Sport

Beirniadu'r gwisg ffansi yng ngharnifal y Felinheli
Gŵyl y Felinheli

Wedi seibiant oherwydd y pandemig mae gŵyl gymunedol pentref Y Felinheli ar lannau'r Fenai wedi dychwelyd o'r diwedd ar gyfer wythnos o ddigwyddiadau a dathliadau.

"Mi fuodd na gynnwrf mawr ar lannau'r Fenai wrth i'r pentref ddod at ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers blynyddoedd," meddai Osian Owen o bwyllgor Gŵyl Y Felinheli ↗.

"Mi rydan ni'n teimlo'n falch ohoni. Dyma lle mae'r pentref cyfan yn dod ynghyd, o bob cenhedlaeth, i ddathlu'r gymuned unigryw ydan ni'n cael y fraint o fod yn rhan ohoni."

Dyma flas ar rhai o uchafbwyntiau'r wythnos mewn lluniau - o sioe dalent Stŵr wrth y Dŵr, noson gwis, Ras 10k, ffair cynnyrch lleol, noson lawen, a gorymdaith a charnifal ar y dydd Sadwrn olaf.

Stŵr wrth y dŵr, Gŵyl y Felinheli
Y babell yn orlawn ar noson Stŵr wrth y Dŵr Gŵyl y Felinheli
Stwr wrth y dwr, Gwyl y Felinheli
Dave Parry Evans a 'Cags' a'u giamocs blynyddol Gŵyl y Felinheli
Pobl mewn hetiau Mecsicanaidd
Aelodau o'r pwyllgor yn cael eu hypnoteiddio! Gŵyl y Felinheli
Llŷr Ifans
Llŷr Ifans yn diddannu ar Noson Stŵr wrth y Dŵr Gŵyl y Felinheli
Dau fachgen â thafodau glas yn bwyta fferins
Mae rhai yno am un rheswm yn unig... Gŵyl y Felinheli
Plant mewn cwch
Sesiwn Mentro Hwylio yng nghlwb hwylio'r pentref Gŵyl y Felinheli
Plant mewn cwch ar y dwr
Plant y Felin yn defnyddio'u holl nerth i wthio'n erbyn lli'r Afon Menai Gŵyl y Felinheli
Leisa Mererid yn dysgu ioga
O hwylio i synfyfyrio... blas ar ioga efo Leisa Mererid Gŵyl y Felinheli
Dwy wraig â photeli gwin
A blas ar win ar y Noson Blasu Gwin Gŵyl y Felinheli
Noson Cynnyrch Lleol Gwyl y Felinheli
Awyr las yn croesawu'r busnesau bach ar gyfer Ffair Cynnyrch Lleol Gŵyl y Felinheli
Noson Cynnyrch Lleol Gwyl y Felinheli
Gwneud y mwyaf o'r 'freebies'... Gŵyl y Felinheli
Ffair Cynnyrch Lleol, Gwyl y Felinheli
'Be ga'i dwad?' Gŵyl y Felinheli
Gwyl y Felinheli
Noson Hwyl i'r Plant Gŵyl y Felinheli
Dau ddyn yn rhoi cynnig ar y cwis
Gruff John a 'Fish' o bwyllgor yr ŵyl yn mentro yn y cwis Gŵyl y Felinheli
Rhedwr 10k Y Felinheli
Enillydd y ras 10k oedd Adam Jones Gŵyl y Felinheli
Taith yr Henoed, Gŵyl y Felinheli
I Amgueddfa Lechi Llanberis aeth Taith yr Henoed eleni Gŵyl y Felinheli
Band yn gorymdeithio
Band Pres Porthaethwy yn llenwi'r stryd gyda sŵn i'r orymdaith a'r carnifal i gloi'r ŵyl ar ddydd Sadwrn Gŵyl y Felinheli
Plant mewn cit pel-droed Cymru
CPD y Felinheli ar eu ffordd i Gwpan y Byd? Gŵyl y Felinheli
Fflot llawn Minions
Gwyliwch mae'r Minions wedi cyrraedd! Gŵyl y Felinheli
Pobl wedi gwisgo fel meddygon ar fflôt carnival
Roedd yr oedolion yn ymuno yn hwyl y gwisg ffansi hefyd Gŵyl y Felinheli
Morforwyn fach ar ei ffordd at y Fenai
Un fôr-forwyn fach ar ei ffordd at y Fenai Gŵyl y Felinheli
Band yn chwarae yr wyk
Ymysg y bandiau oedd yn diddanu ddydd Sadwrn roedd Fleur de Lys ac Achlysurol Gŵyl y Felinheli
Plant ar drampolin ger y Fenai
Trampolîn, hwyl, haul a golygfa hyfryd dros y Fenai - y cyfuniad perffaith Gŵyl y Felinheli
Aderyn glas
Drymwyr Bloc o Sŵn gyda'u mascot arbennig Gŵyl y Felinheli
Mwynhau peint yn yr haul
Roedd y gymuned wedi dod i fwynhau yn yr haul wedi colli dwy flynedd o'r ŵyl oherwydd Covid Gŵyl y Felinheli
Gwyl y Felinheli
Machlud ar y Fenai Gŵyl Y Felinheli

Mae mwy o luniau i'w gweld ar wefan yr ŵyl. ↗