Mae pump yn rhagor o bobl wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 1,502.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi hefyd bod 46 achos newydd - mae 15,577 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael prawf positif Covid-19.
Hyd yma mae 133,097 o unigolion wedi cael prawf yng Nghymru ac mae 117,520 o'r rheiny wedi bod yn negyddol.
Mae 172,079 o brofion wedi'u cynnal gyda rhai pobl wedi cael prawf fwy nag unwaith.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn seiliedig gan fwyaf ar farwolaethau sydd wedi digwydd mewn ysbytai.
- LLEDU: Pam bod coronafeirws yn lledu mewn ffatrïoedd cig?
- CANLLAW: Rhif R: Beth ydy o a pham ei fod yn bwysig
- AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
- Y GIG: Sâl? Mae'r GIG 'dal ar agor' er gwaethaf y pandemig