Sport

Ar ail ddiwrnod yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr haul i ymweld â Thregaron.

Dyma ychydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes ddydd Sul.

gymanfa
Yr Oedfa yn ôl ar lwyfan y Pafiliwn fore Sul. Fe ymunodd côr yr Eisteddfod ar y llwyfan i gyd-ganu. Eisteddfod Genedlaethol
plant
Cadi a'i brawd bach Osian yn mwynhau ym Mhentre'r Plant.
telyn
Rhywbeth at 'dant' pawb?
twm sion cati
Gwenllian a'i chwaer fawr, Manon, yn cwrdd â Twm Siôn Cati ar y Maes.
awyr las
Ar ddechrau'r prynhawn roedd awyr las i'w weld rhwng y cymylau.
rhydaman
Band Arian Tref Rhydaman yn mwynhau diod ar y maes ar ôl cystadlu yn y Pafiliwn. Daeth y band yn ail yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 2.
selfie
Mae pawb eisiau memento i gofio am eu diwrnod yn Nhregaron.
llwy
Mae pob math o ddiwylliant Cymreig i'w weld ar y maes, gan gynnwys y crefftwr yma sy'n creu llwyau caru.
troli
Liliwen o Aberystwyth yn cael ei chludo o amgylch y Maes gan Dad.
cadair
Rhun a Gruffudd yn cael seibiant wedi oriau o grwydro'r Maes.
dafydd iwan
Dafydd Iwan fydd yn cloi llwyfan y Maes nos Sul. Eisteddfod Genedlaethol
plant yn y mwd
Twm ar y chwith, gyda'i gefndryd Nwla a Defi yn neidio mewn mwd wedi'r glaw dros nos.
wawr
Trafodaeth ar Lwyfan y Llannerch am hanes Merched y Wawr.
merched bar
Rhian, Nest a Catrin yn mwynhau diod bach yn yr haul.
hetia
Dewi ac Osian o Gaernarfon yn gwisgo hetiau addas ar gyfer pob tywydd.
bar
Corau yn canu dros beint wrth un o fariau'r Maes.
line
Eisteddfod
Eisteddfod