Sport

drag King and Queen
Mae'r brenin a'r frenhines drag, Adam All ac Apple Derrieres, yn cyflwyno cabaret fel rhan o'r ŵyl ar nos Sul 10 Gorffennaf Lezdiff

"Gallwn ni barhau i siarad am y peth, a gallwn ni gwyno, ond os nad ni, pwy?"

Mae grŵp o fenywod oedd wedi blino ar beidio gweld cynrychiolaeth deg o straeon a gwaith menywod LHDT+ mewn gwyliau ffilm wedi penderfynu mynd ati i drefnu eu gŵyl ffilmiau lesbiaidd eu hunain yng Nghaerdydd, ysgrifenna Bethan Jones-Arthur.

line

Mae gŵyl ffilm a chelfyddydau lesbiaidd LezDiff, sef digwyddiad wedi'i sefydlu i 'gynrychioli, annog, addysgu, cynnwys ac adlonni', yn digwydd ar draws nifer o leoliadau yn y brifddinas rhwng 8 - 10 Gorffennaf.

Yn ogystal â dangosiadau ffilm, mae'r ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ar lafar, paneli i drafod dyfodol lesbiaid mewn llenyddiaeth, perfformiad gan y brenin drag Adam All, a mwy.

Rachel Dax
"Mae mwy ohonom ni allan o'r closet nag erioed, a mwy ohonom yn creu mwy o bethau nag erioed," meddai'r cadeirydd Rachel Dax Lezdiff

Dywedodd cadeirydd a rhaglennydd yr ŵyl, Rachel Dax: "Pryd bynnag rwy' wedi teithio o gwmpas y byd i wyliau fel gwneuthurwr ffilmiau, er bod lesbiaid yn cael eu cynnwys, dim ond ychydig o le oedd wedi'i gadw i ni.

"Mae ceisio ffitio pawb i mewn yn golygu mai dim ond cymaint o le sydd i lesbiaid - gallwch fynd i ŵyl ffilm LGBTQIA+ ac weithiau dim ond dwy ffilm â thema lesbiaidd fydd yna.

"Rhan ohono oedd gofyn a oes lle i gael gŵyl wedi'i neilltuo i ffilmiau a chelfyddydau lesbiaidd? Mae mwy ohonom ni allan o'r closet nag erioed, a mwy ohonom yn creu mwy o bethau nag erioed.

"Rydyn ni'n dweud bod croeso i bawb yn y gynulleidfa, ond gadewch i ni ei chysegru i'r hyn y mae lesbiaid, menywod deurywiol, menywod cwiyr yn ei wneud o ran allbwn. Nid oes cymaint o bethau ymlaen i lesbiaid yng Nghaerdydd mewn gwirionedd, felly nawr yw'r amser."

Os nad ni, pwy?

Mae trefnwyr yr ŵyl yn dweud ei bod yn gyffredin i weld cymeriadau lesbiaidd yn cael eu lladd yn fuan ar ôl iddynt ffurfio perthynas lesbiaidd gadarn mewn ffilmiau, a bydden nhw'n ffafrio gweld mwy o straeon gyda lesbiaid yn ffynnu yn hytrach na marw.

Hefyd, maen nhw'n codi'r pwynt bod ffilmiau lesbiaidd prif ffrwd yn tueddu i fod yn ddramâu cyfnod a gyfarwyddir gan ddynion, gyda menywod syth yn chwarae'r prif rannau, ac yn aml mae diffyg cywirdeb o ran cynrychiolaeth.

Dywed Nia Medi, un o drefnwyr yr ŵyl: "Mater o wneud, nid dweud oedd hi. Am sbel hir, roeddwn i a Rachel a menywod eraill yn trafod yr angen yna o brofi 'lens' menywod LDHT. Mae'r lens yna'n wahanol i'r male gaze. A gallwn ni barhau i siarad am y peth, a gallwn ni gwyno, ond os nad ni, pwy?

"Dyna pam oedd rhaid i ni recriwtio menywod oedd gyda'r un weledigaeth, a rhoi pethau yn ei lle. Math o arbrawf yw eleni oherwydd sai'n credu ei fod wedi cael ei wneud o'r blaen yn y ddinas. Y gobaith yw cario ymlaen a'i gwneud yn gryfach yn y dyfodol."

Mae ffilmiau'r ŵyl wedi'u grwpio'n dair thema; straeon am gynrychiolaeth lesbiaidd hŷn ar y sgrin, ffilmiau byr gyda phrif gymeriadau ifanc oedolyn lesbiaidd/deurywiol/cwiyr, a ffilmiau am famau lesbiaidd/deurywiol/cwiyr a'u plant.

Gobeithio creu cymuned

Am gynrychiolaeth lesbiaid hŷn yn y rhaglen, dywedodd Rachel: "Cefais fy ysbrydoli gan y ffilmiau ar y rhaglen 'menywod hŷn' - Marguerite a Snapshot, ond hefyd gan fynd i ŵyl wahanol ychydig flynyddoedd yn ôl.

"Roedden nhw'n dangos rhaglen ddogfen o'r 90au am lesbiaid hŷn - dyna pa mor bell nôl roedd yn rhaid iddyn nhw fynd - ac roedd yr holl fenywod yma yn y gynulleidfa yn dweud 'dyma ni, mae angen mwy o gynrychiolaeth o'n bywydau'."

Efa Blosse-Mason
Mae pethau'n well ond mae yn dal angen am fwy o blatfformau ar gyfer straeon cwiyr meddai'r animeiddiwr Efa Blosse-Mason Lezdiff

Mae ffilm Efa Blosse-Mason, Cwch Deilen, yn ffilm fer wedi'i hanimeiddio sy'n cael ei dangos ar ddydd Sadwrn.

Yn cynnwys gwaith llais gan Sara Gregory a Catrin Stewart, mae'r ffilm yn dilyn dwy fenyw ifanc sy'n trio llywio perthynas newydd.

Dywed yr awdur-gyfarwyddwr, Efa: "Mae pethau'n well i bobl LHDT+ nawr, ond dwi'n dal yn meddwl ei bod yn dal yn bwysig i gael mwy o blatfformau ar gyfer straeon cwiyr.

"Mae'n gyffrous hefyd i gael gŵyl yn sbesiffig i lesbiaid a menywod cwiyr - dydy hi ddim yn gyffredin iawn. Mae llawer o lefydd i ddynion hoyw ond mae'n gyffrous iawn i gael rhywbeth sbesiffig i ni. Dwi'n gobeithio bydd yn creu cymuned ac ysbrydoli pobl ifanc sydd eisiau creu ffilms, lle mae nhw'n gallu gweld eu ffilmiau nhw cael eu dangos, a dechrau sgyrsiau gyda phobl fel nhw."

Hefyd o ddiddordeb:

  1. Merched Llangollen a ysbrydolodd Gentleman Jack
  2. Pride: Cymuned LHDTC+ 'dal yn brwydro i fodoli'
  3. 'Mae bywyd yn well i mi nawr - dwi'n gwybod pwy ydw i'
  4. Rhyw a rhywedd: 'Does dim rhaid bod yn un peth neu'r llall'