Ers i'r achos cyntaf o coronafeirws gael ei gadarnhau yng Nghymru ddiwedd mis Chwefror, mae ymlediad yr haint wedi dechrau cael effaith cynyddol ar fywydau pobl.
Dros y misoedd diwethaf mae mwy a mwy o ddigwyddiadau wedi'u canslo, ac fe wnaeth y llywodraeth ofyn i bobl adael eu cartrefi pan fo hynny'n hanfodol yn unig.
Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Cymru wedi pasio'r gwaethaf, gyda Llywodraeth Cymru'n dechrau'r broses o lacio'r cyfyngiadau.
Dyma amserlen y datblygiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 hyd yma, gan gynnwys y twf cynyddol yn nifer yr achosion yng Nghymru.
28 Chwefror
- Prif swyddog meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cadarnhau'r achos cyntaf o coronafeirws yn y wlad. Roedd y claf, o Abertawe, wedi teithio yn ôl o ogledd Yr Eidal.
5 Mawrth
- Ail achos o coronafeirws yn cael ei gadarnhau yng Nghymru yn ardal Caerdydd.
7 Mawrth
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn lansio gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn helpu pobl i asesu symptomau coronafeirws.
9 Mawrth
- Gêm rhwng merched Cymru a'r Alban wedi ei gohirio ar ôl i un o garfan Yr Alban brofi'n bositif am coronafeirws.
10 Mawrth
- Rhybudd gan Brif Weinidog Cymru y gallai effaith coronafeirws gael ei deimlo "dros nifer o wythnosau", ac y gallai'r "sefyllfa waethaf" weld hyd at 80% o boblogaeth Cymru gael y feirws.
- Naw achos arall - y nifer fwyaf i'w gyhoeddi hyd yma - gyda'r cyfanswm yng Nghymru bellach yn 15.
- Gweithwyr mewn canolfan alwadau Sky yng Nghaerdydd yn cael eu hanfon adref wedi i'r cwmni ddweud bod aelod o staff â coronafeirws.
11 Mawrth
- Pedwar achos arall o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yma i 19.
- Heddlu De Cymru yn cadarnhau fod heddwas sydd yn gweithio ym Merthyr Tudful wedi derbyn diagnosis positif. Yn gynharach yn y dydd fe gadarnhaodd rheolwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yng Nghasnewydd bod un o'r gweithwyr yno wedi cael prawf positif.
- Banc Lloegr yn cyhoeddi gostyngiad brys i gyfraddau llog o 0.75% i 0.25% - yn gyfartal â'r lefel isaf o fenthyca erioed.
12 Mawrth
- Canslo gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r UDA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 30 Mawrth.
- Chwe achos newydd o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru, gan gynnwys yr achos cyntaf yn y gogledd.
- Cystadleuaeth y Pro14 wedi cael ei gohirio am gyfnod amhenodol.
13 Mawrth
- Pryder ynglŷn â'r effaith ar arholiadau TGAU a Lefel A wrth i ysgolion ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o orfod cau.
- 13 achos newydd o coronafeirws - y cyfanswm yma yn codi i 38.
- Undeb Rygbi Cymru yn cadarnhau fod y gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 14 Mawrth wedi'i gohirio.
14 Mawrth
- Cadarnhau 22 achos newydd o'r coronafeirws, gan gynnwys 10 person arall yn Abertawe.
- Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi y bydd gemau ar bob lefel yn cael eu gohirio am o leiaf pythefnos.
15 Mawrth
- Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud na ddylai pobl ffonio gwasanaeth 111 fel y cam cyntaf bellach os ydyn nhw'n amau fod ganddyn nhw coronafeirws.
16 Mawrth
- Cadarnhad bod y claf cyntaf o Gymru wedi marw ar ôl cael y clefyd Covid-19.
- Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gohirio tan 2021 - allai olygu "ergyd ariannol o bron i £4m" i'r mudiad.
- Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn galw ar bobl i osgoi unrhyw gysylltiad diangen ag eraill i atal lledaenu'r feirws.
17 Mawrth
- Cadarnhau bod ail glaf o Gymru wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif.
- Pencampwriaeth Euro 2020 yn cael ei ohirio tan haf 2021. Roedd gêm olaf Cymru i fod yn Rhufain yn erbyn Yr Eidal.
- Y Swyddfa Dramor yn dweud wrth ddinasyddion Prydain osgoi teithio dramor am o leiaf 30 diwrnod os nad yw'n angenrheidiol.
18 Mawrth
- Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ar 20 Mawrth, a bydd arholiadau TGAU a Safon Uwch ddim yn cael eu cynnal yn yr haf.
- Camau i brofi gweithwyr iechyd hanfodol fel rhan o gynlluniau sy'n rhagdybio fod yr haint "yn lledu'n eang yn y gymuned".
- Rhybudd y gallai fod yn anodd cynnal angladdau unigol pe bai nifer y marwolaethau yn cyrraedd lefel y "senario gwaethaf".
19 Mawrth
- Llywodraeth Cymru i gael pwerau "llym" i ynysu a chadw unigolion os oes angen er mwyn atal ymlediad coronafeirws.
- Elusennau'n rhybuddio na fyddan nhw'n gallu darparu rhai o'u gwasanaethau am y tro oherwydd yr haint.
- Cyhoeddi bron i £1.4bn o gymorth i fusnesau er mwyn eu helpu i ddygymod â'r cyfnod ansicr.
20 Mawrth
- Cadarnhad fod trydydd claf wedi marw ar ôl dioddef o haint Covid-19.
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi bod tafarndai, tai bwyta a bariau Cymru yn cau nos Wener, yn ogystal â chanolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio.
- Cadarnhau pwy yw'r 'gweithwyr allweddol' fydd yn cael cymorth i barhau i fynd ati gyda'u swyddi.
22 Mawrth
- Saith arall wedi marw yng Nghymru o achos haint Covid-19.
- Galw ar ymwelwyr i gadw draw o barciau cenedlaethol a pharciau gwyliau wedi i ymwelwyr heidio i Gymru.
- Her newydd yn wynebu banciau bwyd o achos yr argyfwng - wrth i nifer o wirfoddolwyr hŷn gadw draw.
23 Mawrth
- Amserlenni newydd bellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwasanaethau bws a threnau ar hyd a lled Cymru.
- 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" yn cael eu cynghori drwy lythyr i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos.
24 Mawrth
- Diwrnod cyntaf mesurau newydd yn gorfodi pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu nwyddau fferyllol, ymarfer corff unwaith y diwrnod, rhoi gofal iechyd neu weithio.
- Unedau gofal critigol Cymru'n 45% llawn ar hyn o bryd, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
- Y Cynulliad yn cymeradwyo deddf newydd i daclo'r feirws.
25 Mawrth
- Rhyddhau rhagor o gyfarpar diogelwch personol ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol rheng flaen.
- Apêl ar i fferyllfeydd beidio â chodi ffi am ddosbarthu meddyginiaethau.
- Gwyddonwyr o Gymru'n dadansoddi cod genetig Covid-19 er mwyn deall mwy am y modd mae'r feirws yn lledaenu.
26 Mawrth
- Rhybudd y gallai rhai cleifion canser farw am na fydd gofal dwys ar gael iddyn nhw oherwydd coronafeirws.
- 741 o achosion a 28 o farwolaethau bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru, wrth i gyfarwyddwr bwrdd iechyd gymharu'r patrwm yng Ngwent i'r un yn yr Eidal.
27 Mawrth
- Pryder nad yw pobl hŷn, anabl neu fregus yng Nghymru yn gallu cael blaenoriaeth wrth gael bwyd wedi'i gludo i'w cartrefi yn ystod yr argyfwng.
- Rhybudd y bydd coronafeirws yn cael "effaith ddifrifol" ar bysgotwyr, gyda dim dim marchnad i'r cynnyrch maen nhw'n ei ddal.
- Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi trefnu i ddefnyddio Stadiwm Principality fel ysbyty dros dro er mwyn taclo'r feirws.
28 Mawrth
- Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni profi, fyddai wedi caniatáu cynnal 5,000 o brofion Covid-19 yn ychwanegol bob dydd, wedi methu.
- Heddluoedd yn stopio teithwyr ar rai o ffyrdd prysura' Cymru i sicrhau bod eu siwrne wir yn angenrheidiol.
- FSB Cymru'n dweud bod diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn costio amser a busnes i gwmnïau.
29 Mawrth
- Cymdeithas y BMA yn dweud bod meddygon mewn rhannau o Gymru yn gorfod prynu eu hoffer amddiffynnol personol (PPE) eu hunain.
- Meddyg teulu o Wynedd yn dweud eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i baratoi ar gyfer trin cleifion Covid-19.
- Annog teuluoedd i gael sgyrsiau am farwolaeth a thrafod eu dymuniadau petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael.
30 Mawrth
- Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi y bydd Prifwyl Ceredigion 2020 yn cael ei gohirio am flwyddyn yn sgil yr argyfwng.
- Datgelu pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
- Ffred a Meinir Ffransis yn cyrraedd 'nôl adref i Gymru ar ôl bod yn gaeth ym Mheriw am bythefnos.
- Rhai o weithwyr y gwasanaeth iechyd yn cael trafferth sicrhau gofal i blant ifanc am fod meithrinfeydd yn cau.
31 Mawrth
- Gweinidog iechyd Cymru'n dweud y byddai'r cytundeb am fwy o brofion, wnaeth ddymchwel, "wedi gwneud gwahaniaeth cynnar".
- Pryder ynglŷn â diffyg sgiliau petai ffermwyr yn cael eu taro'n wael gan coronafeirws.
- Llywodraeth Cymru'n cyhuddo Tesco o "ymgyrch lobïo enfawr" yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi seibiant trethi busnes i'r cwmni.
1 Ebrill
- Cymru'n cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 mewn un diwrnod ers i'r feirws ddechrau ymledu, sef 29, sy'n dod â'r cyfanswm yma i 98.
- Llywodraeth Cymru'n cadarnhau mai'r cwmni tu ôl i'r cytundeb methedig i ddarparu offer profi Covid-19 oedd cwmni fferyllol Roche o'r Swistir.
- Meddygfa ym Maesteg yn ymddiheuro am yrru llythyr at gleifion gyda salwch angheuol gan ofyn iddyn nhw gwblhau ffurflen i "beidio adfywio".
- Cyngor Celfyddydau Cymru'n cyhoeddi cronfa gwerth £7m i ddiogelu'r sector rhag effaith y pandemig.
2 Ebrill
- Canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi i weithwyr iechyd a gofal ar ddefnyddio offer diogelu personol (PPE).
- Galw am newid i daliadau Credyd Cynhwysol er mwyn rhoi arian ar frys i bobl sy'n colli gwaith yn sgil pandemig y coronafeirws.
- Pryder y gallai canolfan Chapter yng Nghaerdydd gau yn barhaol yn sgil yr argyfwng.
3 Ebrill
- Ffermwyr yn poeni y bydd eu teuluoedd yn cael eu heintio wrth i nifer cynyddol o bobl gerdded ar eu tir.
- Elusen Achub y Plant yn dweud fod 56% o rieni yn poeni am effaith pandemig ar iechyd meddwl eu plant.
- Y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud fod Cymru "ar y trywydd" i drechu coronafeirws.
4 Ebrill
- Y Prif Weinidog a rhai o brif sefydliadau gogledd Cymru yn erfyn ar bobl i beidio gwneud teithiau diangen ac i ymwelwyr gadw draw.
5 Ebrill
- Gweinidog iechyd Cymru'n dweud bod y gwasanaeth iechyd yn paratoi i ddyblu nifer y gwelyau sydd ar gael gydag ysbytai dros dro.
- Rhybudd fod gwasanaethau iechyd sydd ddim yn gysylltiedig â Covid-19 hefyd yn wynebu amseroedd "heriol".
6 Ebrill
- Apêl ar bobl i ddefnyddio ffynonellau dibynadwy rhag achosi pryder i eraill trwy rannu straeon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Pryder y bydd yna farwolaethau ymhlith merched sy'n byw gyda chymar treisgar yn sgil y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi.
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd rhieni sydd mewn swyddi allweddol yn cael gofal plant am ddim ar gyfer plant o dan bump oed yn ystod yr argyfwng.
- Gwleidyddion Cymru'n dymuno'n dda i Boris Johnson wedi iddo gael ei symud i uned gofal dwys mewn ysbyty yn Llundain gyda Covid-19.
7 Ebrill
- Rheolau newydd yn dod i rym sy'n gorfodi cyflogwyr yng Nghymru i sicrhau "camau rhesymol" er mwyn cadw eu staff o leiaf ddau fetr i ffwrdd o'i gilydd.
- Teyrngedau wedi eu rhoi i lawfeddyg calon blaenllaw yng Nghaerdydd - Jitendra Rathod - fu farw â coronafeirws.
- Gweinidog Iechyd Cymru'n dweud ei fod yn gobeithio sefydlu "rhwydwaith" o ganolfannau prawf coronafeirws o fewn dyddiau.
8 Ebrill
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau coronafeirws gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf yn parhau tu hwnt i'r tair wythnos wreiddiol.
- Comisiynydd Heddlu'n dweud na ddylai heddweision gael eu defnyddio fel "arolygwyr ffatri" i orfodi rheolau ymbellhau cymdeithasol.
- Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried stopio angladdau yn ystod yr argyfwng.
9 Ebrill
- Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd y cyfyngiadau ar bobl yn gadael eu cartrefi yn parhau, ddiwrnod ar ôl cyhoeddiad tebyg gan Lywodraeth Cymru.
- Perchennog cartrefi gofal yn dweud bod dau gwmni wedi gwrthod gwerthu offer gwarchod personol iddi, gan fod y deunydd wedi ei gadw ar gyfer cwsmeriaid yn Lloegr.
- Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod pobl wedi symud i dai haf.
10 Ebrill
- Cyngor Sir Gâr yn cyrchu ei gyflenwadau ei hun o offer PPE oherwydd "diffyg tryloywder" cyflenwadau Llywodraeth Cymru.
- Cronfa gafodd ei sefydlu i helpu elusennau Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws wedi codi £1m.
- Yr heddlu'n addo targedu'r rhai sy'n torri'r rheolau'n ymwneud â theithio diangen dros y Pasg.
11 Ebrill
- Plaid Cymru'n dweud bod rhaid i brofion coronafeirws yng Nghymru beidio â dod yn destun "loteri côd post".
- Angen cynyddu maint y dirwyon sy'n cael eu rhoi i bobl sy'n parhau i deithio'n ddiangen, yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.
- Undeb Unsain Cymru'n dweud fod prinder offer diogelwch personol yn "lladd" staff rheng flaen.
12 Ebrill
- Y Prif Weinidog yn diolch i bobl am aros adref, ond yn rhybuddio bod "ffordd bell i fynd" cyn llacio'r cyfyngiadau.
- Plaid Cymru'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael gafael ar offer PPE o dramor, yn hytrach na dibynnu ar Lywodraeth y DU.
- Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn gadael yr ysbyty ar ôl cael ei drin am coronafeirws, ond ni fydd yn dychwelyd i'w waith am y tro.
13 Ebrill
- Undebau'n dweud eu bod yn clywed "straeon arswydus" am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE ar gyfer gweithwyr y gwasanaeth iechyd.
- Pobl oedd i fod i ddechrau swyddi newydd yn ystod y pandemig coronafeirws yn "disgyn trwy'r rhwyd" heb unrhyw gymorth, yn ôl undeb TUC Cymru.
14 Ebrill
- Ffrae yn codi rhwng Llywodraeth Cymru ac un o gynghorau Cymru ynglŷn â'r niferoedd o bobl sy'n cael eu cyfeirio at ganolfannau ar gyfer profion Covid-19.
- Galw am eglurder wrth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi bod mwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 na'r hyn sy'n cael ei adrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Cyn-aelod seneddol Llafur yn lleisio ei phryderon am brofion coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn marwolaeth ei gŵr.
15 Ebrill
- Y Coleg Nyrsio Brenhinol yn bryderus am effaith argyfwng coronafeirws ar iechyd meddwl staff y gwasanaeth iechyd.
