Sport

Troswyd holl eiriau agoriad 'This Morning' i'r Gymraeg
Troswyd holl eiriau teitlau agoriadol 'This Morning' i'r Gymraeg

Gyda chenedlaethau wedi ymladd dros statws yr iaith dros y blynyddoedd, pwy fyddai wedi meddwl byddai'r gwaith 'na gyd wedi bod yn llawer haws petai gynnon ni dîm pêl-droed llwyddiannus?

Mae cwmnïau rhyngwladol, rhaglenni a sianeli teledu a phapurau newydd wedi troi'n Gymry am ddiwrnod (neu ddwy) diolch i lwyddiant criw Coleman.

Dyma gofnodi eiliadau hanesyddol lle cafodd y Gymraeg lwyfan rhyngwladol... am gyfnod.

Wnaeth cwis pêl-droed Cymraeg ymddangos ar wefan Radio 4
Wnaeth cwis pêl-droed Cymraeg ymddangos ar wefan Radio 4
Newidodd cyfrif Twitter Dr. Who ei enw am ychydig ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Portiwgal
Newidiodd cyfrif Twitter Dr. Who ei enw am ychydig ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Portiwgal
...a wnaeth dau o sêr presennol y gyfres ddymuno pob lwc i'r tîm...
...a fe wnaeth dau o sêr y gyfres ddymuno pob lwc i'r tîm...
Ar yr un diwrnod, wnaeth tudalen flaen y Daily Telegraph ddatgan fod pawb yn Gymry... neges ychydig yn wahanol i'r arfer
Ar yr un diwrnod, ymunodd y Daily Telegraph mewn ysbryd cenedlaethol tra wahanol i'r arfer
Newidodd cyfrif Twitter Match of the day ei enw am gyfnod er syndod i llawer o'u 2.2 miliwn o ddilynwyr mae'n siwr
Newidiodd cyfrif Twitter Match of the Day ei enw am gyfnod er syndod i lawer o'u 2.2 miliwn o ddilynwyr mae'n siŵr
I fyd masnach, a darganfyddodd cwmnioedd rhygwladol eu Cymreigtod gan gynnig anrhegion hael i ni'r Cymry...
I fyd masnach, a darganfyddodd cwmnïoedd rhyngwladol eu Cymreictod gan gynnig anrhegion hael i ni'r Cymry... Iechyd da!
A chware teg, er gwaetha'r ffaith i rain wneud ffortiwn mae'n siŵr o werthu crysau Cymru i ni, o leiaf maen nhw wedi talu nôl drwy anfon negeseuon Cymraeg, cywir ar eu cyfrif Twitter yn rheolaidd yn ystod yr ymgyrch
A chware teg, er gwaetha'r ffaith i Adidas weud ffortiwn mae'n siŵr o werthu crysau Cymru i ni, o leiaf maen nhw wedi talu nôl drwy anfon negeseuon Cymraeg, cywir ar eu cyfrif Twitter yn rheolaidd yn ystod yr ymgyrch
Aeth un papur newydd y filltir ychwanegol, drwy ddarparu llif byw o rai o gemau Cymru ar ei wefan
Guardian yr iaith: Aeth un papur newydd y filltir ychwanegol, drwy ddarparu llif byw o rai o gemau Cymru ar eu gwefan
Mae'n rhaid dweud fod ambell i gwmni wedi neidio ar y 'bandwagon' fel y cwmni 'bwyd iach' yma...
Mae'n rhaid dweud fod ambell i gwmni wedi neidio ar y 'bandwagon' fel y cwmni 'bwyd iach' yma...
Roedd hyd yn oed Tŵr Eiffel yn troi'n Gymreig pob tro roedd Cymru'n ennill
Roedd hyd yn oed Tŵr Eiffel yn troi'n Goch Gwyn a Gwyrdd pob tro roedd Cymru'n ennill
line

Bu Aled Hughes yn trafod effaith Euro 2016 ar y Gymraeg ar Radio Cymru fore Gwener 8 Gorffennaf: