Ateb y Galw: Joe Morgan
Joe Morgan o Gaerdydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Fe enillodd Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Mae Joe yn creu cynnwys ar ei dudalen Instagram ac yn cyflwyno podlediad am gerddoriaeth o'r enw Sŵntrack.
Dewch i ddod i'w adnabod yn well!
Beth yw dy atgof cyntaf?
Mae'n anodd meddwl am yr atgof cyntaf ond mae gwyliau teulu yn Ffrainc yn sefyll mas i fi.
Teithion ni yn y car i dde Ffrainc, yn gwrando ar gerddoriaeth yr 80au, yn archwilio dinasoedd gwahanol ac yn bwyta croissants ac eclairs.
Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le yng Nghymru yw darganfod y Gogledd… mae Ynys Môn mor bert ym machlud haul yr haf!
Ond, hefyd dwi'n caru Caerdydd achos mae'n adref ac mae'n ddinas mor amrywiol.
Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson orau dwi erioed wedi cael oedd noson ar ôl yr Eisteddfod Rhyngolegol un flwyddyn.
Gweithion ni yn galed iawn a gwnaethon ni'n dda yn cynrychioli ein prifysgol, felly dathlon ni gyda noson allan wych!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Doniol, direidus, ac uchelgeisiol
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi'n meddwl bod ennill Medal Bobi Jones yn un o'r digwyddiadau sy'n neud i fi wenu wrth edrych yn ôl.
Mae'n dangos i fi cymaint o angerdd sydd 'da fi ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae hefyd wedi ysbrydoli fi i ysbrydoli eraill i ddefnyddio eu Cymraeg nhw!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i'n mynd adref ar ôl noson allan nes i gwympo i lawr set fawr o risiau… y peth gwaethaf oedd nad o'n i ddim hyd yn oed 'di cael lot i yfed.
Nes i ddim jest cael sore bottom ond hefyd nes i golli fy urddas.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi wastad yn crïo tra'n gwylio'r teledu a dwi wedi bod yn gwylio Ted Lasso yn ddiweddar… lot o ddagrau wrth wylio golygfeydd penodol.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi ddim yn hoffi cael ewinedd hir, a phan dwi'n mynd yn nerfus neu'n bryderus, dwi'n eu cnoi nhw'n fyr.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Fy hoff ffilm fi yw Jurassic Park achos dwi jest yn obsessed gyda dinosoriaid i fod yn onest a dwi hefyd yn ffan mawr o waith Steven Spielberg.
Fy hoff albwm ar hyn o bryd yw Adfyw gan Cordia achos mae'n llawn o absoliwt tiwns… Mae'r vibes yn campweirus!
Wrth gwrs fy hoff bodlediad yw Sŵntrack gyda Joe… achos pwy sy' ddim yn caru hunan-hyrwyddo! Ond na, i actually dweud y gwir dwi wir yn mwynhau creu a chynhyrchu'r podlediad a chael y cyfle i siarad 'da pobl yn y maes cerddorol Cymraeg!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod a pham?
Dwi'n meddwl y base hi'n ddiddorol cael diod gyda Caryl Parry Jones i ddysgu mwy am ei phroses greadigol hi a hefyd mwy am hanes cerddoriaeth Gymraeg!
Dyweda rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ar hyn o bryd dwi yn obsessed gyda'r siocled Kinder Eggs… tu fewn i'r Kinder Eggs ti'n cael dinosor a dwi yn trio casglu nhw i gyd felly ar hyn o bryd mae 'na fwy na 30 dinosor ar dashboard fi yn y car.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dw i'n meddwl baswn i'n mynd am dro i rywle bert, cael cinio rhost enfawr gyda'r holl bethau ychwanegol yn cynnwys tatws rhost, cauliflower cheese, a pigs in blankets. Wedyn gwneud rhywbeth hwyliog ac annisgwyl, fel neidio o awyren!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae lluniau a fideos yn rhan enfawr o fy mywyd, gan fy mod i'n rhannu llawer o fy mywyd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae lluniau ohonof i ar wyliau gyda fy nheulu a lluniau ohonof i gyda fy ffrindiau o'r brifysgol yn ein Dawns Haf yn arbennig o bwysig i mi.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dw i'n meddwl baswn i'n dewis bod yn Rhun ap Iorwerth er mwyn cael cipolwg go iawn ar sut mae ein gwlad yn cael ei rhedeg a deall gwleidyddiaeth yn well. Hefyd, baset ti'n cael cyfle i gwrdd â phobl reit cŵl!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.