Sport

Mwynhewch oriel o arwyddion diolch dros Gymru wrth inni ymuno i ddathlu diwrnod Arwyr BBC Cymru.

O Fôn i Fynwy, mae pobl wedi bod yn brysur yn dangos eu gwerthfawrogiad i'n gweithwyr allweddol mewn ffyrdd creadigol iawn gan greu pob math o arwyddion lliwgar.

plant a diolch
Mae Anni Fflur a Dafi Huw wedi bod yn ddyfeisgar iawn efo teclynnau o gwmpas y tŷ i greu eu henfys bob lliw Fflur Evans/Arwyddion Codi Calon
Plant ar ben bêls
Elsa a Caron a'u cynfas o fêls gwair i ddweud diolch Awen Rhys Jones/Arwyddion Codi Calon
Barry gyda llun o weithiwr meddygol mewn masg
Mae Barry Marples o Benrhyndeudraeth wedi bod yn gwneud lluniau arbennig o weithwyr y gwasanaeth iechyd gyda sialc tra mae i ffwrdd o'i waith Llinos Lloyd Marples/Arwyddion Codi Calon
Hogyn bach ac arwydd diolch
Gwên werth chweil gan Ianto gyda'i arwydd diolch yn Ceidio ger Pwllheli Kerry Evans/Arwyddion Codi Calon
Pkant ac arwydd diolch NHS
Morgan, Begw, Blodwen a Caradog o Lanuwchllyn yn dangos eu gwerthfawrogiad Bethan Jones/Arwyddion Codi Calon
Coi ac arwyddion diolch
Mae Dan y ci yn dweud 'diolch' hefyd Heulwen Medi Rowlands/Arwyddion Codi Calon
Arwydd Diolch yn Fawr ar Ganolfan y Mileniwm, Caerdydd
Neges uwch ben y drws yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd,
arwydd iolch
Arwydd Harri a Hanna i ddiolch i'r NHS yng Nghlocaenog ger Rhuthun Charlotte Mair Holliday/Arwyddion Codi Calon
plant ac arwyddion diolch defaid
Lleucu, Saran a Lliwen a'u ffrindiau gwlanog yng Nghlanrafon ger Corwen Elain Prysor Rowlands/Arwyddion Codi Calon
Arwydd NHS mewn cerrig
Cerrig glan môr sydd wedi ffurfio'r galon a'r llythrennau yma ym Mhwllheli gan Mary Elizabeth Yilmas Mary Elizabeth Yilmas
Merch aca rwqydd diolch
Elin yn Llanelltyd gyda'i diolch i ofalwyr, gweithwyr allweddol a'r Gwasanaeth Iechyd Llinos Mair Williams/Arwyddion Codi Calon
Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws
arwydd iolch o tyu ni
Diolch heulog o tŷ ni - cartref Alys ac Enlli - yn y Ffôr ger Pwllheli Fallon Williams/Arwyddion Codi Calon
arwydddsadasd
Gethin gyda negeseuon sialc yn Llangefni, Ynys Môn Ann Williams/Arwyddion Codi Calon
plant ac arwydd diolch NHS
Nel a Welan a'u harwydd lliwgar yng Nghemaes ger Machynlleth Gwerfyl Owen/Arwyddion Codi Calon
castell conwy wedi ei oleuo
Castell Conwy wedi ei oleuo yn lliwiau'r enfys
diolch archarwyr
Mae'r artist Rhys Padarn o Oriel Odl wedi creu chwech murlun i arwyr y gwasanaethau allweddol gan gynnwys yr un yma syn dangos meddyg fel arch-arwr. Mae'r printiau ohonynt mae wedi eu gwerthu wedi talu am dabledi digidol i gleifion drwy Elusen Iechyd Bae Abertawe Orielodl
Bin diolch
Mae Annest wedi bod yn creu gwahanol negeseuon i wahanol weithwyr allweddol yng Nghricieth gan gynnwys neges o ddiolch i'r rhai sy'n casglu'r biniau Julie Roberts/Arwyddion Codi Calon
Merch wedi gwneud idolch mewn sialc
Mari yng Nghaerdydd â'i henfys sialc Meinir Hughes/Arwyddion Codi Calon
giat
Giât yn yr Wyddgrug a dynnodd lygad Bethan Maria Williams wrth fynd am dro Bethan Maria Williams/Arwyddion Codi Calon
doilch
Ela a Dico o Glanrafon ger Corwen hefyd yn diolch i holl staff y Gwasanaeth Iechyd a phawb arall sy'n helpu Buddug Eidda Jones/Arwyddion Codi Calon
Baner Diolch yn Llanrug
Mae baneri tebyg i hwn yn Llanrug wedi eu codi mewn gwahanol ardaloedd
Diolch poawb
Neges syml gan Sara yn Rhosfawr Liz Williams/Arwyddion Codi Calon
Ffydd Gobaith Cariad
Un o'r nifer o arwyddion codi calon eraill sydd wedi ymddangos hyd a lled Cymru

Hefyd o ddiddordeb: