Sport

Rhwng 1984 a 1990 bu 10 o ffotograffwyr, yn cynnwys David Bailey a Paul Reas, yn cofnodi bywyd a thirwedd cymoedd y de yn ystod cyfnod o newid mawr.

Ffotogallery ↗, a sefydlwyd yn 1978, oedd yn gyfrifol am y prosiect, ac i ddathlu eu pen-blwydd eleni maen nhw'n cynnal arddangosfa er mwyn adrodd hanes y sefydliad dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

Dyma rhai o'r delweddau trawiadol sy'n cofnodi'r 80au yn y cymoedd:

line

Mike Berry

VG Stores a merch ar gynllun YTS, 1985
Bu Mike Berry yn tynnu lluniau ym mhentref Glyncorrwg yng Nghwm Afan yn 1985 (ddim ymhell o Gastell-nedd). Mike Berry, Ffotogallery
Gwylio'r newyddion yn 1985
Tom Leyshon yn gwylio Margaret Thatcher ar y newyddion yn 1985. Roedd Prif Weinidog y DU yn amlwg iawn yn y wasg a'r cyfryngau yng nghanol yr 80au, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr. Mike Berry, Ffotogallery
Glyncorrwg, 1985
Glyncorrwg, 1985. Mike Berry, Ffotogallery
line

David Bailey

Glofa Lewis Merthyr, Trehafod, Y Rhondda
Glofa Lewis Merthyr, Trehafod yng Nghwm Rhondda, oedd wedi cau dwy flynedd yn gynharach yn 1983. Dyma gyfnod o newid mawr yn yr ardal wrth i nifer o byllau glo gau. David Bailey, Ffotogallery
Trehafod
Roedd y prosiect yn cynnig her o fath gwahanol i David Bailey, sy'n enwog am ei luniau o sêr rhyngwladol ac eiconau'r byd ffasiwn. David Bailey, Ffotogallery
line

Francesca Odell

Project y Cymoedd
Pentref glofaol Glifach Goch yng Nghwm Ogwr Fach yn 1985. Francesca Odell, Ffotogallery
Valleys Project
Siân a'i mam yn Nhonypandy, Rhondda Fawr, yng Ngorffennaf 1985. Francesca Odell, Ffotogallery
Valleys Project
Plant yn chwarae mewn ystafell wely ar stâd Gurnos, Merthyr Tudful, Rhagfyr 1985. Francesca Odell, Ffotogallery
line

John Davies

Creigiau Penast, Ystrad Mynach
Bu John Davies yn tynnu lluniau o Gwm Rhymni. Mae graffiti 'Duran Duran' ar y creigiau yma yn Ystrad Mynach yn adlewyrchu poblogrwydd y grŵp pop yn 1984. John Davies, Ffotogallery
line

Ron McCormick

Llanhiledd, Blaenau Gwent
Pentref Llanhiledd ym Mlaenau Gwent. Mae Neuadd y Gweithwyr ar y dde - sefydliad pwysig yn niwylliant glofaol y de. Ron McCormick, Ffotogallery
line

Paul Reas

Valleys Project
Roedd gwaith Paul Reas yn edrych ar effaith technoleg newydd ar gymunedau a gweithfeydd yn ne Cymru yn ystod y cyfnod. Paul Reas, Ffotogallery
Valleys Project
Mae'n syndod mai yn yr 1980au y tynnwyd y llun yma - delwedd drawiadol sy'n dangos yn glir pa mor gorfforol oedd gwaith yn y diwydiant glo. Paul Reas, Ffotogallery
line

Peter Fraser

Mewn parc ym Mhontypridd, 1985
Cafodd Peter Fraser ei fagu yn y cymoedd ac, yn 1985, bu'n tynnu lluniau o leoliadau cyfarwydd ei blentyndod, fel y parc yma ym Mhontypridd. Peter Fraser, Ffotogallery
line

Roger Tiley

Glofa Lewis Merthyr, Trehafod, Y Rhondda
Y nos yn cau ar Lofa Lewis Merthyr, Trehafod. Erbyn heddiw, dyma leoliad amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda. Roger Tiley, Ffotogallery
line

William Tsui

Valleys Project
Roedd gwaith William Tsui yn canolbwyntio ar bentrefi Abergwynfi a Blaengwynfi yng Nghwm Afan. Bu'n tynnu lluniau o'r trigolion lleol yn eu cartrefi a'u gwaith, fel y llun yma o Ann Williams tu ôl i far. William Tsui, Ffotogallery
Valleys Project
Mrs Little a Mrs Evans. William Tsui, Ffotogallery
line

Wally Waygood

Valleys Project
Yn 1936 daeth y Brenin Edward VIII i Ferthyr Tudful a datgan bod 'rhywbeth yn mynd i ddigwydd' i helpu'r bobl oedd yn ddi-waith. Mae'r ddelwedd o löwr wrth y geiriau 'Something will be done', o 1989, yn gofeb i'r foment honno. Wally Waygood, Ffotogallery
line

Mae'r arddangosfa 'Chronicle' ↗, sy'n gasgliad o bosteri arddangosfeydd Ffotogallery yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf, i'w gweld yn Oriel Turner House ym Mhenarth tan 4 Awst 2018.

Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: