Sport

Lluniau: Dydd Iau yn yr Eisteddfod

Dydd Iau oedd y diwrnod gwlypaf o'r wythnos hyd yma ar y Maes, ond fe ddaeth yr haul i'r golwg ar ôl amser cinio.

Y Fedal Ddrama oedd prif seremoni'r dydd, ond roedd digon o liw drwy gydol y dydd hefyd.

Dyma rai o luniau'r dydd:

Jean Rhoades
Roedd heddiw#n ddiwrnod emosiynol i Jean Rhodes o Albuquerque, New Mexico, sydd wedi bod yn dod i'r Eisteddfod ers 1956. Dyma'r diwrnod olaf iddi erioed gamu i'r pafiliwn ar ei diwrnod olaf un ar Faes yr Eisteddfod, gan iddi benderfynnu mai eleni fydd y tro olaf iddi ymweld â'r Brifwyl
Grŵp Llefaru Coleg Cambria
Grŵp llefaru Coleg Cambria yn barod i gamu ar lwyfan Maes D
Ymbarel
Daeth y glaw ac roedd rhaid cael ymbarél ar y Maes
Mared
Mared yn perfformio ar lwyfan Pentref Wrecsam
Dau swyddog heddlu
Dau o swyddogion Heddlu'r Gogledd yn mwynhau smŵddi
Betsi
Wedi'r glaw, daeth yr haul ac roedd yn rhaid i Betsi gael ei sbetol cŵl allan
Gwilym Bowen Rhys
Hen Faledi yn cael eu perfformio gan Gwilym Bowen Rhys yn y Tŷ Gwerin
Noa ac Elis
Noa ac Elis o Langefni yn mwynhau gwisgo fyny mewn dillad hanesyddol ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol
Cled, Beti a Bobi
Beti a Bobi o'r Wyddgrug yn gwlychu ei Taid, Cledwyn Ashford gyda'i gynau dŵr. Mae Cledwyn yn ran o dîm y Prif Stiward ac fe fydd yn rhoi'r gorau idi eleni wedi 18 mlynedd
Caleb Nicholas, Ysgoloriaeth Osborne Roberts
Caleb Nicholas yn ennill Ysgoloriaeth Osborne Roberts Eisteddfod Genedlaethol
Cymdeithas Cymru Ariannin
Cymdeithas Cymru-Ariannin yn gorymdeithio drwy'r Maes ac yn dathlu 160 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa. Mae'r Poncho yn un gwreiddiol o Orsedd y Wladfa
Dewi Bryn Jones
Dewi Bryn Jones oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni Eisteddfod Genedlaethol
Lily Beau
Lily Beau yn diddanu'r dorf ar Lwyaf y Maes yn ystod y prynhawn
Greta Siôn
Greta Siôn o Waelod-y-garth, Caerdydd, enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni Eisteddfod Genedlaethol