Sport

Bu tref fach Y Gelli Gandryll ym Mhowys yn croesawu rhai o sêr y byd unwaith eto ar gyfer yr ŵyl lenyddol.

Y ffotograffydd Aled Llywelyn fu'n rhannu ei luniau o Ŵyl y Gelli 2018 gyda Cymru Fyw.

464 gray line
Alex Jones
Roedd cyflwynydd The One Show, Alex Jones, yn sgwrsio gyda Chelsea Clinton ar ddiwrnod olaf yr ŵyl Aled Llywelyn
Benedict Cumberbatch
Roedd yr actor Benedict Cumberbatch ymhlith y sêr oedd yn 'perfformio' llythyrau yn y digwyddiad Letters Live Aled Llywelyn
Gelli
Dychmygwch y byd... Aled Llywelyn
David Walliams
Roedd David Walliams yn dathlu 10 mlynedd fel awdur Aled Llywelyn
Germaine Greer
Roedd Germaine Greer yn rhoi darlith yn ymdrin â'r testun sensitif o dreisio Aled Llywelyn
Gelli
Ymgolli yn Y Gelli... Aled Llywelyn
Margaret Atwood, The author of The Handmaid's Tale Walks though the Hay festival followed by handmaids from here famous book
Margaret Atwood, awdures y llyfr 'The Handmaid's Tale', yn cerdded drwy'r Gelli gyda rhai o'r cymeriadau y gwnaeth hi ei hun ei chreu Aled Llywelyn
Bear Grylls
Yr anturiaethwr Bear Grylls yn rhoi cyngor ar sut i aros yn fyw. Be' arall? Aled Llywelyn
Gelli
Mae'r Gelli Gandryll yn Sir Frycheiniog yn enwog am ei siopau lyfrau Aled Llywelyn
Owen Sheers
Roedd hi'n wythnos brysur i'r awdur a'r bardd Owen Sheers o'r Fenni Aled Llywelyn
Judith Kerr
Pwy sy'n cofio Y Teigr a Ddaeth i De? Bu awdures y llyfr, Judith Kerr, yn darllen y gwreiddiol - The Tiger Who Came to Tea - 50 mlynedd ers ei gyhoeddi Aled Llywelyn
Darllen yn yr haul
Darllen yn yr haul mewn gŵyl lenyddol - byw'r freuddwyd Aled Llywelyn
David Davis
Roedd Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yno i wrando ar ddarlith o dan y teitl 'Saving Britain'. Guto Harri sydd yng nghefn y llun - bu'n cymryd rhan mewn sawl sesiwn yn yr ŵyl. Aled Llywelyn
Darllen
Mae'r dyn yma i weld yn fodlon iawn gyda'i lyfr Aled Llywelyn
Gemma Cairney
Yr awdures, colofnydd a chyflwynydd Gemma Cairney Aled Llywelyn
Gwaith blinedig
Amser i gael hoe fach ar ôl diwrnod o ddiwylliant Aled Llywelyn
Y Fonesig Jacqueline Wilson
Mae'r awdures Jacqueline Wilson wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau, yn cynnwys y gyfres Tracy Beaker i bobl ifanc Aled Llywelyn
Gordon Brown
Cyn brif weinidiog y DU, Gordon Brown, yn siarad ar ddiwrnod olaf Gŵyl y Gelli 2018 Aled Llywelyn

Efallai o ddiddordeb...