Sport

Bannau Brycheiniog
Mae 'na bryder ei bod hi'n gallu bod yn beryglus ar yr A470 pan fydd ceir yn parcio wrth ymyl y ffordd PA

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am farn pobl am gynllun i wella'r safle parcio wrth droed Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog.

Mae tua 250,000 o bobl yn ymweld â'r mynydd bob blwyddyn, ac mae pryder ers tro nad oes digon o le parcio yno.

Y bwriad yw gwella'r maes parcio ym Mhont ar Daf wrth ymyl ffordd brysur yr A470, a chodi tâl am wneud hynny.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, bydd yr arian fydd yn cael ei godi yn mynd at gynnal a chadw'r llwybrau yn y bannau.

Y disgwyl yw y bydd lle i 250 o geir yn y maes parcio, ac mae'r ymddiriedolaeth yn cynnal ymgynghoriad fydd yn parhau tan 28 Ionawr.

Maes parcio Pont ar Daf
Darlun o'r maes parcio newydd arfaethedig ym Mhont ar Daf, Bannau Brycheiniog Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae cyfle i bobl roi barn yn y mannau canlynol:

Llyfrgell Aberhonddu

Dydd Gwener 13 Ionawr 12:00 - 17:00

Dydd Sadwrn 14 Ionawr 10:00 - 13:00

Caban maes parcio Pont ar Daf

Dydd Iau 12 Ionawr 10:00 - 14:00

Dydd Sul 15 Ionawr 10:00 - 14:00