Roedd dydd Sadwrn y diwrnod mwyaf gwyntog eto ar faes Eisteddfod Wrecsam, ond er hynny roedd yr haul dal i dywynu ar gaeau Is-y-coed.
Dyma rai o luniau diwrnod olaf y Brifwyl am eleni.
Einir a Nanw, o Gerrigydrudion, yn y Peiriant Amser. Fyddech chi'n mynd yn ôl mewn amser i ddechrau'r wythnos i gael profi'r Eisteddfod i gyd eto?!Mae Beca a Nel yn crwydro'r Maes yn hyrwyddo'r Coleg Cymraeg.Yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg mae cyfle i fynd ar daith drochol i fyd natur Cymru gyda setiau VR a chyfnasoddiad o symffoni arbennig sef, Seiniau Gwyllt Cymru: Bywyd yn y Coed .Dr Owain Llwyd sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth sy'n cael ei pherfformio gan Gerddorfa Welsh National Opera, sy'n brofiad 360° o fyd natur Cymru.Yn Y Babell Lên, Sharon Morgan a Steffan Rhodri oedd yn sgwrsio am wreiddiau gyrfa Richard Burton ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant dan arweiniad Daniel G. Williams.Y Lle Celf: Cysur Keltaidd gan Gwyn Williams. Fyddech chi'n gwisgo trôns fel hwn?Y Lle Celf: Dylan Huw oedd yn arwain sgwrs gyda'r awdur ac artist Esyllt Lewis, enillydd gwobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad llafar 'Blobus a Phryderon Eraill'.Daeth cannoedd o Eisteddfotwyr at Lwyfan y Maes i wylio gêm bêl-droed Wrecsam yn erbyn Southampton lle'r oedd Nic Parry a Malcom Allen yn sylwebu'n fyw o'r llwyfan.Dywedodd Malcom fod y dorf yn gwrando'n astud ar y sylwebaeth cymaint nes bod rhaid iddo "checkio bod nhw dal yno!"'Dych chi byth rhy hen i fwynhau gêm o bêl-droed yn yr haul!Aled LlywelynAeth Rhys, Sian, Ses ac Elis o Ruthun i gael cip ar gêm bêl-droed Wrecsam ar sgrin fawr Llwyfan y Maes yn yr haul. Roedden nhw wedi mwynhau er gwaetha'r canlyniad!Sapphire, Idris a Teifi yn mwynhau un o'r nifer o lefydd da i dynnu llun ar y Maes!Mae Caffi Maes B wedi bod yn boblogaidd iawn drwy'r wythnos i glywed trafodaethau, perfformiadau byw a chomedi.Aled Llywelyn