Wedi wythnos i'w chofio ym Mhontypridd, dyma rai o'n hoff luniau o'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod roedd y teulu yma o Abertawe wedi teithio i wylio'r bandiau pres yn cystadluRuby, Alys a Teddie yn crwydro’r maes dydd Sadwrn, a'r tri wrth eu bodd bod yr Eisteddfod wedi dod i'w hardal nhw.Criw o blant yn gwylio perfformiad gan aelodau o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol CaerdyddEisteddfod Genedlaethol CymruEisteddfod Genedlaethol CymruYws Gwynedd oedd yn cloi Llwyfan y Maes ar nos Sul yr EisteddfodEisteddfod Genedlaethol CymruFore Llun yn y Pafiliwn, bu Mererid Hopwood yn arwain ei phrif seremoni gyntaf fel Archdderwydd yr OrseddEisteddfod Genedlaethol CymruEiliad hyfryd yn y Pafiliwn wrth i Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni gofleidio ei mab Gwynfor Dafydd wedi iddo ennill y Goron brynhawn LlunEisteddfod Genedlaethol CymruRoedd angen cysgod y coed ym Mharc Ynysangharad ddydd Mawrth, yn enwedig mewn gwisg draddodiadolEisteddfod Genedlaethol CymruDaeth glaw ddydd Mercher, ond roedd Y Lle Celf yn cynnig lloches delfrydolCatrin Finch ac Aoife Ní Bhriain yn perfformio yn y Tŷ Gwerin ddydd MercherEisteddfod Genedlaethol CymruEr gwaethaf y glaw fore Iau, roedd ambell un wedi mentro i'r Lido ar faes yr Eisteddfod ym Mharc YnysangharadEluned Morgan, Prif Weinidog newydd Cymru, ar y Maes ddydd IauEisteddfod Genedlaethol CymruCarwyn Eckley oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair eleniSteffan Donnelly, Siân Phillips a Michael Sheen gefn llwyfan y Babell Lên ddydd SadwrnBetsan Haf EvansBethan Clwyd sydd wedi bod yn tywys ymwelwyr yn ei bygi trwy’r wythnosBetsan Haf Evans