- Llywodraeth Cymru'n ymddiheuro ar ôl i 13,000 o lythyrau ar gyfer y bobl fwyaf bregus gael eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir.
- Un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru yn rhybuddio y gallai Covid-19 fod "yma i aros" ac y gallai'r gwaharddiad ar gynnal digwyddiadau barhau am fisoedd eto.
16 Ebrill
- Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cadarnhau y bydd mesurau arbennig sy'n cyfyngu ar symudiadau pobl yn parhau mewn grym yng Nghymru am dair wythnos arall.
- Ysbyty yng Nghymru sy'n treialu triniaeth plasma arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws wedi'i disgrifio fel "llygedyn o obaith".
- Ehangu llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr rheng flaen GIG Cymru, wrth i'r pryder am eu hiechyd meddwl gynyddu.
17 Ebrill
- Mark Drakeford yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i barhau gyda chyfyngiadau coronafeirws hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu llacio mewn rhannau eraill o'r DU.
- Darparwyr gofal plant yn cael eu "hanwybyddu" yn yr ymateb i'r pandemig, yn ôl Mudiad Meithrin a chyrff eraill.
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n dweud bod angen gweithredu ar frys er mwyn cefnogi pobl mewn cartrefi gofal.
18 Ebrill
- Cynghorau lleol yn colli dros £30m y mis mewn incwm oherwydd coronafeirws, medd arweinydd Llywodraeth Leol Cymru.
- Arolwg Coleg Brenhinol y Nyrsys yn dweud fod prinder offer diogelwch personol yn achosi "gofid anferth ac yn dwysau pryder" i nyrsys Cymru.
- Ymgynghorydd meddygaeth aciwt yn rhannu ei brofiadau am coronafeirws, gan ddweud mai'r syndod mwyaf yw'r effaith ar gleifion ifanc.
19 Ebrill
- 575 o bobl wedi marw tra'n dioddef o'r feirws yng Nghymru bellach, gyda 7,270 wedi cael prawf positif.
- Y Prif Weinidog yn cydnabod nad yw'r system i brofi am coronafeirws yng Nghymru wedi bod yn "ddigon da" hyd yma.
20 Ebrill
- Prawf cyflym ar gyfer Covid-19 wedi'i ddatblygu gan wyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
- Mark Drakeford yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn gosod targed newydd am brofion coronafeirws, ar ôl methu â chyrraedd y targed o 5,000 prawf y dydd erbyn canol Ebrill.
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n rhoi teyrnged i'r parafeddyg cyntaf i farw â coronafeirws yma - Gerallt Davies.
21 Ebrill
- Coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd.
- Y gwyddonydd Nobel, yr Athro Syr Martin Evans yn cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" ynglŷn â'u hymateb i'r pandemig.
- Wrth i Dŷ'r Cyffredin ailgydio yn ei waith wedi'r Pasg, mae Plaid Cymru'n dweud y dylai pob dadl yno gael ei gynnal ar-lein dan yr amgylchiadau presennol.
22 Ebrill
- Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud y byddai wedi bod yn "anodd tu hwnt" i barhau tu hwnt i'r pandemig coronafeirws heb gymorth gan Lywodraeth Cymru.
- Merch dyn o Wynedd, fu farw gyda coronafeirws, yn erfyn ar bobl i beidio â theithio'n ddiangen er mwyn atal lledaenu'r haint.
- Uwch feddygon o bob rhan o Gymru wedi galw mewn llythyr agored at y Prif Weinidog i wneud defnyddio ail gartrefi yn ystod y pandemig yn anghyfreithlon.
23 Ebrill
- Pryder bod nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant.
- Meddygon yn rhybuddio rhieni i beidio â gohirio gofyn am gymorth meddygol i'w plant, wedi cwymp mawr yn nifer y plant sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty.
- Adroddiad yn rhybuddio y gallai prifysgolion Cymru wynebu gostyngiad o bron i £100m yn eu hincwm o ganlyniad i'r pandemig.
24 Ebrill
- Rhai o'r cyfyngiadau ar gyfer atal ymlediad Covid-19 yn cael eu cryfhau i "fynd i'r afael â heriau sy'n cael eu hwynebu mewn rhannau o'r wlad".
- Daeth i'r amlwg fod 84 o bobl gyda coronafeirws wedi marw dan ofal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, heb iddyn nhw gael eu cofnodi.
- 14 o breswylwyr oedrannus mewn cartref gofal yng Nghasnewydd wedi marw yn dioddef o symptomau Covid-19, ond yr un wedi cael prawf.
25 Ebrill
- Pryder nad yw rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ar deithio yn mynd yn ddigon pell i atal ymwelwyr.
- 774 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru bellach, gyda 8,900 wedi cael prawf positif.
26 Ebrill
- Mark Drakeford yn dweud bod "rhaid i bobl wybod bod y cofnod o farwolaethau yn gwbl ddibynadwy", wedi i Betsi Cadwaladr dan-adrodd eu hachosion.
- Darparwyr cartrefi gofal yn rhybuddio y gallai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal o fewn blwyddyn oherwydd coronafeirws, os nad ydyn nhw'n cael cymorth.
27 Ebrill
- System adrodd achosion gwahanol i weddill y GIG oedd yn gyfrifol am dan-adrodd marwolaethau Covid-19 ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
- Cyhoeddiad y bydd £60,000 yn cael ei dalu i deuluoedd gweithwyr iechyd a gofal sy'n marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.
- Yr heddlu'n dweud eu bod yn "anobeithio" ar ôl i fwy o ymwelwyr gael eu hanfon adref o'r gogledd dros benwythnos braf.
28 Ebrill
- 31 o farwolaethau coronafeirws ym Mwrdd Iechyd Hyweld Dda heb eu cynnwys yn ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru - yr ail fwrdd iechyd i dan-adrodd marwolaethau.
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n ymwneud â coronafeirws bellach dros 1,000.
- Y gwrthbleidiau'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "torri addewidion" ar gannoedd o beiriannau anadlu coll, gyda llawer llai na'r hyn oed wedi'i addo wedi cyrraedd.
29 Ebrill
- Cyhoeddiad na fydd Cymru'n dilyn Lloegr trwy ehangu profion mewn cartrefi gofal.
- Cyn brif weinidog y DU, Gordon Brown i gynorthwyo gydag adferiad economaidd Cymru.
- Galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn parhau i gael brechiadau angenrheidiol yn ystod y pandemig coronafeirws er mwyn atal heintiau eraill rhag lledaenu.
30 Ebrill
- Prif Swyddog Meddygol Cymru'n galw am fwy o ddealltwriaeth am sut effaith mae coronafeirws yn ei gael ar wledydd eraill.
- 67% o'r cyhoedd yn credu bod y cyfyngiadau i reoli coronafeirws yn briodol, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Pryder bod diffyg cyfarpar diogelwch PPE i weithwyr cymdeithasol ar y rheng flaen.
1 Mai
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn taliad ychwanegol o £500 i gydnabod ymdrechion y gweithlu.
- Llywydd y Cynulliad yn dweud fod angen polisi arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig cyn ystyried llacio'r cyfyngiadau.
- Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chanslo oherwydd y pandemig.
2 Mai
- Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod cyfanswm o 969 o bobl wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19.
- Clybiau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru'n disgrifio'r argyfwng fel un "arbennig o heriol yn ariannol".
3 Mai
- Undebau addysg yn datgan dryswch yn dilyn sylwadau'r Prif Weinidog Mark Drakeford am amserlen Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion.
- Cwmni o dde Cymru'n hyderus y gall prawf gwrthgyrff coronafeirws dibynadwy fod yn barod ar gyfer ei gynhyrchu ar raddfa eang erbyn mis Mehefin.
4 Mai
- Adroddiad ddaeth i law y BBC yn awgrymu y gallai fod angen tua 30,000 o brofion pob dydd pe bai galw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i brofi pawb sydd â symptomau.
- Un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru yn dweud mai "gadael plant 'nôl i'r ysgol" fydd un o'r camau cyntaf wrth lacio'r cyfyngiadau.
- Dyn fu'n agos at farw â coronafeirws yn dweud y bydd yn cymeradwyo staff y gwasanaeth iechyd pob dydd am weddill ei oes am achub ei fywyd.
5 Mai
- Llywodraeth Cymru yn wfftio adroddiad oedd yn awgrymu y byddai Cymru angen 36,000 o brofion pob dydd i dracio ac olrhain coronafeirws.
- Rhybudd gan brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd y bydd y feirws yn "dod yn ôl â dialedd" pe bai'r cyfyngiadau'n cael eu llacio'n rhy gyflym.
- Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud fod yr awdurdod wedi colli hyd at £9m o incwm hyd yma oherwydd yr argyfwng.
6 Mai
- Llywodraeth Cymru'n dweud mai'r bwriad ydy symud "mor agos ag y gallwn ni" i weddill y DU wrth lacio cyfyngiadau coronafeirws.
- Argyfwng coronafeirws am gostio £20m mewn costau ychwanegol i Gyngor Caerdydd rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig.
- Y cyn-Aelod Seneddol Ann Clwyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â pharhau i orfodi'r henoed yn unig i hunan ynysu.
7 Mai
- Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn cadarnhau na fydd ysgolion Cymru'n ailagor ar 1 Mehefin.
- Prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrth bwyllgor iechyd y Senedd ei bod "ddim yn gyfarwydd" â tharged Llywodraeth Cymru i gynnal 9,000 o brofion erbyn diwedd Ebrill.
8 Mai
- Ymestyn y cyfnod clo yng Nghymru ond ymlacio'r rheolau ar ymarfer corff a llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio yn cael caniatad i ailagor o 11 Mai.
- Cyngor Sir Penfro'n dweud bod yr argyfwng coronafeirws wedi golygu gwariant ychwanegol o £11m i'r awdurdod.
9 Mai
- Prif Weinidog Cymru'n cydnabod fod ymestyn y cyfyngiadau yn "ofyn mawr", a'i fod yn cael effaith ar les meddyliol pobl.
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd cymorth yn cael ei roi i'r ffermwyr llaeth sydd wedi cael eu taro waethaf gan yr argyfwng.
10 Mai
- Prif Weinidog Cymru'n pwysleisio bod dim newid i'r cyngor yng Nghymru wedi i Boris Johnson amlinellu camau i lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr.
- Gweinidog Iechyd Cymru'n gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU, fydd ddim bellach yn defnyddio'r geiriau "aros adref".
11 Mai
- Pobl Cymru bellach yn cael ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd fel rhan o fesurau i lacio mymryn ar gyfyngiadau cymdeithasol.
- Arwyddion ffyrdd i gael eu gosod ar y ffyrdd rhwng Cymru a Lloegr i atgoffa gyrwyr nad oes gan bobl hawl i deithio o'u cartrefi er mwyn gwneud ymarfer corff yng Nghymru.
12 Mai
- Ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos 1,641 o farwolaethau yng Nghymru hyd yn hyn lle mae Covid-19 wedi bod yn ffactor.
- Galw am hyfforddi rhagor o feddygon gofal dwys.
- Pryder am effaith cwtogi gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.
13 Mai
- Awgrym y gallai cynllun profi, olrhain a dilyn achosion coronafeirws fod yn weithredol erbyn diwedd Mai.
- Babi tri diwrnod oed yn marw wedi i'w fam gael Covid-19.
- Economi'r DU'n crebachu wrth i gyfyngiadau Covid-19 daro.
14 Mai
- Llywodraeth Cymru'n gwadu bod yn rhaid i weithwyr allweddol groesi'r ffin am brofion yn dilyn awgrym mewn llythyr gan un o adrannau Llywodraeth y DU.
- Adroddiad yn awgrymu fod ardaloedd difreintiedig yn dioddef mwy o farwolaethau Covid-19 ar gyfartaledd yng Nghymru nag ardaloedd eraill.
- Comisiynydd heddlu'n beirniadu Prif Weinidog am beidio cynyddu'r dirwyon am dorri'r rheolau ynysu.
15 Mai
- Mark Drakeford yn cyhoeddi manylion system goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau yng Nghymru ond heb gynnig amserlen benodol.
- Y Gweinidog Addysg yn dweud hefyd fod dim dyddiad penodol i blant ddychwelyd i'r ysgol eto.
16 Mai
- Rhybudd i bobl beidio â thorri cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru dros y penwythnos cyntaf ers i Boris Johnson lacio cyfyngiadau teithio yn achos trigolion Lloegr.
- Canolfannau ailgylchu Cymru'n paratoi i ailagor yn ystod yr wythnos nesaf.
17 Mai
- Llywodraeth Cymru'n ymuno â chynllun profi'r DU gan roi'r gorau i safle ar-lein eu hunain.
- Rhai gwasanaethau ffrwythloni IVF i ailagor.
18 Mai
- Arbenigwr fu'n rhan o ymchwiliad Hong Kong i SARS yn dweud fod angen i Gymru gydweithio â gweddill y DU i gael adnoddau delio â Covid-19.
- Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pawb dros bump oed gyda symptomau coronafeirws nawr yn gymwys i gael prawf Covid-19 - gan gynnwys yng Nghymru
- Dylai pobl sydd wedi colli eu synnwyr arogli hunan-ynysu, yn ôl y cyngor meddygol diweddaraf.
19 Mai
- Caniatáu cwrdd â pherthnasau dan amodau penodol 'dan ystyriaeth', medd Llywodraeth Cymru.
- 1,852 wedi marw â coronafeirws yng Nghymru hyd at 8 Mai, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
- Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra.
- Cynghreiriau Cymru ar ben oherwydd y pandemig sy'n golygu taw Cei Conna yw pencampwyr yr Uwchgynghrair eleni.
20 Mai
- Cannoedd o swyddi cwmni British Airways dan fygythiad yn ne Cymru wrth i'r argyfwng Covid-19 daro'r sector awyrofod.
- Llywodraeth Cymru'n lansio cynllun cefnogi'r sector addysg ôl-16.
- Y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghymru i gynyddu o £120 i £1,920 cyn penwythnos gŵyl y banc.
21 Mai
- Galwad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.
- Sefydlu ysbytai maes, ble mae 35 o gleifion wedi cael triniaeth hyd yn hyn, wedi costio £166m.
- Ffatri ger Pen-y-bont i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu prawf gwrthgyrff ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.
22 Mai
- Bron i un ymhob chwech o'r rheiny sydd wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru hefyd wedi bod yn byw gyda diabetes, yn ôl tystiolaeth yr ONS.
- Bydd 500 o wirfoddolwyr o Gymru yn cael eu recriwtio i brofi brechlyn newydd yn erbyn coronafeirws.
23 Mai
- Pobl yng Nghymru sydd eisiau prawf coronafeirws gyrru drwodd yn dal i fethu â defnyddio system archebu ar-lein Llywodraeth y DU.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd bod chwech yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19 gan godi'r ffigwr i 1,260.
24 Mai
- Rhybudd gan weinidog economi Cymru y gallai'r sector twristiaeth ddioddef tan o leiaf Pasg 2021.
- Arweinwyr cyngor yn codi pryderon am y diffyg profion Covid-19 mewn cartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig.
25 Mai
- Llywodraeth y DU yn darparu hyd at £23m o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i'w helpu ymateb i'r argyfwng.
- Rhybudd bod papurau newydd lleol mewn perygl o ddiflannu yn ystod y pandemig.
26 Mai
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod 2,007 o farwolaethau yng Nghymru yn ymwneud â coronafeirws hyd at 15 Mai.
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud y bydd hi'n cymryd cenhedlaeth i gynghorau Cymru dalu am effeithiau'r pandemig.
27 Mai
- Llywodraeth Cymru'n amlinellu sut y bydd £2.4bn o arian ychwanegol yn cael ei wario er mwyn helpu cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus yn y pandemig.
- Yr argyfwng wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddatganoli, yn ôl gwleidyddion.
- Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried gosod cyfyngiadau lleol mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad, yn groes i'r bwriad yn Lloegr.
28 Mai
- Gweithwyr iechyd yn pwysleisio bod cymorth meddygol ar gael i bobl sydd ddim â Covid-19 hefyd yn ystod yr argyfwng.
- Rhybudd y bydd y pandemig yn "ergyd farwol" i rai o sioeau amaethyddol Cymru.
29 Mai
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn cael eu llacio rhywfaint yng Nghymru o 1 Mehefin.
- Undeb addysg yn dweud fod y gweinidog addysg wedi cefnu ar argymhelliad i symud gwyliau'r haf fis yn gynharach yn y flwyddyn.
30 Mai
- Y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ffafrio" beicwyr gyda'u canllawiau coronafeirws diweddaraf.
- Pobl yng Nghymru bellach yn gallu archebu profion coronafeirws drwy wefan sy'n cael ei ddefnyddio gan weddill y DU.
31 Mai
- Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi y bydd pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain rhag coronafeirws yn cael ymarfer corff a chwrdd â phobl tu allan o 1 Mehefin.
- Plaid Cymru'n rhybuddio y gallai'r diwydiant twristiaeth gael ei "ddinistrio" gan y pandemig os nad yw'r llywodraeth yn gwneud mwy i'w helpu.
1 Mehefin
- Pobl sy'n dod i gysylltiad gyda rhywun a gafodd brawf positif am Covid-19 yn cael eu holrhain o heddiw ymlaen.
- Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu cyflenwad o offer diogelwch personol yn "sefydlog ond yn fregus", wrth i Goleg Brenhinol y Nyrsys alw am wneud mwy i baratoi am ail don posib o achosion Covid-19.
2 Mehefin
- ONS yn cyhoeddi bod cyfanswm o 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws yng Nghymru. Yn yr wythnos hyd at 22 Mai roedd yna 134 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 - y cyfanswm wythnosol isaf ers dechrau Ebrill.
- Deintyddion blaenllaw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o ganiatáu deintyddion i ddarparu mwy na gofal brys yn unig.
- Gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething yn rhybuddio y gallai rhai o'r cyfyngiadau gael eu tynhau unwaith eto yn y gaeaf yn ddibynnol ar ba mor amlwg ydy'r feirws ac ar ymddygiad pobl.
3 Mehefin
- Cadarnhad y bydd ysgolion Cymru'n ailagor ar 29 Mehefin.
- 'Angen pwyllo wrth godi cyfyngiadau'n raddol' medd y Gweinidog Iechyd.
- Gwrthbleidiau'n galw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19.
4 Mehefin
- Ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin oedd yr ail opsiwn gorau yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
- Gweinidog Addysg Cymru 'wedi ymgynghori'n llawn' ag undebau cyn penderfyiadu ailagor ysgolion.
- Ymchwil yn awgrymu taw'r Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd fydd yn 'dioddef fwyaf'
5 Mehefin
- Llywodraeth Cymru ddim am "ruthro i wneud penderfyniad" ynghylch gorfodi pobl i orchuddio'u hwynebau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Rhybudd bod theatrau Cymru'n colli £1.4m yr wythnos yn sgil y pandemig.
- Dros 1,000 o geir wedi'u eu hanfon o Fannau Brycheiniog dros gyfnod o ddeuddydd am dorri rheolau'r cyfyngiadau.
6 Mehefin
- Ffigwr blaenllaw yn Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod gwisgo gorchudd dros eich wyneb i atal lledaeniad coronafeirws yn "rhesymol".
- Aelod Seneddol yn rhybuddio y gallai busnesau twristiaeth antur "ddiflannu o'r map" heb fwy o gefnogaeth.
7 Mehefin
- Y Prif Weinidog eisiau canlyniadau mwy o brofion Covid-19 wedi'u dychwelyd o fewn 24 awr.
- Mark Drakeford yn gobeithio y gall pobl ganfod ffyrdd gwahanol i brotestio yn ystod y pandemig.
8 Mehefin
- 'Dim addewidion' wrth ystyried ailagor bwytai a thafarndai yng Nghymru.
- 54% o blant Cymru'n 'poeni am eu haddysg'.
9 Mehefin
- Cyngor swyddogol newydd i wisgo gorchudd wyneb yng Nghymru.
- Undeb Athrawon yn galw eto ar y Gweinidol Addysg i ollwng cynlluniau ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ddiwedd Mehefin.
- Galw i roi cefnogaeth seicolegol i weithwyr iechyd tebyg i'r hyn mae milwyr yn ei gael.
10 Mehefin
- Canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion yng Nghymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan.
- Llywodraeth Cymru'n gobeithio "gallu dweud rhywbeth positif" wrth y diwydiant twristiaeth pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio ym mis Gorffennaf.
- Sir Ddinbych bellach â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru gyfan, gan basio Rhondda Cynon Taf.
11 Mehefin
- Mwy na 300,000 o weithwyr Cymru wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo - dros chwarter y gweithlu.
- Bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn adrodd niferoedd bychan o achosion positif bellach, gyda dim achosion newydd mewn nifer.
- Arweinwyr y diwydiant twristiaeth yn dweud bod y neges fod "Cymru ar gau" yn un "anhygoel o niweidiol".
12 Mehefin
- Canolfan Mileniwm Cymru i aros ar gau tan "o leiaf" mis Ionawr 2021, gan beryglu 250 o swyddi.
- Mark Drakeford yn dweud na fydd yn newid ei ddull o ystyried newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws, "pa bynnag mor gryf yw'r galwadau".
- GDP y Deyrnas Unedig wedi crebachu 20.4% yn ystod mis Ebrill - y gostyngiad mwyaf ers i gofnodion ddechrau.
13 Mehefin
- Galwadau am newid rheolau ynglŷn â gallu dynion hoyw i roi gwaed a phlasma gwaed yn sgil y pandemig.
- Rhybudd bod y bydd sinemâu annibynnol yng Nghymru angen "cefnogaeth sylweddol am gyfnod hir er mwyn goroesi".
14 Mehefin
- Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am sefydlu cronfa £250m i helpu'r trefi sydd wedi eu taro waethaf gan y pandemig.
- "Disgwyl cyhoeddiad am agor addoldai yng Nghymru yn fuan," medd prif weithredwr Cytûn.
15 Mehefin
- Llywodraeth Cymru'n edrych ar wahanol feysydd lle mae modd llacio'r cyfyngiadau ond yn dweud bod yn rhaid blaenoriaethu diogelwch ac iechyd y cyhoedd.
- Myfyrwyr yn dechrau dychwelyd i golegau addysg bellach ledled Cymru wrth i'r cyfyngiadau gael eu lleddfu.
16 Mehefin
- Nifer y marwolaethau wythnosol yn ymwneud â coronafeirws wedi gostwng i'w lefel isaf yng Nghymru ers diwedd Mawrth.
- Y nifer sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud â diffyg gwaith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
- Arweinydd Cyngor Ceredigion yn awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol.
17 Mehefin
- "Fawr ddim" gwahaniaeth rhwng cadw pellter o 1m neu 2m", medd ymgynghorydd iechyd.
- Diffyg gwersi ar-lein yn 'anhygoel o siomedig'
18 Mehefin
- Dim ond un o ysbytai maes Cymru sydd wedi trin cleifion.
- '10,000 o swyddi twristiaeth y gogledd i ddiflannu'.
19 Mehefin
- Y rheol 'aros yn lleol' i newid ar 6 Gorffennaf a hwb i dwristiaeth fis nesaf.
- Ysgolion Sir Fôn i aros ynghau am y tro wedi i ffatri brosesu ieir yn Llangefni gau am fod gweithwyr wedi'u heintio.
20 Mehefin
- £15m i newid trefniadau teithio yn sgil coronafeirws.
- Y tymor pêl-droed yn ailddechrau i glybiau Caerdydd ac Abertawe.
21 Mehefin
- Rhybudd fod y diwydiant dur angen cymorth o fewn 'dyddiau nid wythnosau'.
22 Mehefin
- Siopau sy'n gwerthu nwyddau nad sy'n hanfodol wedi cael croesawu cwsmeriaid unwaith eto.
- Cyfyngiadau'n bosib wedi 175 o achosion Covid-19 mewn ffatri ym Môn.
- Nifer o gynghorau'n cyhoeddi y bydd eu hysgolion yn ailagor am dair wythnos yn unig ar ddiwedd y tymor.
- Dros fil o gleifion cartrefi gofal heb gael prawf Covid-19.
- Cwmni bwyd Castell Howell yn ymgynghori ar dorri swyddi oherwydd y pandemig.
23 Mehefin
- 200 o achosion bellach yn ffatri 2 Sisters Môn - achosion hefyd mewn ffatri brosesu cig ym Merthyr Tudful.
- 'Cadw rheol 2m yn rhoi prifysgolion Cymru mewn sefyllfa anodd'
- 'Bydd rhai disgyblion yn methu teithio i'r ysgol' am fod cludiant yn amrywio o sir i sir.
- Dyfais newydd all helpu mynd i'r afael ag ail don o achosion trwy fonitro lefelau ocsigen cleifion yn y gymuned.
24 Mehefin
- Dysgu ar-lein yn debygol o barhau 'am gryn amser', medd y Gweinidog Addysg.
- Ysgolion yn paratoi am newid mawr wrth ailagor ddydd Llun.
- 240 o swyddi 'yn y fantol' yn Wrecsam oherwydd effaith y pandemig ar y sector awyrofod.
25 Mehefin
- Cynghorau Cymru 'mewn safle gwell' na Lloegr i ddelio â Covid-19, medd y Gweinidog Cyllid.
26 Mehefin
- Rhybudd y gallai ffrwgwd torfol ar draeth ym Mro Morgannwg atal llacio'r cyfyngiadau.
- Mark Drakeford yn gobeithio gwneud cyhoeddiad mewn dyddiau ynghylch caniatáu 'swigod cymdeithasol'.
- Pryderon y gallai pobl Cymru sydd heb dderbyn ad-daliadau gan gwmnïau oherwydd Covid-19 golli £2.5m.
27 Mehefin
- Nifer y bobl sydd wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru bellach dros 1,500.
- Mannau cyhoeddus yn 'cael eu trin fel tomen sbwriel' wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
28 Mehefin
- Pryder wrth i ffigyrau swyddogol ddangos bod y raddfa o brosesu profion coronafeirws wedi arafu bob wythnos ers canol Mai.
- Rhaid cynllunio ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd wrth geisio ailagor ysgolion yn llawn ym mis Medi, medd y Gwenidog Addysg.
29 Mehefin
- Llywodraeth Cymu'n cyhoeddu hawl i ddwy aelwyd ffurfio 'cartref estynedig' o ddydd Llun 6 Gorffennaf.
- Disgyblion wedi dechrau dychwelyd i'w dosbarthiadau wedi i'r ysgolion orfod cau i'r mwyafrif am dri mis.
- 101 o achosion Covid-19 ymysg gweithlu ffatri Kepak, Merthyr Tudful.