Sport

Seren Wrecsam yn cofio am ei thad wrth baratoi am ffeinal

Lili yn gwylio gem ar y Cae Ras gyda'i thad, Gareth, fu farw yn 50 oed yn 2021
Lili yn gwylio gêm ar y Cae Ras gyda'i thad, Gareth, fu farw yn 50 oed yn 2021 Llun cyfrannydd

Mae tipyn wedi newid i Lili Mai Jones ers i'w thad farw'n sydyn bedair blynedd yn ôl.

Mae'r chwaraewr ifanc wedi bod yn chwarae rhan allweddol yn un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Bydd un o uchafbwyntiau ei gyrfa ifanc yn siŵr o ddod ddydd Sul, wrth i Wrecsam herio Caerdydd yn ffeinal Cwpan Cymru.

Yn rhan o'r clwb ers yn chwech oed, mae Lili, 19, bellach yn cydbwyso bywyd prifysgol â chwarae pêl-droed ar lefel led-broffesiynol.

"Mae'r cydbwysedd yna bron yn amhosib," cyfaddefa Lili, sy'n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd hefyd wedi cael blas ar sylwebu.

"Dwi'n 'neud lot o ddreifio rhwng Bangor a Wrecsam. Dwi 'nôl a 'mlaen tair gwaith yr wythnos o leiaf.

"Mae yn anodd, ond ar yr un pryd, mae'n ddau beth dwi rili isio gwneud.

"Dwi rili isio astudio'r Gymraeg a dwi rili isio chwarae pêl-droed dros Wrecsam."

'Aros efo fi am byth'

Mae Lili yn byw "dau funud i ffwrdd" o gartref chwedlonol Wrecsam - Y Cae Ras.

Ar ôl gwylio o'r teras am flynyddoedd, mae'n cofio breuddwydio y byddai hi'n camu ar y cae ei hun rhyw ddiwrnod - breuddwyd sydd bellach yn realiti.

"O'n i'n ddigon lwcus i sgorio ar y Cae Ras," meddai.

"Ma' hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i aros efo fi am byth."

Bedair blynedd yn ôl bu farw tad Lili, Gareth, yn 50 oed drwy hunanladdiad.

Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam ac yn gefnogol iawn o yrfa'i ferch.

Er bod colli ei thad wedi bod yn ergyd galed, mae Lili yn dweud ei fod wedi'i hysbrydoli i barhau â'i thaith bêl-droed

"Dwi'n cofio fo'n deud pan o'n i'n tyfu fyny, 'get involved'," meddai Lili.

"Doedd o byth yn gweiddi arna fi ar ochr y cae - o'dd o jyst yn bresenoldeb.

"Mae unrhyw un oedd yn nabod fo yn gw'bod o'dd o'n gymeriad mawr ar ochr y cae. O'dd o wastad yn 'neud i bobl chwerthin.

"Dwi'n cofio o'n i'n chwarae efo tîm o hogiau, o'dd hi'n ddiwrnod rili oer ac o'dd hi'n glawio a o'dd hogyn yn y gôl yn crynu a 'nath Dad fynd tu ôl i gôl a dechra' neud star jumps efo fo.

"Dwi'n cofio bod mor embarrassed ond ma'r atgof 'na yn sefyll allan," meddai.

Lili Jones
Fe siaradodd Lily Jones yn agored am y profiad o golli ei thad ar y rhaglen ddogfen fyd-enwog, Welcome to Wrexham Getty Images

"Tua pum mlynedd yn ôl, ges i alwad i chwarae dros Gymru," meddai Lili, sy'n cofio'i thad yn ei ffonio i ddweud na fyddai'n gallu bod yno i'w gwylio gan ei fod yn gweithio.

"[Ond] wrth i fi gamu ar y cae nes i sbotio car fo cyn i ni ganu'r anthem.

"'Nath o gymryd diwrnod off i ddod lawr - na'i fyth anghofio hynna.

"Mae colli Dad, mae jyst yn rhoi ysgogiad arall - mae'n rhoi rheswm arall i fi chwarae.

"Dwi'n trio gwneud o'n falch bob tro dwi'n rhoi'r crys Wrecsam 'na on."

Mae Ryan Reynolds, Cydberchennog Wrecsam, a Rob McElhenney, Cydberchennog Wrecsam, yn dathlu gyda chwaraewyr Dynion a Merched Wrecsam yn ystod Gorymdaith Fysiau CPD Wrecsam yn dilyn eu Tymhorau Ennill Teitl priodol yng Nghynghrair Genedlaethol Vanarama a Genero Adran North ar Fai 02, 2023 yn Wrecsam, Cymru.
"Profiad bythgofiadwy": Lili (ail o'r dde) yn dathlu gyda Ryan Reynolds (canol) a Rob McElhenney (chwith) - perchnogion Wrecsam - ym mis Mai 2023 yn dilyn tymhorau llwyddiannus i'r menywod a'r dynion Getty Images

Ddydd Sul, bydd Wrecsam yn wynebu Caerdydd – tîm sydd eisoes yn bencampwyr y gynghrair a chyn-enillwyr y gwpan – mewn gêm sydd, yn ôl Lili, yn siŵr o fod yn frwydr agos.

"Fydd o'n gêm anodd – mae Caerdydd yn dîm da. Ond 'da ni 'di curo nhw yn y ddwy gêm ddiwetha'.

"Ma' momentwm mor bwysig mewn pêl-droed a 'da ni wedi cael rhediad da o gemau.

"'Da ni'n ymarfer ddwywaith yr wythnos... gwylio gemau Caerdydd yn ôl a trio pigo lle mae camgymeriadau. 'Da ni mewn lle da fatha tîm."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Bydd rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy rhwng Wrecsam a Chaerdydd yn fyw o Rodney Parade, Casnewydd o 16:45 ddydd Sul ar S4C ac iPlayer, gyda'r gic gyntaf am 17:15.