Sport

z216
Sesiwn Fawr

Yn 1992 fe wnaeth criw o bobl ddod at ei gilydd i drefnu gŵyl yn ardal Dolgellau a ddatblygodd i fod yn un o brif ddigwyddiadau'r calendr cerddorol yng Nghymru a thu hwnt.

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae'r Sesiwn Fawr wedi denu nifer fawr o artistiaid adnabyddus ac wedi addasu o fod yn ŵyl am ddim ar strydoedd ac yn nhafarndai'r dref, i ŵyl gyda thocynnau ar Y Marian, yna sesiynau bychan mewn lleoliadau yn y dref ac ers dwy flynedd gŵyl ddigidol yn sgil Covid.

Wrth i Ddolgellau baratoi i groesawu cerddorion a thorf i'r dref unwaith eto eleni rhwng 15-17 Gorffennaf, dyma flas o'r mwynhau dros y tri degawd diwethaf.

Linebreak
Meic Stevens yn agor y Sesiwn gyntaf yn 1992
Y perfformiad cyntaf erioed yn y Sesiwn Fawr - Meic Stevens yn agor yr ŵyl yn 1992 Sesiwn Fawr
Gwerinos yn y Sesiwn Fawr gyntaf 1992
Rhai o aelodau'r band Gwerinos, sy'n dod o'r ardal, wnaeth sefydlu'r ŵyl. Dyma nhw yn y Sesiwn gyntaf yn 1992... Sesiwn Fawr
Gwerinos 2016
... a 24 mlynedd yn ddiweddarach yn 2016 Sesiwn Fawr
Paul Young efo Los Pacaminos yn 2002
Paul Young efo Los Pacaminos fu'n perfformio yn 2002 Sesiwn Fawr/Andrew Roberts Evans
Twm Morus yn cyrraedd Sesiwn Fawr 2001
Twm Morys yn cyrraedd Sesiwn Fawr 2001. Mae ei fand Bob Delyn a'r Ebillion wedi perfformio yn y Sesiwn nifer o weithiau Sesiwn Fawr/Andrew Roberts Evans
Cormac Byrne (Seth Lakeman) 2006, Hayseed Dixie; Elin Fflur 2005
Y chwaraewr bodhran Cormac Byrne, oedd yn perfformio gyda Seth Lakeman yn 2006; Hayseed Dixie o'r Unol Daleithiau yn 2006; ac Elin Fflur yn 2005 Sesiwn Fawr
Burning Spear
Burning Spear, yr artist roots reggae o Jamaica, yn 2002 Sesiwn Fawr
Dyn Gwyrdd y Gwernan, Edrych lawr at y Ship 1997, Glaw 2007
Dyn Gwyrdd y Gwernan mewn prosesiwn; yr olygfa ger tafarn y Ship 1997; sesiwn er gwaetha'r glaw yn 2007 Sesiwn Fawr/Martyn Roberts
Y dyrfa'n mwynhau perfformaid Calan 2019
Y dyrfa'n mwynhau perfformaid Calan yn 2019 Dafydd Owen
Peatbog Faeries 2014
Y band gwerin o'r Alban Peatbog Faeries yn 2014 Sesiwn Fawr
Gruff Rhys
Roedd Gruff Rhys a'r Super Furry Animals yn un o'r prif fandiau yn 2005 Sesiwn Fawr
Iard gefn Gwesty'r Llong yng nghanol y Dref
Iard gefn Gwesty'r Llong yng nghanol y Dref yn 2019 FfotoNant
Rylan Teifi 2012; Yat Kha 2002
Ryland Teifi 2012; Yat Kha 2002 Sesiwn Fawr
Cefn y Ship pnawn Sul 2019
Ychydig wyddai rhain mai dyma'r Sesiwn olaf am dair blynedd yn sgil Cofid - cefn y Ship pnawn Sul 2019 Sesiwn Fawr
Bwncath
Parhau wnaeth y gerddoriaeth er gwaetha'r pandemig gyda digwyddiadau digidol yn cael eu cynnal. Fe wnaeth Bwncath berfformio yn y Sesiwn Dolig yn 2020, a bydd y band yn perfformio'n fyw o flaen torf eleni Dafydd Huws/Sesiwn Fawr
Huw Dylan Owen DigiDol 2021
Huw Dylan Owen, yn DigiDol 2021, pan gafodd perfformiadau eu ffilmio mewn gwahanol leoliadau yn y dref ar gyfer gŵyl rhithiol Sesiwn Fawr

Hefyd o ddiddordeb: