Dyma rywfaint o luniau'r digwyddiadau dros y pythefnos diwethaf.
Ar 13 Mawrth cafodd y gêm rhwng Cymru Dan 20 a'r Alban ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Zip World, Bae Colwyn.Huw Evans picture agencyCefnogwr rygbi o'r Alban yn sefyll mewn siom tu allan i'r Stadiwm Principality. Cafodd y gêm rhwng y ddwy wlad, ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth, ei ohirio. Cafodd y penderfyniad i ohirio'r gêm ei wneud diwrnod cyn y gêm.Stu ForsterEr gwaetha gohirio'r rygbi, aeth cyngherddau'r Stereophonics yn y Motorpoint Arena yn eu blaen ar 14 a 15 Mawrth.Mike Lewis PhotographyGyda'r newyddion bod y feirws yn lledaenu aeth bobl i'r siopau i brynu nwyddau, gan ffurfio ciwiau enfawr mewn rhai achosion.Matthew HorwoodO ganlyniad i'r prysurdeb yn y siopa roedd rhai nwyddau fel papur toilet a pasta yn brin iawn.Matthew HorwoodHeidiodd miloedd o bobl i gefn gwlad Cymru, llawer i'w tai haf yng ngogledd a gorllewin Cymru.Snowdonia National Park AuthorityRoedd llawer yn pryderu y byddai ymwelwyr yn dod â'r feirws i Gymru, ac yn rhoi pwysau difrifol ar y gwasanaeth iechyd.PAUL ELLISDaeth y gorchymyn i gau llefydd cyhoeddus fel parciau, yn ogystal â mannau twristiaeth.Y fynedfa i faes parcio Llyn Tegid wedi ei gau.Yr olygfa tu allan i'r Orsaf Ganolog Caerdydd wrth i'r rheolau llym am hunan-ynysu gael eu cyflwyno.Matthew HorwoodArdal o Gaerdydd sydd fel arfer yn brysur gyda phobl yn siopa.Polly ThomasDyma 'rush hour' ar draffordd yr M4, 20 Mawrth.Polly ThomasArferion ciwio yn newid; dyma gwsmeriad ar y Maes yng Nghaernarfon yn aros i fynd fewn i fferyllfa.Ciw mewn caffi ym Mhenarth ar ddydd Sul, 22 MawrthStu ForsterHeol y Santes Fair yng Nghaerdydd yn gwbl wag ar ddiwrnod braf o wanwyn.Polly ThomasRoedd hi'n dawel hefyd yng nghanol tref Wrecsam.Doedd pobl methu mynd i fwynhau yr heulwen yn Ynys y Barri.Matthew Horwood