Sport

Ar ôl dwy flynedd o fod ar lein, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl, gyda Maes go iawn yn rhoi'r cyfle i bobl ddal fyny hyd yn oed yn fwy na'r arferol.

Wedi dechrau wythnos eithaf glawog, fe ddaeth yr haul - a gyda hynny bu nifer fawr yn mwynhau'r gigs ar Lwyfan y Maes yn ystod y dydd a gyda'r nosau. Ac oedd, roedd teilyngdod hefyd.

Dyma gasgliad o'r lluniau sy'n rhoi cip ar stori'r ŵyl o orielau Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.

Plentyn a'i thaid yn tynnu troli ar hyd y Maes
Erin o Fryniwan, ger Caerfyrddin yn helpu Taid gyda'r troli
Dyn yn cario diod o'r bar
Merin yn fodlon wrth Bar Williams Parry - bar newydd Maes yr Eisteddfod
Chwaraewr corned yn ymarfer cefn llwyfan
Y bandiau pres sy'n cystadlu ar benwythnos cynta'r Eisteddfod, ac mae'n bwysig cynhesu'r offeryn gefn llwyfan cyn perfformio Aled Llywelyn
Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes nos Sul
Yma o Hyd - Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes nos Sul Aled Llywelyn
Torf yn gwylio Dafydd Iwan
... ac roedd miloedd o bobl o bob oed yn ei wylio Aled Llywelyn
Bachgen gyda bwa a saeth
Osian, sy'n chwe blwydd oed ac yn dod o Gaerfyrddin, yn canolbwyntio tra'n defnyddio'r bwa a saeth
Esyllt Maelor wedi ei choroni
Esyllt Maelor, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Plentyn ifanc gyda Mr Urdd
Ifan o Benrhyn-coch, yn cofleidio un o eiconau Cymru, Mistar Urdd
Aelodau Meibion y Mynydd yn cael peint ar y Maes
Aelodau o Gôr Meibion y Mynydd yn cyfarfod dros beint yn y Pentre' Bwyd
Plentyn ifanc ym mreichiau ei Dad
Euros o Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, yn mwynhau ei Steddfod gyntaf
Dwy yn edrych ar lun yn y Lle Celf
Pwy sy'n edrych ar bwy? Mwynhau yn y Lle Celf
Gwilym Bowen Rhys
Gwilym Bowen Rhys yn morio canu ym mhabell Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cynulleidfa yn edrych ar seremoni
Y gynulleidfa'n mwynhau Dafydd Owen
Creu fflam mewn arbrawf gwyddonol
Peidiwch â gwneud hyn gartref... arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Roedd dros 200 o bobl ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith am y sefyllfa ail dai
Perfformiad stryd
Un o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y Maes Iolo Penri
Mark Drakeford yn cael ei urddo
Y Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' yn ôl ei enw barddol - yn cael ei dderbyn i'r Orsedd, a hynny i gymeradwyaeth hiraf y seremoni Iolo Penri
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd Aled Llywelyn
Arwydd Eisteddfod - heb yr E a'r F, O a D
Dechreuodd dydd Sadwrn ola'r Eisteddfod gyda dirgelwch... diflaniad rhai o lythrennau'r gair Eisteddfod ar y Maes. Roedd rhai'n dweud mai trefnwyr yr ŵyl oedd tu cefn i'r cyfan, eraill yn amau bod Twm Siôn Cati yn ôl yn yr ardal Aled Llywelyn
Cantores ar y llwyfan
Y mezzo-soprano o Ddinbych Ceri Haf Roberts wnaeth ennill Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas Aled Llywelyn