Er gwaetha'r rhagolygon, fe wnaeth y glaw gadw draw ac fe roedd yr haul eto'n gwenu ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma flas o ddiwrnod llawn cystadlu, hwyl a digwyddiadau di-rif.
Roedd yna ddawnswyr stryd yn gorymdeithio ar y maes ddydd SulBydd y newyddiadurwr Maxine Hughes, Arweinydd Cymru a'r Byd yn cael ei hurddo i'r wisg las ddydd GwenerHarri a Llew - chwaraewyr y dyfodol i dîm Wrecsam efallai?Gwilym, Ann, Carys ac Elin yn mwynhau gêm o bêl-droed bwrdd ar stondin S4C. Gwilym, tad-cu Carys, oedd y chwaraewr fwyaf cystadleuolAled Williams a Byron Davies o Fand Pres Lewis Merthyr ar y ffordd i'r maes i gystadlu yn y gystadleuaeth i fandiau pres adran unSgipio a stepio yn y Tŷ Gwerin gyda Dawnswyr MônMae yna groeso cynnes gan y 'Sgwad Steddfod' ym Mhentref WrecsamWel, mae gan Martha Nel ac Elis Moi o Drefach ger Llanelli ffordd hwylus iawn i fynd o amgylch y maesRoedd y ciw i'r Pafiliwn ar gyfer y gystadleuaeth Côr newydd i'r Eisteddfod yn cyrraedd yr arwydd mawr cochYn cystadlu yn y gystadleuaeth Côr newydd i'r Eisteddfod oedd Côr Heddlu Gogledd Cymru gyda dros 40 o aelodau. Dyma nhw gefn llwyfan cyn cystadluHefyd yn cystadlu oedd disgyblion Ysgol Plas Coch, Wrecsam. Dywedodd eu pennaeth Mr. Osian Jones ei fod yn "braf cael cystadlu yn lleol a rhoi cyfle i'r plant a'u teuluoedd"Fe ddenodd y digrifwr Gethin Evans lond pabell o gynulleidfa yng Nghaffi Maes BY dyrfa yn heidio i weld Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes