypridd, y Cymoedd a chyffiniau Caerdydd efallai eich bod wedi gweld y rhedwr tal barfog yn bownsio yn hamddenol ar hyd llwybrau a lonydd cyfagos, gan amlaf ar allt serth.

Ers iddo ddechrau rhedeg saith mlynedd yn ôl mae Simon, sy'n gweithio fel dylunydd adeiladu ac yn codi warysau Amazon o ddydd i ddydd, wedi gwneud enw iddo'i hun fel un o redwyr mwyaf talentog, a gwallgof efallai, Prydain.

Simon Roberts yn gorffen y Montane Spine Challenger North am 4.08yb
Simon Roberts yn gorffen y Montane Spine Challenger North toc cyn 4yb ym mis Ionawr 2022 Montane Spine Race

"Mae ganddon ni elltydd neis o amgylch fan hyn... Mynydd y Garth, Eglwysilian ac mae'r Bannau Brycheiniog yn agos," meddai Simon, sydd wedi cynrychioli Cymru.

"Ges i mewn i redeg yn hwyrach. Dyddiau yma, unwaith dwi'n gorffen gwaith dwi'n mynd i redeg. Gweithio, rhedeg, cysgu, dyna yw fy mywyd i."

Amodau cythreulig

Mae ras y Montane Spine Challenger wedi ei greu gyda'r union fwriad o fynd a rhedwyr ar lwybr mwyaf agored a garw Prydain. Mae'n dechrau yn Hawes yn Yorkshire Dales ac yn gorffen yn Kirk Yetholm, jest dros y ffin yn Kelso yn Yr Alban, ac mae disgwyl i redwyr redeg 257Km yn ddi-dor drwy eira, gwynt a glaw o fewn pedwar diwrnod a hanner.

"Mae'n un anodd iawn, yn enwedig gyda'r tywydd. Mae'n ddioddefaint llwyr..." meddai Simon, sy'n cael ei noddi gan Montane.

"Mae 'na ddarn o'r ras sydd yn mynd trwy'r Pennine Way - sef un o'r rhannau mwyaf agored ym Mhrydain. Gallai'r gwynt chwythu drosodd person 15 stôn yn rhwydd.

Y rhedwr eithafol Simon Roberts
Amodau garw y Montane Spine Challenger North Montane

"Fi'n meddwl bod lot o bobl yn underestimatio'r math yma o ras. Ti wastad yn cael llawer iawn o bobl sydd methu gorffen."

Ond mi orffennodd y Cymro mewn 43 awr, 48 munud a 17 eiliad gan chwalu'r cystadleuwyr eraill yn llwyr.

Y Cymro, rhif 703, y gwibio o flaen y rhedwyr eraill trwy'r Pennine Way
Y Cymro, rhif 703, yn ei gwibio hi o flaen ei gystadleuwyr trwy'r Pennine Way Montane

'Bron iawn i mi dynnu mas'

"Roeddwn yn gryf iawn o'r dechrau... ond roedd 'na un pwynt lle nes i ddod i stop, roeddwn yn sâl ac wedi rhedeg alla o egni, a doeddwn i heb weld neb am dros awr. Bron iawn i mi dynnu mas ar y pwynt yna," meddai.

"Gyda'r rasys diddiwedd 'ma, ti sydd yn penderfynu pethau fel pryd ti'n cysgu. Gallet gysgu ar y llwybr neu ar un o'r checkpoints pan ti'n cyrraedd.

"Ges i 'bach o gwsg ar Hadrian's Wall (ar ffin Lloegr a'r Alban), roedd hwnna yn reit neis... wnaeth e gael fi nol mewn i gear chydig bach."

Simon Roberts
Mae Simon Roberts wedi ennill llu o rasys mawr yn ddiweddar sy'n cynnwys y Spine Challenger North yn 2022 a Cefn y Ddraig, Y Ras ar Draws Eryri a'r Lakes Sky Ultra yn 2021 Stephen Ashworth

'Yr her, dyna yw'r apêl'

Byddai llawer yn gofyn pam ar wyneb y ddaear mae pobl eisiau cymryd rhan mewn rasys o'r fath? Ond mae'n ymddangos bod y byd rhedeg eithafol wedi ffrwydro yn ddiweddar.

Dros y ddeng mlynedd diwethaf mae cynnydd aruthrol o 345% wedi bod mewn rhedwyr eithafol yn fyd-eang tra mae'r nifer o redwyr rasys byr fel 5k wedi gostwng.

Pan mae'n dod i'r rasys, mae'n rhaid iddynt fod yn hirach na marathon ac mae'n gallu newid mewn siâp a'i hyd - o ras chwe diwrnod 251km yn y Sahara, ras 692km yng Nghanada, neu ras 380km Cefn y Ddraig yma yng Nghymru.

"Yr her, dyna ydy'r apêl," yn ôl Simon. "Fi wastad wedi hoffi her. Ti byth yn gwybod be' sydd yn mynd i dy daro di. Dwi'n hoffi herio fy hun a gweld be' gallaf wneud."

Simon Roberts wedi gorffen yn Kirk Yetholm
Wedi gorffen yn Kirk Yetholm Montane Spine Race

'Cadw'r tlws yng Nghymru'

Roedd 2021 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i'r rhedwr, a gyda dechrau gwych yn barod i 2022 mae'n argoeli'n flwyddyn dda arall.

"Mae ennill wedi rhoi mwy o hyder i mi ar gyfer y flwyddyn i ddod," meddai Simon.

"Mae gen i ras y Montane Cheviot Goat ym mis Mawrth, wedyn dwi'n cymryd rhan mewn ras wyth diwrnod y Cape Wrath, yn yr Alban.

"Ar ôl hynny... Cefn y Ddraig eto, er mwyn amddiffyn a chadw'r tlws yng Nghymru!"

Enillodd Simon Roberts y ras gydag amser o 45 awr, 42 munud ac 11 eiliad
Simon Roberts yn ennill ras Cefn y Ddraig yn 2021. Gorffennodd y ras gydag amser o 45 awr, 42 munud ac 11 eiliad gan ddod y Cymro cyntaf i gipio'r dlws No Limits Photography

Hefyd o ddiddordeb: