'Colli cyfleoedd i ddiogelu a gweithredu' cyn marwolaeth Ethan
Mae adolygiad wedi canfod fod asiantaethau wedi colli nifer o gyfleoedd i asesu diogelwch a gweithredu ar bryderon cyn i fachgen dwy oed gael ei lofruddio gan ei nain a'i daid yn Sir y Fflint.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths, oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ym mis Awst 2021.
Tra'n cydnabod newidiadau sydd wedi'u cyflwyno ers marwolaeth Ethan, mae'r adroddiad yn nodi 16 o argymhellion i gryfhau arferion diogelu ar draws asiantaethau.
Cafodd Michael Ives ei ddedfrydu i isafswm o 23 o flynyddoedd dan glo, a Kerry Ives i o leiaf 17 o flynyddoedd am lofruddio eu hŵyr.
Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28, yn euog o achosi neu o ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blentyn a chafodd ddedfryd 12 mlynedd gan y barnwr, gydag o leiaf wyth mlynedd dan glo.
Nawr mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, sy'n bartneriaeth aml-asiantaeth, wedi cyhoeddi canfyddiadau'r Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig i'r amgylchiadau cyn marwolaeth Ethan.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?
Mae'r adroddiad yn dweud bod cyfres o gyfleoedd diogelu wedi eu colli, gan gynnwys methiant i weithredu ar wybodaeth hanesyddol, methiant i sicrhau mynediad at y plentyn, a methiant i uwchgyfeirio pryderon pan oedd y teulu'n osgoi'r asiantaethau.
Mae'n nodi bod gweithwyr cymdeithasol ddim wedi gallu gweld Ethan o gwbl rhwng 22 Gorffennaf a 4 Awst 2021, pan gyrhaeddodd yr ysbyty.
Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd y gwasanaethau wedi ymateb yn ddigonol i bryderon gan dad Ethan a'i deulu ynghylch gofal Ethan a lles y fam.
Dywedodd y tad wrth yr adolygwyr ei fod yn teimlo "nad oedd unrhyw un yn gwrando arno".
Canfyddiad arall yw bod problemau recriwtio, swyddi gwag, defnydd sylweddol o staff asiantaeth a chynnydd mawr mewn atgyfeiriadau wedi effeithio ar allu'r gwasanaethau i ddiogelu plant.
Doedd dim gweithiwr cymdeithasol penodedig yn delio gydag achos Ethan am gyfnod ac roedd 'na oedi wrth weithredu gofynion statudol.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 36 o atgyfeiriadau, pryderon neu ffurflenni atgyfeirio CID16 yr heddlu wedi'u cyflwyno mewn perthynas â'r teulu ers 2016. Roedd cyfran uchel o'r rhain wedi eu cau heb unrhyw gamau pellach.
Dywed yr adroddiad fod Gwasanaethau Plant wedi cael gwybod ar 7 Gorffennaf 2021 fod Ethan yn byw gyda'i nain a'i daid.
Nid oes cofnod o unrhyw wiriadau lles wedi'u cynnal ar ôl i'r wybodaeth hon gael ei derbyn, er bod yr asiantaethau yn ymwybodol o bryderon ynghylch y nain a'r taid yn ymestyn yn ôl am flynyddoedd.
Mae'r adroddiad yn casglu "na chafodd llais Plentyn E ei glywed" a bod ychydig iawn o wybodaeth am Ethan ar ffeiliau asiantaethau, a bod ei enw prin yn ymddangos mewn adroddiadau.
Roedd gwybodaeth allweddol wedi'i wasgaru ar draws gwahanol ffeiliau, cyfeiriadau'r teulu yn anghywir neu heb eu diweddaru, a staff ddim yn gallu gweld darlun cyflawn o'r risgiau.
Roedd y dryswch hwn yn amlwg hyd yn oed ar y noson y cyrhaeddodd Ethan yr ysbyty.
Mae 'na feirniadaeth o benderfyniad yr heddlu ar un pwynt i beidio â pharhau gydag ymchwiliad Adran 47 ar y cyd - ymchwilad sy'n statudol i ganfod a oes angen cymryd camau i ddiogelu lles plentyn.
Mae hefyd yn nodi tensiynau a diffyg cyfathrebu rhwng asiantaethau yn ystod y cyfnod cyn marwolaeth Ethan.
Gyda nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau wedi cynyddu 76% mewn tri mis yn 2021, mae'r adroddiad yn cydnabod y pwysau ar staffio a chapasiti mewn cysylltiad â chyfnod y pandemig, ac nad oedd y galw wedi dychwelyd i lefelau cyn Covid-19.
Ymhlith yr 16 argymhelliad yn yr adroddiad, mae galw am well rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, ymateb mwy cadarn pan nad yw teuluoedd yn ymgysylltu â gwasanaethau, a mwy o sylw i effaith cam-drin domestig ar blant.
Mae hefyd yn argymell cryfhau goruchwyliaeth a hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol a gwella systemau TG a chofnodi gwybodaeth.
Yn ol Fôn Roberts, Cadeirydd yr Adolygiad, mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn "darparu sail glir ar gyfer gweithredu pellach".
"Mae'r adroddiad yn cofnodi'r newidiadau a wnaed ers marwolaeth Ethan, ac mae hefyd yn nodi'r gwaith pwysig sy'n dal angen ei wneud gan lawer o asiantaethau.
"Mae'n rhaid i bolisïau, hyfforddiant a systemau newydd gael eu trosi'n ymarfer cyson, megis gweld plant, deall eu bywydau bob dydd, gwrando ar bryderon, rhannu gwybodaeth a gweithredu'n brydlon pan fydd risgiau'n cynyddu."
Ymddiheuro yn ddiamod
Dywedodd Nicola Stubbins, Cyd-gadeirydd y bwrdd: "Ymddiheurwn yn ddiamod na wnaeth y systemau aml-asiantaeth hynny amddiffyn Ethan fel y dylent fod wedi ei wneud. Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod y gwersi hanfodol o'r achos hwn yn arwain at newidiadau parhaol i'n hymarfer proffesiynol.
"Byddwn yn dwyn yr asiantaethau y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad hwn i gyfrif a byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Bwrdd Diogelu yn gynnar yn y flwyddyn newydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint: "Er mai'r unigolion a gafodd eu dyfarnu'n euog o'r drosedd sy'n gyfrifol am lofruddio Ethan, rydym ni, fel cyngor yn ymddiheuro bod cyfleoedd i wneud mwy wedi cael eu colli ac na chafodd y lefel o amddiffyniad yr oedd yn ei haeddu.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r gwersi a ddysgwyd o'r achos hwn wedi helpu i lywio arferion diogelu yn Sir y Fflint.
"Ochr yn ochr â'n partneriaid, rydym wedi cryfhau gweithdrefnau, gwella hyfforddiant, gwella gwaith aml-asiantaeth ac atgyfnerthu pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol a chadw llais y plentyn wrth wraidd pob penderfyniad a wneir.
"Rydym yn parhau i ymrwymo i weithredu argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant a pharhau i drosi'r gwersi a ddysgwyd o'r drasiedi hon yn arferion diogelu gwell."
Yn ol y Prif Uwch-Arolygydd, Sian Beck, ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn cydnabod yr oedd meysydd lle allai Heddlu Gogledd Cymru fod wedi gwella ei ymateb, ac rydym yn ymddiheuro i dad Ethan, a'i deulu, am hyn.
"Yn dilyn marwolaeth Ethan, rydym wedi cyflwyno rhaglenni hyfforddi i wella chwilfrydedd proffesiynol a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partner, sy'n cynnwys 'llais y plentyn' yn benodol, sy'n gweld y byd drwy lygaid y plentyn ac yn gwneud yn siŵr bod eu profiadau, teimladau, dymuniadau ac anghenion yn cael eu clywed a'u gweithredu arnynt.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod yr ystod o argymhellion yn cael eu rhoi ar waith yn lawn i sicrhau na fydd marwolaeth drasig Ethan yn ofer."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.