Sport

Wedi bwlch o ddwy flynedd fe heidiodd y tyrfaoedd i Ŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn gyda'r trefnwyr yn credu bod dros 30,000 wedi bod yn mwynhau yn yr haul.

Wedi anialwch o ran cyfleodd i gymdeithasu a mwynhau dros y pandemig, roedd pobl yr ardal yn amlwg wedi cofleidio'r cyfle i ddod at ei gilydd a phrofi gwledd o gynnyrch Cymreig ar strydoedd y dref ac ar lan y Fenai.

Diod ar stondin un o siopau lliwgar Stryd y Plas
Diod i ddathlu ar stondin un o siopau lliwgar Stryd y Plas Iolo Penri
Y Maes, rownd y Castell a lawr am y cei yn orlawn
Maes Caernarfon dan ei sang Iolo Penr
Cor Meibion Caernarfon
Lleisiau Côr Meibion Caernarfon yn rhoi dechrau da i'r diwrnod ar y Maes Iolo Penri
Genod yn pwyso ar gofgolofn David Lloyd George
Cofgolofn y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, yn lle delfrydol i stopio i fwynhau hufen iâ Iolo Penri
Eistedd wrth furiau'r castell
Hen furiau Castell Caernarfon yn cynnig llecyn braf am hoe a diod Iolo Penri
Gweithio mewn stondin bizza
Prysurdeb ar y stondin pizza Iolo Penri
Hogiau'n mwynhau peint
Iechyd da o lannau'r Fenai! Iolo Penri
Stondin fwyd ar y maes
Cyfle i brofi bwydydd o bob man Iolo Penri
Un o'r trefnwyr Nici Beech gyda Myrddin ap Dafydd a dyn arall
Un o drefnwyr yr ŵyl, Nici Beech, yn edrych yn hapus iawn gyda'r niferoedd a'r tywydd - gyda Myrddin ap Dafydd a Bleddyn Prys Jones o Cwrw Llŷn Iolo Penri
Geno yn mwynhau bwyd mô, ar lan y môr
Be well na bwyd môr, ar lan y môr? Iolo Penri
Dwy wraig yn edrych ar fap
Lle awn ni nesa? Iolo Penri
Band Batala ar Stryd y Llyn
Band Batala Bangor yn atseinio i lawr Stryd y Llyn Iolo Penri
Cŵn yn cyfarch ei gilydd
Nid pobl yn unig sy'n falch o gael gweld ei gilydd eto Iolo Penri
Moch bach
Roedd pob math o anifeiliaid fferm i'w gweld yn y Lloc Anifeiliaid wedi ei drefnu gan Goleg Glynllifon Iolo Penri
Gwirfoddolwr yn hel arian i'r wyl
Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am drefnu'r ŵyl felly mae'r ymdrech i godi arian yn parhau Iolo Penri
y South of France yn llawn pobl
Dim lle i symud bron rhwng y llwyfan a'r stondinau ar lan y Fenai yn yr ardal sydd â'r enw lleol 'South of France' Iolo Penri
Dwy heddwas gyda chi
Mae na wastad un yn ei gorwneud hi ac angen gair gan yr heddlu... Iolo Penri

Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2019