O'r archif: Eisteddfodau Wrecsam y blynyddoedd a fu
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl yn Wrecsam am y seithfed tro.
Rydyn ni wedi bod yn tyrchu yn yr archif am atgofion o ymweliadau'r Brifwyl â'r ddinas dros y blynyddoedd.
1876
Hon oedd Eisteddfod y Gadair Ddu cyn Eisteddfod Penbedw yn 1917, pan y cafodd ei gyhoeddi fod Hedd Wyn wedi ennill y Gadair, ond ei fod eisoes wedi marw ar faes y gad. Enillydd Cadair Eisteddfod Wrecsam 1876 oedd Thomas Jones o Langollen, neu Taliesin o Eifion, fu farw cyn y seremoni. Cafodd y gadair ei gorchuddio gyda defnydd du, ac roedd y dyrfa i gyd dan deimlad yn ystod y seremoni.Casgliad Amgueddfa Sir DdinbychPoster goffa am y digwyddiad. Mae sôn i Thomas farw y noson yr anfonodd ei awdl i gael ei beirniadu, ac mae'r poster yn honni mai ei eiriau olaf oedd 'A yw'r awdl wedi ei danfon yn saff?'Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1888
Medal a gafodd ei rhoi yn yr Eisteddfod yn 1888Eisteddfod Genedlaethol CymruRoedd diwrnod cyntaf yr Eisteddfod wedi denu'r dyrfa fwyaf erioed, yn ôl papur newydd Y Drych ar 20 Medi 1888 - a hynny oherwydd ymweliad cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, William Ewart Gladstone, a dreuliodd ran helaeth o'i fywyd yn byw yng Nghastell Newydd PenarlâgLlyfrgell Genedlaethol CymruTystysgrif i nodi fod Richard Owen yn dod yn aelod o'r Orsedd, wedi ei lofnodi gan yr Archdderwydd, Hwfa MônGrŵp Treftadaeth Dyfi
1912
Seremoni gyhoeddi'r Eisteddfod yn 1911. Yr Archdderwydd oedd Dyfed (Evan Rees)Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Mrs Moria Humphreys, CoedpoethTybed beth oedd yn y rhestr testunau yn Eisteddfod 1912? Diddorol mai yn Saesneg oedd y llyfryn...Eisteddfod Genedlaethol CymruTarfodd swffragetiaid ar araith gan y Canghellor David Lloyd George yn y Pafiliwn, o flaen torf o 4,000. Cafodd wyth o ferched ac un dyn eu hel oddi yno, ac fe ymosododd y dyrfa ar y merched oedd yn protestio. Meddai'r hanesydd, Elin Tomos: "I nifer, roedd Lloyd George yn drysor cenedlaethol ac yn eu golwg hwy yn llawer mwy na gwleidydd yn unig. I'w gefnogwyr, roedd ymosodiad ar Lloyd George yn ymosodiad ar Gymreictod - a hynny yn yr Eisteddfod o bob man!"Hulton ArchiveGrŵp o 'feirdd swyddogol' yr Eisteddfod. Enillydd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod honno oedd T.H. Parry-Williams. Gwnaeth 'y dwbl' eto ym Mangor yn 1915Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Mrs Moria Humphreys, Coedpoeth
1933
Gosod meini'r Orsedd yn 1932 ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn wedynEisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Mrs Moria Humphreys, CoedpoethSeremoni gyhoeddi Eisteddfod 1933 - yr Archdderwydd oedd Gwili (John Jenkins)Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Tom CarringtonAlun Davies, 12 oed, oedd un o'r macwyiaid yn seremonïau'r Orsedd yn 1933. Yn y llun hefyd mae'r cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, a oedd wedi dod i ymweld â'r MaesEisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Mr Alun DaviesCafodd y Gadair ei rhoi gan Dr John Robert Jones, yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ond oedd erbyn hynny yn byw yn Shanghai. Ei syniad o oedd i ofyn i grefftwyr yn T'ou-se-we ger Shanghai ei chreuAmgueddfa CymruY bocs y daeth y Gadair draw i Gymru ynddi a llun o rai o'r crefftwyr a dreuliodd dros flwyddyn yn ei chreu. Enillydd y Gadair oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl, HarlechEisteddfod Genedlaethol Cymru/Amgueddfa Cymru
1977
Yr heddwas Tecwyn Blainey yn rhoi croeso cynnes i Eisteddfotwyr 1977Eisteddfod Genedlaethol CymruNid T.H. Parry-Williams oedd yr unig fardd i ennill Coron a Chadair mewn Eisteddfod yn Wrecsam - gwnaeth Donald Evans yr un gamp yn 1977. Eto, fel T.H., aeth Donald ymlaen i wneud y 'dwbl dwbl' gan ennill y ddwy wobr eto yn Nyffryn Lliw, 1980Eisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Donald EvansDonald Evans yn cario'i Goron o amgylch y Maes ar ôl ei hennill am ei bryddest, HilEisteddfod Genedlaethol Cymru/Rhan o gasgliad Donald EvansRecord Cymanfa Ganu Eisteddfod 1977. Ar nos Sul ola'r Brifwyl, daeth cynulleidfa o 5,000 at ei gilydd i ganu emynau 'o waith beirdd a chyfansoddwyr Bro Maelor, ardal a gyfrannodd yn helaeth i ganiadaeth y Cysegr.'Sain
2011
Aled Roberts (chwith) yn rhan o osgordd yr Orsedd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod 2011. Bu farw Aled yn 2022, a'i wraig, Llinos Roberts, yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2025Darganfyddiad (oddi ar Flickr)Ddydd Gwener Eisteddfod 2011, roedd rheolwr Cymru, y diweddar Gary Speed, ar y Maes - a hynny am y tro cyntaf erioed - er mwyn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd. Meddai yn ystod y gynhadledd i'r wasg: "Mae'n wych yma. Fel arfer dwi yng Nghaerdydd a ddim yn cael lot o gyfle i ddod i'r gogledd, mae'n wych. "Dwi'n gweithio'n galed iawn adeg yma'r flwyddyn a heb fod wedi cael amser i allu ymweld o'r blaen. "Ond mae'n agoriad llygad ac mae 'na lawer iawn o bobl yma. Dwi'n gobeithio bod yma eto'r flwyddyn nesaf."Penparcau (oddi ar Flickr)Bynting yn cyhwfan o flaen yr Hen Lyfrgell yng nghanol dinas Wrecsam, i nodi fod y Brifwyl yno yn 2011Eisteddfod Genedlaethol CymruManon Rhys oedd enillydd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 2011, ac fe gafodd ei gŵr, Jim Parc Nest, y fraint o'i gwobrwyo, yn ei rôl fel Archdderwydd. Cofiodd Jim: "O'n i ar Fwrdd yr Orsedd, ac mae un o'r cyfarfodydd yn digwydd fis Ebrill. Hywel Wyn Edwards oedd y trefnydd, a phwy welais i yn y coridor, yn hollol ddamweiniol, oedd un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, Hazel Walford Davies, yn rhoi ffolder drwchus iddo. "A 'nabyddais i'r lliw, ffolder melyn, ac o'n i'n gwybod mai nofel Manon oedd hi. 'Wedais i ddim wrth Manon, 'wedais i ddim wrth neb – gadwes e i fy hunan. "O'dd e'n brofiad arbennig."Tudur Dylan Jones