Sport

Rhedwr ar Crib Goch
Enillydd y ras Simon Roberts - y Cymro cyntaf i fod yn fuddugol - yn canolbwyntio wrth groesi Crib Goch ar y diwrnod cyntaf NO LIMITS

Rhedeg o Gonwy i Gaerdydd ar hyd mynyddoedd uchaf Cymru mewn chwe diwrnod gan ddringo dwywaith maint Everest - does ryfedd ei bod yn cael ei adnabod fel un o'r rasys mynydd caletaf yn y byd.

Eleni fe wnaeth 367 rhedwr ddechrau Ras Cefn y Ddraig a dim ond 91 oedd yn dal i gystadlu ar y diwrnod olaf, ar ddydd Sadwrn 11 Medi.

A does 'na ddim syndod chwaith gyda thirwedd a thywydd mor ddidrugaredd, fel mae'r oriel luniau yma yn dangos.

Cychwyn y ras yng nghastell Conwy
Castell Conwy oedd man cychwyn y ras wrth i 367 o redwyr o 24 gwlad wahanol ddechrau ar eu taith NO LIMITS
Rhedwr yn dringo mynydd caregog ar y diwrnod cyntaf
Ar ôl gadael Conwy, roedd y rhedwyr yn teithio ar draws y Carneddau a'r Glyderau cyn mynd am Yr Wyddfa a'i chriw... NO LIMITS
Rhedwr ar Crib Goch
Ond cyn yr Wyddfa roedd yn rhaid croesi Crib Goch NO LIMITS
Rhedwr ar Crib Goch
Katie Mills, enillydd ras y merched, ar Crib Goch NO LIMITS
Rhedwr wedi blino'n lan ar y diwrnod cyntaf
Roedd rhedeg yn y gwres yn anodd i'r cystadleuwyr NO LIMITS
NO LIMITS
O Nant Gwynant i Ddolgellau oedd diwrnod dau: 59 cilomedr, a 3400m o ddringo, yn cynnwys Y Cnicht a'r Rhinogydd, gan gofio cael stamp i brofi bod y copaon wedi eu cyrraedd NO LIMITS
Rhedwraig
Allan o'r 367 gychwynnodd dim ond 125 oedd dal yn y ras erbyn diwedd yr ail ddiwrnod. Un ohonyn nhw oedd Elaine Bison oedd ar y blaen yn ras y merched ar y pryd NO LIMITS
Criw o redwyr yn cael sgwrs diogelwch cyn dechrau'r ras
Diwrnod tri, a chyfarwyddiadau yn cael eu rhoi cyn i'r rhedwyr gychwyn ben bore NO LIMITS
Rhedwyr yn mynd lawr mynydd
Y sialens gyntaf ar ôl gadael Dolgellau oedd taclo Cadair Idris NO LIMITS
Rhedwr yn nol bwyd a diod o siop
Cyfle hanner ffordd i gael bwyd a diod ym Machynlleth NO LIMITS
Dau redwr ar ddiwrnod pedwar yn gadael y gwersyll lle mae'r cystadleuwyr yn aros dros nos
Diwrnod pedwar, a'r rhedwyr yn gadael y gwersyll lle roedden nhw'n aros dros nos NO LIMITS
Rhedwr yn mynd lawr y bryn trwy'r glaw
Roedd 69 cilomedr o redeg drwy Ddyffryn Elan a chanolbarth Cymru ar ddiwrnod pedwar, a phawb yn falch o gymylau a glaw am y tro cyntaf ers gadael Conwy NO LIMITS
Rhedwr yn yfed o afon
Ond doedd y glaw dim yn ddigon i rai... NO LIMITS
Rhedwr yn edrych ar ei fap
Mae'n rhaid i'r rhedwyr, fel Lewis Burrowes, o'r Unol Daleithiau, ddefnyddio map a chwmpawd i fynd o un lleoliad i'r llall NO LIMITS
Rhedwr yn y niwl diwrnod pump
Roedd angen sgiliau map gwych ar y pumed diwrnod NO LIMITS
Simon Roberts yn gorffen y ras
Ar ôl chwe diwrnod o redeg, cyrraedd Castell Caerdydd o'r diwedd. Y Cymro Simon Roberts yn ennill y ras a Russell Bentley, o Flaenau Ffestiniog, yn ail NO LIMITS
Simon Roberts gyda baner Cymru
Y ddraig ar gefn enillydd Cefn y Ddraig NO LIMITS
Katie Mills a Simon Roberts gyda'u tlysau am ennill y ras
Simon Roberts yn dathlu gydag enillydd ras y merched Katie Mills, sy'n byw yng Nghanada NO LIMITS

Hefyd o ddiddordeb: