Sport

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y calendr gerddoriaeth yng Nghymru. Eleni cafodd yr ŵyl ei chynnal mewn nifer o leoliadau o amgylch y dref.

Y ffotograffydd Dafydd Nant o gwmni ffotoNant aeth i'r ŵyl ar ran Cymru Fyw.

sesiwn fawr
ffotonant

Cafodd y Sesiwn Fawr ei sefydlu ym 1992. Ers hynny mae'r ŵyl wedi ei lleoli mewn nifer o lefydd gwahanol yn y dre. Eleni roedd un o'r prif lwyfannau yng nghefn gwesty'r Ship.

Y Cledrau
Joseff Owen o fand Y Cledrau ar lwyfan y Ship nos Wener ffotoNant

Roedd y criw yma o flaen y Clwb Rygbi yn edrych ymlaen at nos Wener y Sesiwn.

Criw o flaen y Clwb Rygbi
ffotonant

Mae Lewys yn un o fandiau ifanc mwyaf addawol y sin ar hyn o bryd, a'n digwydd dod o Ddolgellau hefyd!

Lewys ar y llwyfan
ffotoNant

Ydych chi'n gallu dyfalu pa fand oedd y criw yma'n mwynhau?!

criw yn mwynhau ship
ffotonant

…Candelas! Fe chwaraeodd y band set egnïol ar y nos Wener yn y Clwb Rygbi.

candelas
ffotonant
lewys, drymiwr y candelas
ffotonant

Daeth Maroon Town â synau ska, rap a dyb i lwyfan y Ship nos Wener. Mae'r band o Brixton wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ar draws y byd ers 30 mlynedd.

maroon town
ffotonant

Mae llawer mwy na cherddoriaeth i'r Sesiwn Fawr erbyn hyn. Ar y dydd Sadwrn roedd Rhodri ap Dyfrig a Daniel Glyn yn trafod arlwy gomedi Hansh, S4C.

rhodri ap dyfrig a daniel glyn
FFOTONANT

Ywain Myfyr yw un o sylfaenwyr y Sesiwn Fawr. Bu'n rhannu hanes yr ŵyl yn Nhŷ Siamas ddydd Sadwrn.

Ywain Myfyr
ffotonant

Roedd cerddoriaeth i'w glywed ym mhob cornel o'r dref ddydd Sadwrn. Dyma Mared Williams yn perfformio ym mwyty Dylanwad.

mared williams
FFOTONANT

Roedd gwreiddiau'r Sesiwn fel gŵyl cerddoriaeth werin yn amlwg drwy gydol y penwythnos.

Alltud yn chwarae o flaen Gwesty'r Torrent
Alltud yn chwarae o flaen Gwesty'r Torrent ffotonant
canu gwerin
ffotonant

Mae'r Haul Wedi Dod! Wel, roedd y cymylau wedi clirio ar gyfer Geraint Lovgreen o leiaf! Bu'n perfformio gyda'r band ar lwyfan y sgwar.

geraint lovgreen
ffotonant

Mae'n argoeli i fod yn haf prysur Gwilym, ac roedd cynulleidfa fawr y Sesiwn Fawr wedi eu plesio.

gwilym
ffotonant
gwilym
ffotonant

Calan oedd yn cloi'r nos Sadwrn ar lwyfan y Ship. Mae'r band gwerin cyfoes yn un o ffefrynau cynulleidfa'r Sesiwn Fawr ers blynyddoedd.

calan
ffotonant
torf calan
ffotonant

Hefyd o ddiddordeb:

Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019

Lluniau: Gŵyl Canol Dre Caerfyrddin

Oriel: Tafwyl 2019