Sport

Dydd Gwener, diwrnod y Cadeirio, seremoni urddo a llawer mwy. Dyma flas o'r hyn ddigwyddodd ar y Maes.

Mark Drakeford yn cael ei urddo
Y Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' yn ôl ei enw barddol - yn cael ei dderbyn i'r Orsedd, a hynny i gymeradwyaeth hiraf y seremoni Iolo Penri
Huw Edwards yn cael ei urddo
Fe gafodd y darlledwr Huw Edwards ei dderbyn o dan yr enw 'Huw Elli' - gan gydnabod ei fagwraeth yn ardal tre'r sosban yn Llangennech Aled Llywelyn
Dawns y flodau
Roedd y ddwy yma yn amlwg yn mwynhau bod yn rhan o Blant y Ddawns - ddwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd y pandemig Aled Llywelyn
Dwy ddynes yn gwylio'r seremoni urddo o bell
Roedd yn rhaid mynd yn bell i ddod o hyd i sedd gwag i wylio'r seremoni
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei dywys o'r Pafiliwn gan yr Orsedd
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei dywys o'r Pafiliwn gan yr Orsedd yn ddiweddarach yn y dydd
Y dorf yn chwerthin
Roedd digonedd o ddigwyddiadau eraill o gwmpas y Maes oedd ddim yn gysylltiedig â'r Orsedd wrth gwrs fel Dewi Pws a Bois y Gilfach yn diddanu'r dorf yn y Tŷ Gwerin
Ci a'i berchennog
Y wisg wen fyddai'n gweddu Bella, yma gyda'i pherchennog Ryan o Gorsgoch, Llambed
Gweithdy iwceleli
Dysgu sgil newydd er gwaethaf anaf - gweithdy iwcaleili ym Maes D
Morgan Elwy
Bach o bach o Steddfod i Morgan Elwy
Perfformiad theatr stryd
Perfformiad theatr stryd lliwgar
Band Pres Llareggub
Band Pres Llareggub yn diddanu'r dorf tu allan i un o'r stondinau ar y Maes
Eädyth ac Izzy Rabey yn perfformio tu allan i stondin Y Llyfrgell Genedlaethol
Eädyth ac Izzy Rabey yn perfformio tu allan i stondin Y Llyfrgell Genedlaethol
Eisteddfod
Eisteddfod