Y diwrnod brafiaf o'r wythnos hyd yma ar y Maes, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi Dysgwr y Flwyddyn a'r Prif Lenor Rhyddiaith.
Dyma rai o luniau'r dydd:
Low-fi Jones a Kitsch n Sync gyda'r hetiau perffaith ar gyfer yr haulDigon i edrych arno yn Y Lle CelfArtist yn dehongli artist - darlun o'r pianydd Llŷr Williams, sy'n dod o RosllannerchrugogCaio, o Gaernarfon, gydag un o'i hoff ddarnau celfRoedd yn rhaid ciwio am gyfnod hir i fynd i mewn i'r Tŷ Gwerin i wylio Pedair, y grŵp wnaeth ffurfio yn ystod y cyfnod clo ac enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2023Fe gafodd y rhai lwyddodd i fynd i mewn wledd o gerddoriaaeth gan Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Siân JamesRoedd Cian Ciarán ar y Maes i gyflwyno gosodiad chwe awr i gofio 80 mlynedd ers bom HiroshimaEisteddfod GenedlaetholGwrando ar y gosodiad i gofio HiroshimaYr haul yn esgus perffaith i Eleanor, Gwen Mairi, Roger ac Ann gael hufen iâA rhaid cofio fod pawb yn haeddu gwleddMari William, Jo Patel a Nat Baguley o Ymddiriedolaeth Lles Ieir Prydain, sy'n ceisio ailgartrefu ieir sy'n rhy hen i ffermydd ieir mawr, pan fydd nhw'n 18 mis oedJanet a Sioned, o Ddinbych, a Peter a Meirwen o bentref MinfforddLucy Cowley, o Langollen, ar y llwyfan wedi iddi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn