Sport

Edrych ymlaen at Pride Cymru gyda H o Steps

Y penwythnos hwn fe fydd Pride Cymru yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd.

Mae’r dathliad LHDTC+ yng Nghymru yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed gyda’r digwyddiad wedi newid dyddiad a lleoliad, a’r orymdaith yn dilyn llwybr newydd.

H gyda Steps yn perfformio yn The Mighty Hoopla yn 2022
H gyda Steps yn perfformio yn The Mighty Hoopla yn 2022 Lorne Thomson

Nos Fawrth, buodd Ian ‘H’ Watkins o’r grŵp pop Steps yn siarad gyda Caryl am fis Pride a’r holl bethau y bydd o’n ei wneud i ddathlu.

“Dw i’n cyflwyno ar y llwyfan yn Pride Cymru dydd Sul. A’r main act yw fy ffrind Claire o Steps!”

Gofynnodd Caryl iddo a fydd o’n ymuno â Claire ar y llwyfan am ddeuawd fach, ac atebodd yn gellweirus gyda “Gawn ni weld...!”

Mae’r canwr sy’n wreiddiol o’r Rhondda yn weithgar iawn, nid yn unig yn genedlaethol a gyda Pride Cymru ond hefyd yn lleol – ef oedd un o sefydlwyr Pride y Bontfaen.

H a chriw Pride y Bontfaen gyda'r maer
Pride y Bontfaen

Y frwydr yn parhau

Sefydlodd H Pride y Bontfaen flwyddyn diwethaf ar ôl i regfeydd sarhaus am Pride gael eu peintio ar ddrysgau Neuadd y Dref. Eto, eleni mae mainc Pride yn y dref wedi cael ei difrodi.

Mewn neges ar ei gyfrif Instagram yn dangos y difrod, dywedodd:

“Ychydig ddiwrnodau’n ôl roedd hon yn fainc brydferth, liwgar o liwiau’r enfys yn dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth a charedigrwydd. Dyma pam rydan ni’n cynnal Pride.

"Dw i’n teimlo’n siomedig iawn am hyn. Dw i’n gwybod mai dim ond mainc yw hi, ond mae’n symbol ac yn ddatganiad o gariad a chynwysoldeb. Mae’n rhywbeth dw i wedi gweithio mor galed amdano.

"Mae’n tref ni’n brydferth a dw i’n caru’r Bontfaen. Does gen i ddim syniad pam y byddai rhywun yn gwneud hyn. Mae casineb yn dal i fodoli ac mae’n gwneud i mi sylweddoli bod y frwydr yn parhau.”

Mainc Pride y Bontfaen cyn ac ar ôl cael ei difrodi
Mainc Pride y Bontfaen cyn ac ar ôl cael ei difrodi Ian 'H' Watkins

Ond, mae’r canwr yn parhau i fod yn optimistaidd. Mae’n dweud bod Maer y Bontfaen, Malcolm Wilson wedi bod yn gefnogol iawn i Pride. Cynhaliwyd Bore Coffi gyda’r Maer yn gynharach ym mis Mehefin, eglurodd: “Mae Malcolm yn ddyn hyfryd, jyst ffantastig.” Yn wir, roedd wedi dod i ddigwyddiadau Pride y gorffennol mewn sannau a chrys enfys Pride!

Wrth edrych ymlaen at wythnos Pride yn ei dref dywedodd H, sy’n dysgu Cymraeg, am y cyffro sy’n nodweddiadol ohono, “[Mae] lot o events. Gala y Bontfaen, a parêd blwyddyn yma. Mae’r parêd ar Fehefin 24 trwy’r stryd ac ar ôl y parêd mae disgo.”

H gyda Emma Walford yn siarad am Pride y Bontfaen 2022 ar raglen Heno, S4C
H gyda Emma Walford yn siarad am Pride y Bontfaen 2022 ar raglen Heno, S4C Pride y Bontfaen

Bydd digwyddiadau bychain yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos hefyd gan gynnwys noson Gŵyl Ffilmiau’r Iris Prize a sesiwn LGBTQ+A sef sesiwn mewn gofod diogel i bobl ddod i ofyn cwestiynau am unrhyw beth LHDTC+.

Mwy o ddigwyddiadau Pride

  • Chwarae’r Chwedlau, The Queer Emporium, Caerdydd – 15 Mehefin

Noson gomedi wreiddiol yw Chwarae’r Chwedlau sy’n cyfuno drag, comedi, cerddoriaeth a chwedlau Cymru! Bydd perfformwyr fel Catrin Feelings, Sara Huws, Laurie Watts a mwy yn cyflwyno eu dehongliadau nhw o chwedlau a mytholeg Cymru yn eu dull hwyliog, syfrdanol a cwiar eu hunain dan arweiniad cyflwynydd Radio Cymru a Radio Cymru 2, Mirain Iwerydd.

  • Blanc ydi Blanc, Llyfrgell Caernarfon – 22 Mehefin

Bydd y clwb llyfrau LHDTC+, Llyfrau Lliwgar, yn cynnal sesiwn hwyliog yn Llyfrgell Caernarfon rhwng 11:00 a 12:00 fore dydd Iau yr 22 o Fehefin. Gêm o lenwi’r bylchau yw Blanc ydi Blanc ac mae’r criw am annog pawb i fod mor greadigol â hoffen nhw fod! Mae’r sesiwn yn addo digonedd o chwerthin a hwyl, ac mae’r cwbl am ddim.

Brandio Pride Gogledd Cymru
Pride Gogledd Cymru
  • Pride Gogledd Cymru, Caernarfon – 24 Mehefin

Bydd dau gig yn cael eu cynnal, un yn Neuadd y Farchnad ac un yn Yr Hen Lys gydag artistiaid fel Tara Bandito, Achlysurol, Lily Beau a Ffatri Jam yn perfformio. Yn ogsytal fe fydd parêd, stondinau a gweithdai yn y dref.