Sport

Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf yn 2019
Bwriad Cyngor Wrecsam yw croesau'r brifwyl i'r sir am y tro cyntaf ers 2011 Ffotonant

Mae cynghorwyr Wrecsam yn bwriadu gwahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'r sir.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe gytunwyd yn unfrydol i wahodd y brifwyl, wrth i Wrecsam hefyd baratoi cais newydd i fod yn Ddinas Diwylliant y DU.

Collodd Wrecsam allan yn y ras ar gyfer 2025 wedi i Lywodraeth y DU benderfynu dynodi Bradford gyda'r wobr.

Ond mae'r cyngor yn gobeithio bydd yr Eisteddfod yn un o sawl digwyddiad yn Wrecsam wrth baratoi cais o'r newydd ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.

'Falch o fod yn rhan o'r trafodaethau'

Dydd Mawrth fe benderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddarparu cyllid a staff er mwyn cefnogi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol - digwyddiad fyddai'n debygol o ddenu degau o filoedd o bobl i'r ardal.

Gyda phrifwyl eleni yn cael ei chynnal yn Nhregaron, bydd yn teithio i Lŷn ac Eifionydd yn 2023 ac yna Rhondda Cynon Tâf y flwyddyn wedyn.

Eisteddfod Genedlaethol 2018
Denodd Eisteddfod Genedlaethol 2018 tua 500,000 o bobl i Fae Caerdydd Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn trafod dychwelyd i ardal Wrecsam gyda'r cyngor am beth amser wrth gynllunio taith y Brifwyl dros y blynyddoedd nesaf.

"Roedden ni'n gefnogwyr brwd o gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025, ac rydyn ni'n cefnogi cais y ddinas ar gyfer 2029.

"Mae'n gyfnod cyffrous i Wrecsam ac rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r trafodaethau, ac rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y ddinas yn gweld bod ein hiaith yn rhan greiddiol o'r hyn sydd gan yr ardal i'w chynnig a'i hyrwyddo."

'Tua £6m i £8m yn dod i'r economi leol'

Yn ôl Cyngor Wrecsam byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o saith digwyddiad o bwys i'w cynnal yn lleol, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029.

Wrecsam o'r awyr
Mae Cyngor Wrecsam eisiau denu sawl digwyddiad i'r ardal wrth baratoi cais o'r newydd am statws Dinas Diwylliant ar gyfer 2029 Getty Images

Y disgwyl yw bydd Bradford yn elwa o tua £300m mewn cyllid ychwanegol fel rhan o'r statws.

Dywedodd deilydd portffolio celfyddydau Cyngor Wrecsam, Y Cynghorydd Hugh Jones: "Dim ond newydd gael adborth gan y beirniaid ydyn ni ar y cais diwylliant.

"Roedd pobl Wrecsam yn ei groesawu felly'r cwestiwn i ni yw pam na fydden ni'n mynd am Ddinas Diwylliant 2029 pan fyddwn ni wedi cael adborth mor wych a pham na fydden ni'n mynd am yr Eisteddfod yn 2025?

"Os edrychwch chi ar y sefyllfa ariannol ynghylch yr Eisteddfod, mae yna gost i'r cyngor o tua £300,000.

"Ond yna mae 'na amcangyfrif o thua £6m i £8m yn dod i'r economi leol yn yr wythnos honno."

Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfod yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau ac ar y gymuned.

"Mae'n cyd-fynd yn dda â chais Dinas Diwylliant, lle mae'r gymuned yn ganolog i hynny."