Sport

Cyhoeddi rhestr fer albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025

Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi'r 10 albwm sydd wedi cyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mercher y Brifwyl yn Wrecsam ddechrau fis nesaf.

Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau.

Mae'r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014, a Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd am eu halbwm Mynd â'r tŷ am dro.

Y beirniaid eleni yw Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

Yr albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:

  • Adwaith - Solas
  • Bwncath - Bwncath III
  • Don Leisure - Tyrchu Sain
  • Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell
  • Gwenno Morgan - Gwyw
  • Gwilym Bowen Rhys - Aden
  • Pys Melyn - Fel Efeilliaid
  • Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd
  • Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni
  • Ynys - Dosbarth Nos