Lluniau: Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru 2026
Fe gynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yng Ngheredigion eleni… ac aeth y tlws buddugol ddim yn bell iawn.
Oherwydd wedi diwrnod hir o gystadlu ym Mhafiliwn Bont, CFfI Ceredigion aeth â hi, gyda CFfI Sir Benfro a CFfI Sir Gaerfyrddin yn gydradd ail.
Roedd 800 wedi cystadlu mewn pob math o weithgareddau gan gynnwys cerdd, llefaru, adloniant, ysgrifennu, celf a ffotograffiaeth.
Ac fe wnaeth un cystadleuydd ennill y Dwbl - y Goron a'r Gadair - sydd ond wedi digwydd unwaith o'r blaen yn hanes yr eisteddfod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.