Sport

Dewi Lake
Er ei fod yn un o gapteiniaid Cymru, dim ond naw cap sydd gan Dewi Lake dros Gymru Huw Evans picture agency

Y bachwr Dewi Lake fydd yn gapten Cymru yn erbyn Portiwgal yn Nice ddydd Sadwrn, yn eu hail gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.

Mae Lake yn un o 13 newid o'r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji nos Sul.

Dim ond yr wythwr Taulupe Faletau a'r asgellwr Louis Rees-Zammit sy'n aros yn y tîm.

Mae Lake yn gyd-gapten ar y garfan, ynghŷd â Jac Morgan, ond ni chafodd ei ddewis fel rhan o'r 23 i herio Fiji am mai yn ddiweddar y daeth yn ôl o anaf.

Gareth Anscombe
Dyma fydd gêm gyntaf Gareth Anscombe yng Nghwpan y Byd ers 2015 Huw Evans picture agency

Gareth Anscombe - sydd heb chwarae i Gymru ers iddo ddioddef anaf i'w ysgwydd yn erbyn Awstralia yn Nhachwedd 2022 - fydd yn faswr.

Bydd Tomos Williams yn ennill ei 50fed cap yn safle'r mewnwr, gyda Mason Grady a Johnny Williams yn ganolwyr.

Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza fydd yn yr ail reng, a'r unig chwaraewr o'r 33 yn y garfan fydd ddim yn rhan o'r ddwy gêm agoriadol felly ydy'r prop Henry Thomas.

Dafydd Jenkins
Dafydd Jenkins, 20, yw'r chwaraewr ieuengaf yng ngharfan Cymru Getty Images
Presentational grey line

Tîm Cymru i herio Portiwgal

Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, Mason Grady, Johnny Williams, Rio Dyer; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Nicky Smith, Dewi Lake (capt), Dillon Lewis, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Corey Domachowski, Tomas Francis, Adam Beard, Taine Basham, Gareth Davies, Sam Costelow, Josh Adams.

Presentational grey line

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland: "Gan mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y ddwy gêm, ry'n ni wedi gwneud cryn dipyn o newidiadau.

"Bydd yr ornest hon yn gyfle gwych i'r 23 chwaraewr yma ddangos beth y gallan nhw ei wneud.

"Ry'n ni wedi edrych yn ôl yn fanwl ar gêm ddydd Sul diwethaf ac mae agweddau o'n chwarae y mae'n rhaid i ni wella arnyn nhw.

"Mae gennym gynllun clir ar gyfer herio Portiwgal ac rwy'n disgwyl i ni weithredu yr hyn yr ydym wedi ei ymarfer, ar y cae ddydd Sadwrn."

Warren Gatland
Dywedodd Gatland fod "agweddau o'n chwarae y mae'n rhaid i ni wella arnyn nhw" PA Media

Mae Cymru wedi codi i'r wythfed safle yn netholion rygbi'r byd yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji, tra mai 16eg yw Portiwgal.

Bydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp C er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw'n herio tîm o grŵp D - sy'n cynnwys Lloegr, Ariannin, Japan, Samoa a Chile - yn y rownd honno, a hynny ym Marseille ar 14 neu 15 Hydref.

Presentational grey line

Amserlen gemau Cymru yng Ngrŵp C

Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 (amser Cymru) dydd Sadwrn, 16 Medi

Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul, 24 Medi

Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn, 7 Hydref