Sport

Huw ar un o'i heriau eithafol
Huw ar un o'i heriau eithafol Huw Brassington

Mae'r anturiaethwr Huw Brassington o Gaernarfon yn berson penderfynol, yn rhedeg rasys eithafol a phellter hir ar hyd mynyddoedd ledled y byd.

Pan oedd yn blentyn, cafodd brawf dyslecsia, ac mae hynny wedi ei ffurfio fel y person mentrus ydyw heddiw, meddai wrth Aled Hughes ar Radio Cymru.

Mae'n teimlo'n gryf na ddylai dyslecsia ddiffinio rhywun, a'i fod yn 'rhodd' yn hytrach na 'rhwystr'. Y mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr, Herio i'r Eithaf, fel rhan o'r gyfres Stori Sydyn, a gyrhaeddodd frig siart gwerthiant y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar.

"Yn 11 oed ges i brawf dyslecsia, a chael gwybod bod gen i oed darllen plentyn chwech oed. Ddarllenais i ddim un llyfr cyfan tan o'n i'n 15," meddai wrth gofio'r ofn o ddarllen yn uchel yn y gwersi ysgol.

"Wnes i dyfu fyny yn ofn llyfrau. Oedd 'na ambell i blentyn yn gorfod darllen allan yn uchel yn y gwersi Cymraeg, o'n i ofn bob tro, o'n i'n rhoi mhen i lawr ac mae hynny yn wir trwy'r ysgol i gyd.

"Pen lawr - mae'n disgrifio mwy na'r dosbarth Cymraeg yna, yn gyffredinol dyna'r effaith mae'n gael arna' chdi, mae'r ysgol wedi ei gosod fyny i bobl sydd ddim yn dyslecsic."

Huw Brassington

'Cywilydd'

Erbyn heddiw, mae Huw Brassington yn cydnabod fod pethau wedi gwella mewn ysgolion a bod athrawon yn gallu ymateb a darparu'n well, ond i'w fam, oedd hefyd yn athrawes, y mae'n diolch am ei helpu i fedru darllen.

"Dwi'n cofio pan o'n i'n 15 oed, a'r cywilydd o gael Mam yn gorfod darllen Cysgod y Cryman i mi.

"Dwi'n cofio astudio TGAU Cymraeg ac oedd gynnon ni Cysgod y Cryman i ddarllen, ac oedd hwn yn frawychus. Llyfr swmpus, am rhywbeth oedd gen i ddim diddordeb ynddo hefyd.

"Roedd Mam yn eistedd fi lawr, yn 15 oed, ac yn darllen i fi ar fwrdd y gegin. Ac oedd ganddi hi bethau eraill i 'neud. Oedd ganddi bedwar o blant ac yn dysgu, marcio tan yr oriau mân, a hynna oedd y sbarc wnaeth gael fi.

"O'n i mor lwcus i gael rhywun oedd yn rhoid gymaint o ymdrech mewn i fi."

Mae'n dweud mai'r teimlad o fethu deall, wnaeth ei yrru i fod y person y mae heddiw, ac wrth gyfeirio at y llyfr Herio i'r Eithaf, mae'n dweud ei fod wedi ei anelu at bobl ifanc sydd yn yr un sefyllfa ag oedd e'n 16 oed.

"O'n i'n trio sgwennu llyfr, rhywbeth y byswn i wedi pigo fyny ac yn medru'i ddarllen, felly dwi 'di trio'i sgwennu yn syml.

'Peidio bod ofn methu'

"Mae yr un fath â peirianneg, mae pobl yn rhoi y geiriau mawr cymhleth yma i mewn lle does dim angen. Dwi di trio sgwennu yn lot symlach i beidio dychryn neb i ffwrdd, ac i gael y neges yna drosodd.

"I gymryd pob cyfle a pheidio bod ofn methu."

A dyna, meddai Huw Brassington sydd wedi ei wneud yn benderfynol o herio ei hunan i'r eithaf, wrth ymgymryd â sialensau fel rhedeg 100 cilomedr dros 47 copa yng ngogledd Eryri.

"Y peth mwya [mae cael dyslecsia] wedi 'neud, yw fy ngwneud i beidio bod ofn methu, achos dwi di arfer efo fo bron. Dyna lle ti'n dechrau. Ti'n fodlon trio bob dim a mae hwnna'n fendith.

"Byswn i byth yn gallu neud y petha 'ma heb y feddylfryd o beidio bod ofn methu.

"Pan ti mewn sefyllfa, gofynna - a ga i y cyfle i wneud hyn eto?"

Bu criw teledu yn ffilmio Huw Brassington (dde) wrth redeg Her Paddy Buckley ar gyfer cyfres S4C '47 Copa'
Bu criw teledu yn ffilmio Huw Brassington (dde) wrth redeg Her Paddy Buckley ar gyfer cyfres S4C '47 Copa' yn 2019 Cwmni Da

Er bod y ffordd y mae dyslecsia yn cael ei drafod wedi gwella, mae Huw yn dal i gredu bod y diffiniad o'r cyflwr yn 'hollol anghywir': "Dychmyga os ydi plentyn bach yn ffeindio allan bod o neu hi yn dyslecsic am y tro cynta, a beth mae'n dweud yn y geiriadur ydy 'anhawster dysgu sy'n effeithio ar sillafu, darllen a sgwennu'.

"Ond mae hynna yn anghywir, achos beth ydy o, ydy anhawster dysgu trwy ffurf traddodiadol fel mae'r rhan fwyaf o bobl yn dysgu."

Wrth restru nifer o bobl llwyddiannus a nodedig oedd â'r cyflwr, o Stephen Hawking ac Einstein, i Bill Gates, John Lennon a Picasso, mae Huw yn credu fod dyslecsia yn gorfodi rhywun i fod yn greadigol.

"Mae honno yn neges gryf iawn, mae ysbrydoliaeth yma."

Cyngor Huw i blant sydd â dyslecsia:

  • Darllenwch cymaint â phosib, bob dydd. Dim ots beth chi'n ei ddarllen, mae angen cael sŵn y geiriau yn llifo trwy'r ymennydd
  • Peidiwch cuddio. Mae angen defnyddio a gwerthfawrogi dyslecsia, dydy o ddim yn rhwystr ond mae'n rhodd.
  • Mae angen dysgu sut i'w ddefnyddio. Ffeindio llwybr i mewn i'r ymennydd ac wedyn adeiladu gyrfa rownd y gallu creadigol sydd yn dod law yn llaw efo dyslecsia.

Hefyd o ddiddordeb: