Teach

BBC micro:bit - Cewri codio | Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim wedi dod i ben - BBC Teach

BBC micro:bit - Cewri codio | Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim wedi dod i ben - BBC Teach

micro:bit - the next gen

Daeth y cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim i ben ddydd Llun 18 Rhagfyr.

Please click here to access this page in English

Video TranscriptVideo Transcript

Yn y fideo yma, dw i’n mynd i sôn

am y peth bach yma, y BBC micro:bit,

a pham y byddai’n beth gwych i’w gael yn eich ysgol chi,

a sut gallwch chi gael set o 30 am ddim.

‘Am ddim’ yn apelio yn dydy?

(cerddoriaeth fywiog)

Mae’r micro:bit yn ddyfais bychan iawn sy’n gallu cael ei godio.

Mae’n helpu disgyblion i ddeall sut mae cyfrifiaduron yn gweithio,

a dysgu sut i godio drwy ddefnyddio iaith cyfrifiaduron.

Wrth i godio ddod yn rhan o’r cwricwlwm ar draws y DU,

gall micro:bit fod yn ffordd hwyliog, hawdd a chreadigol

o gael disgyblion i ddefnyddio cod. Bydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu

eu sgiliau digidol a’u hysbrydoli ar gyfer y dyfodol.

Nawr, peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n hyderus yn godio.

Fe alla i egluro.

Gadewch i ni gymryd golwg fwy manwl.

Darn o galedwedd yw’r micro:bit.

Chi sy’n rheoli pryd y gall wneud rhywbeth,

a bydd hynny’n digwydd drwy sgwennu rhaglen gyfrifiadurol gyda chod.

Meddalwedd yw hynny.

Mae MakeCode gan Microsoft yn un

o’r adnoddau mwyaf poblogaidd sydd ar gael i raglennu micro:bit

ac mae’n gwbl addas i ddechreuwyr.

Pan fydd eich cod yn barod, anfonwch e

o’ch cyfrifiadur i’r micro:bit gydag un clic.

Mae mor syml â hynny ac yn barod i fynd.

Rydw i wedi defnyddio fy micro:bit

i wneud i ddewisydd gweithgareddau

ddewis rhwng chwe gweithgaredd ar hap.

Ry’n ni wedi creu gêm “carreg, papur siswrn” drwy ddefnyddio micro:bit.

[Pawb] Carreg, papur, siswrn.

Rydw i wedi creu adnodd bywyd gwyllt sy’n cofnodi faint o adar

a wiwerod rydw i wedi’u gweld - drwy ddefnyddio fy micro:bit.

Dros y blynyddoedd diwethaf,

mae’r micro:bit wedi rhaglennu

stwff go bwysig hefyd.

O gylchdroi telesgop yn Arsyllfa Jodrell Bank,

i droi’r goleuadau ymlaen yn Nhŵr Blackpool.

Cafodd micro:bit y BBC ei greu

nôl yn 2015 pan roddwyd miliwn micro:bit

i blant mewn ysgolion uwchradd.

Ers hynny, mae saith miliwn a hanner o micro:bits

wedi eu creu, ac mae tua 42 miliwn plentyn

mewn mwy na 60 gwlad wedi eu defnyddio.

Bellach, mae’r micro:bit yn lansio mewn ysgolion cynradd

ar draws y DU, gan dargedu plant wyth i 11 oed.

Gall athrawon cynradd yn y DU gofrestru i dderbyn pecyn

o 30 micro:bit am ddim - ac o wneud hynny, agor byd hollol newydd

o ddysgu ac antur drwy godio.

Rydym am i athrawon deimlo’n hyderus

bod gennych gefnogaeth i ddefnyddio’r micro:bit yn eich ystafell ddosbarth.

Bydd hyfforddiant ar gael am ddim

gan y Sefydliad Addysgol micro:bit

a hyfforddiant mwy penodol gan bartneriaid ar draws y wlad.

Ac mae yna lwythi o brosiectau codio hawdd

a chynlluniau gwersi ar gael

ar wefan y Sefydlliad Addysgol micro:bit.

Yn ogystal â bod yn dipyn o hwyl,

bydd y micro:bit yn helpu athrawon

i fodloni amcanion y cwricwlwm

ar gyfer sgiliau digidol a thechnoleg,

fel creu mewnbynnau ac allbynnau cod,

datblygu sgiliau canfod ‘bygs’ a chreu algorithmau.

Gall y micro:bit gael ei ddefnyddio mewn gwersi trawsgwricwlaidd hefyd.

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar-lein – mae digonedd

o brosiectau hawdd ar gael

ar wefan y Sefydliad Addysgol micro:bit,

a bydd adnoddau newydd gwych

ar gael gan y BBC ym mis Medi.

Iawn, sut mae cael gafael ar rai o’r

peiriannau bach codio yma?

Wel, yr unig beth sydd angen i chi wneud ydy cofrestru

gan ddefnyddio’r ddolen isod i dderbyn eich pecyn

o 30 micro:bit am ddim i’ch ysgol chi.

Beth am i’ch ysgol chi fod yn ysgol micro:bit?

(micro:bit yn gwneud sŵn pingio)(cerddoriaeth fywiog)

BBC micro:bit – cyfle i blant greu cod

BBC micro:bit – cewri codio yw ein hymgyrch newydd sbon fydd yn rhoi cyfle i blant rhwng 8 ac 11 oed ddatblygu sgiliau digidiol i ddeall y byd o’u cwmpas ac i siapio eu dyfodol.

Cyfrifiadur clyfar, maint poced yw’r micro:bit sydd wedi ei ddylunio i ysbrydoli plant i feddwl yn greadigol wrth greu cod go iawn. Bydd modd defnyddio’r micro:bits i addysgu sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Y nod yw gwneud codio yn hwyl, yn greadigol ac yn gyffrous i ddisgyblion ac athrawon.

Mae’r micro:bit yn gwneud dysgu gwybodaeth adeiladol am gyfrifiaduron yn weithgaredd gyraeddadwy a dilys. Bydd hi’n bosib codio’r micro:bit i synhwyro golau’r haul, i gyfri camau ac i greu helfa drysor gyffrous. Bydd cyfle i blant gael hwyl yn ei ddefnyddio i greu gemau megis ‘carreg, papur, siswrn’ neu hyd yn oed larwm tun bisgedi digrif.

Byddwn yn cynnig hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb i athrawon ar sut i ddefnyddio’r micro:bit. Bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu creu hefyd i gyd-fynd â rhaglenni arbennig fydd yn cael eu darlledu nes ymlaen eleni.

Pam fod athrawon wrth eu boddau â’r micro:bit?

Mae Matt Moore, Arbenigwr Cyfrifiaduraeth Cynradd yn Green Lane and Priestley Academy Trust, wedi bod yn defnyddio micro:bits gyda’i ddosbarthiadau fel rhan o gynllun peilot.

Dywedodd: “Mae’r plant yn fy ysgol wrth eu boddau yn defnyddio’r micro:bit. Rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio yn ein gwersi cyfrifiaduraeth i greu prosiectau hwyliog, yn ogystal â mewn gwersi trawsgwricwlaidd eraill gan gynnwys Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol.

“I athrawon sy’n newydd i‘r micro:bit neu’n ansicr o dechnoleg - does dim angen poeni. Mae llawer o fideos hawdd eu dilyn ar y wefan sy’n egluro popeth – ac mae yna fideos ar gyfer dechreuwyr llwyr. Mae’r micro:bit yn ffordd hawdd o gychwyn codio sy’n rhoi canlyniadau da.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd y BBC yn casglu eich data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Gwybodaeth am y micro:bit

Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin

Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Ein partneriaid

Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.