Amgueddfa China Three Gorges Museum yn Chongqing lle bydd arddangosfa o wrthrychau o Gymru o 4 Mawrth i 30 Mehefin.Mae'r arddangosfa'n gyflwyniad i Gymru a bydd yn cynnwys sawl wrthrych pwysig o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon yn 1852 ger Capel Garmon, Conwy, ac fe'i ystyrir yn un o ddarnau pwysicaf gwaith haearn addurnol cynnar ym Mhrydain.Eitem arall fydd yn ran o'r arddangosfa yw cwpan aur Castell Carn Dochan. Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain.Ymhlith yr eitemau yn yr arddangosfa bydd torch o'r Oes Efydd a ganfuwyd yn Fferm Cefn, Llanwrthwl, Powys.Mae'r darlun yma'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray, The Bard.Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys darnau sy'n dangos hen draddodiad Celtaidd Prydain a Chymru.Mae Cestyll Cymru, fel Castell Cricieth yma, yn rhan bwysig 'r arddangosfa yn ogystal.Rhoddwyd y blwch 'snuff' yma i'r Cymro HM Stanley gan y Frenhines Fictoria.Mae treftadaeth diwydiannol Cymru hefyd yn rhan bwysig o'r arddangosfaBydd dresel Cymreig hefyd yn rhan o'r arddangosfa, gyda rhai o'r platiau yn dangos patrwm 'Willow" sy'n seiliedig at stori o China.