Sport

Efallai nad oedd yr hyn ddigwyddodd ar y cae yn plesio, ond wnaeth hynny ddim amharu ar y mwynhad oddi ar y cae...

Ers blynyddoedd bu cefnogwyr Cymru yn dilyn y tîm pêl-droed i bob math o wledydd ar draws y byd, ac ers llwyddiant diweddar y tîm cenedlaethol mae'r Wal Goch wedi tyfu.

Tocyn neu beidio, fe heidiodd y Cymry draw yn eu miloedd i Groatia a Hwngari i fwynhau'r profiad a phrofi bod mwy i bêl-droed na phêl-droed.

Cefnogwyr Cymru yn cael hwyl gyda chefnogwyr Croatia ar y ffrodd i'r stadiwm
Pawb yn gwenu cyn y gêm - cefnogwyr Cymru gyda chefnogwyr Croatia ar y ffordd i'r stadiwm Alan March
Cefnogwyr Cymru
Aled Jones
Adam Jones yn cael seibiant efo'i gyfeillion
Adam Jones
Cefnogwyr Cymru yn mwynhau'r haul
Roedd rhai o faddondai Budapest yn boblogaidd gyda chefnogwyr Cymru yn yr haul crasboeth... Mike Jones
Caniau o ddiod ger y baddon Szchenyi
...ac roedd mwy nag un ffordd i osgoi gorboethi Callum Sheppard
Cefnogwyr yn mwynhau'r awyrgylch yn Budapest
Budapest yn troi'n goch Steve Ward
Cefnogwyr Cymru yn chwarae pêl-droed bwrdd yn erbyn cefnogwyr Hwngari cyn mynd i'r stadiwm
Efallai bod mwy o siawns ennill mewn gêm pêl-droed bwrdd - cefnogwyr Cymru yn erbyn cefnogwyr Hwngari cyn mynd draw i'r gêm go iawn yn y stadiwm Gareth Williams
Luka Modric, capten Croatia - gyda dau o gefnogwyr Cymru
Hunlun gyda un o chwaraewyr gorau'r byd - capten Croatia, Luka Modrić Aled Tomos Hughes
Cefnogwyr efo'r baner Cymru yn cysgodi rhag yr haul poeth yn Osijek,
Simon Rees
Simon Rees
Simon Rees
Tîm cefnogwyr Cymru cyn eu gêm yn erbyn tim o Hwngari - 1908 SZAC Budapest
Un o draddodiadau gemau i ffwrdd Cymru - tîm cefnogwyr Cymru yn chwarae yn erbyn tîm lleol, y tro yma 1908 SZAC Budapest Alan March
Grwp o gefnogwyr Cymru - yn cynnwys The Welsh Whisperer ac Ynyr Roberts, o'r band Brigyn
"Ni'n Bale-io nawr..." - y Welsh Whisperer gyda Ynyr Roberts (chwith), o'r band Brigyn, yn Budapest Ynyr Roberts
Un o gefnogwyr Cymru
Un o gefnogwyr Cymru ar ben y byd... Aled Jones
Cefnogwr Cymru yn torri syched yn yr haul poeth
Aled Jones
Cefnogwyr Cymru yn y gêm yn erbyn Croatia
Y cefnogwyr oedd digon ffodus i gael tocyn i'r gêm yn erbyn Croatia yn Osijek... Celt Iwan
Cefnogwyr Cymru yn gwylio'r gêm mewn bar yn Budapest
...a'r rhai heb docynnau dridiau yn ddiweddarach mewn bar yn Budapest yn gwylio'r gêm yn erbyn Hwngari Ynyr Roberts
Rhai o Gymru yn mwynhau gyda'r nos
Aled Jones
Un o gefnogwyr Cymru gyda'r Ddraig Goch
Tan tro nesa'... Aled Jones

Hefyd o ddiddordeb: