Sport

Y Cymro Gerwyn Price yn ennill y Gamp Lawn

Gerwyn Price
Cafodd Gerwyn Price ei fagu ym mhentref Markham yn sir Caerffili Getty Images

Mae'r dartiwr Cymreig Gerwyn Price wedi ennill cystadleuaeth y Gamp Lawn nos Sul, ar ôl curo Gian van Veen gyda sgôr o 16-11.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Wolverhampton ac roedd gwobr o £200,000 i'r enillydd.

Dyma'r tro cyntaf i 'Iceman' ennill un o brif ddigwyddiadau'r PDC ers pedair blynedd, ond mae wedi colli mewn tair ffeinal wahanol eleni'n unig.

Cyrhaeddodd y rownd derfynol ar ôl curo Kevin Doets yn gyfforddus cyn hynny, gyda sgôr o 16-13.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob blwyddyn ac wedi bodoli ers 2007. Dechreuodd twrnamaint eleni ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd.

Dyma'r pedwerydd tro i Price godi Cwpan Eric Bristow ac mae wedi rhwystro van Veen rhag ennill yno am y tro cyntaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.