Sport

Cyfweliadau cyntaf Huw Edwards ers cael ei erlyn dros luniau anweddus o blant

Huw Edwards mewn siwt, crys, tei a sbectol haul yn cyrraedd llys yn ystod ei achos yn 2024
Huw Edwards yn cyrraedd Llys Ynadon Westminster yn Llundain ym mis Gorffennaf 2024, ble y plediodd yn euog i gyhuddiadau o greu delweddau anweddus o blant Reuters

Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, wedi rhoi ei gyfweliadau cyntaf ers cael ei erlyn yn 2024 am greu lluniau anweddus o blant.

Mewn rhan o gyfweliad ar gyfer papur newydd Sul The Observer, a phodlediad cysylltiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth nesaf, mae Edwards yn cael ei weld yn dweud ei fod yn credu bod "aros yn dawel yn wenwynig".

Mae hefyd wedi cael ei gyfweld ar gyfer rhaglen ddogfen ar Channel 4, Huw Edwards - Guilty, a fydd hefyd yn cael ei darlledu ddydd Mawrth.

Plediodd Edwards, oedd am gyfnod yn gyflwynydd newyddion mwyaf blaenllaw'r BBC, yn euog ym mis Gorffennaf 2024 i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, ac fe gafodd ddedfryd gohiriedig o chwe mis o garchar.

Cyfaddefodd fod 41 o luniau a chlipiau fideo wedi eu hanfon ato ar WhatsApp, gan gynnwys rhai o blentyn rhwng saith a naw oed.

Dywedodd un o weinidogion Llywodraeth y DU, Anna Turley, wrth LBC ei bod yn "anghysurus iawn" gyda'r cyfweliadau, a bod "llawer o'r bobl hyn yn llygad y cyhoedd wedi gallu cael rhyw fath o osgoi cyfrifoldebau am gyfnod ry hir".

Mae nifer ar y cyfryngau cymdeithasol wedi beirniadu'r penderfyniad i "roi llais" i droseddwr rhyw sydd wedi'i gofrestru.

Mewn rhagflas ar gyfer y rhaglen Channel 4, mae'r cyfarwyddwr Patrick Forbes yn gofyn beth oedd e'n ei wneud. Ateba Edwards: "O, rwyt ti am i mi ddadansoddi beth o'n i'n ei wneud? O ddifri?"

O ailofyn y cwestiwn, ateba'r cyn-ddarlledwr: "Ro'n i wedi colli'r plot."

Mae'r holwr yn ei herio: "Wel, dere". Ateba Edwards yn ddig: "Na, dim dere."

Serch natur ymddangosiadol ymosodol yr ateb hwnnw, ysgrifennodd Edwards ar ei flog ddydd Iau: "Rwy' mo'yn i wylwyr wybod na wnes i osgoi ateb yr un cwestiwn, ac fy mod wedi ateb pob un mor onest ag y gallwn, gan gynnwys y rheiny am faterion personol eithriadol: fy mherthnasau, fy anian, fy rhywioldeb."

Gan amlinellu ei resymau dros roi'r cyfweliadau, dywedodd: "Daeth fy nhrafferthion i fod yn newyddion tudalen flaen, ac roedd y stori a gydiodd, mewn mannau, yn gamarweiniol neu'n anghywir.

"Nid yw'n syndod taw'r rheiny sy'n hybu adroddiadau anwireddus yw'r rhai sy'n herio fy hawl i gywiro'r record.

"Roedd dewis gyda fi: gadael i'r record ddiffygiol yna sefyll am byth, neu gynnig un fy hun."

Mewn datganiad, dywedodd Forbes ei bod "yn ffilm bwysig i'w chynhyrchu".

"Mae'n beth prin dod o hyd i wrthrych sy'n ymwneud â chymaint o faterion sylweddol cyfredol – boed y diwylliant enwogion neu rym y cyfryngau – yn ogystal â chwestiynau parhaus ynghylch trosedd a chosb," dywedodd.

Yn y clip ar gyfer y cyfweliad ar wahân gyda'r Observer a'r podlediad Tortoise Investigates, gwelir Edwards yn dweud mai "cryn dipyn o'r cyngor i mi ei gael yw i fod yn dawel, dweud dim".

Dywed yr holwr Ceri Thomas, cyn-olygydd rhaglenni Today a Panorama y BBC, ei fod yn "chwilfrydig sut y cafodd dyn mor flaenllaw ei hun yn y sefyllfa anhygoel, ofnadwy yma".

Mewn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Rosamund Urwin, prif ohebydd newyddion gyda'r Sunday Times, ac un o arweinwyr ymchwiliad y papur hwnnw i achos Russell Brand: "Mae 'sefyllfa anhygoel, ofnadwy' yn ymadrodd ry ddymunol i ddisgrifio rhywun sy'n edrych ar ddelweddau cam-drin plant dioddefwyr mor ifanc â saith."

Mae cytundeb Tortoise Media, sy'n berchen ar yr Observer, yn golygu bod rhai podlediadau ar gael ar BBC Sounds, ond dywed y BBC na fydd y gyfres am Huw Edwards yn eu plith.

Dywed Channel 4 a'r Observer na chafodd Edwards unrhyw dâl am y cyfweliadau nag unrhyw fewnbwn golygyddol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.