Sport

Lluniau: Dydd Llun yn yr Eisteddfod

Mae dydd Llun yr Eisteddfod yn ddiwrnod pwysig i nifer o bobl – diwrnod urddo aelodau newydd i'r Orsedd.

Oherwydd y glaw fe gafodd y seremoni ei chynnal yn Y Pafiliwn, ond erbyn amser cinio roedd yr haul yn ôl yn tywynnu.

Gwisgoedd yr Orsedd
Cyn y prysurdeb, mae'r gwisgoedd yn barod...
Aelodau'r orsedd yn cael eu gwisgo
Mae tîm o bobl gefn llwyfan yn helpu i wisgo'r aelodau cyn seremoni'r Orsedd - a phawb mewn hwyliau
Dynes yn cael ei gwisgo gyda'r wisg las
Un o'r rhai gafodd eu hurddo oedd Keris Jones, o Rosllannerchrugog, sydd wedi bod yn gwirfoddoli i'r Eisteddfod ers 50 mlynedd
Yr archdderwydd yn cerdded
Ac yn nghanol y prysurdeb, mae un aelod pwysig o'r Orsedd yn nôl ei gwisg...
Mererid Hopwood
Neges o heddwch oedd gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood
Tony Thomas yn cael ei urddo
Tony Thomas, o Lanybydder, gafodd y gymeradwyaeth fwyaf gan y dorf - mae o wedi bod yn gweithio gyda'r Eisteddfod ers 1984 ac erbyn hyn yn Swyddog Technegol Eisteddfod Genedlaethol
Y Corn Gwlad
Y Corn Gwlad yn atsain yn y Pafiliwn
Criw o ferched gyda hetiau bwced
Erbyn amser cinio roedd yr hetiau bwced allan i warchod rhag yr haul gan griw clwb golff Llandudno
Dau ddyn yn cael peint
Roedd Euan Hammond, o Brighton, a Joe Spence, o Lerpwl, yn chwarae gyda Seren yng Nghaffi Maes B ar ôl dechrau'r band gydag Elen, o Landudno, yn y brifysgol yn Lerpwl
Dawnswyr gwerin
Dawnswyr Talog yn stepio yn y Tŷ Gwerin
Babi a'i mam
Eisteddfod cyntaf i Mabli, o Gaerdydd, sydd yma gyda'i mam Flora
Y Pianydd Llyr Williams
Yr hogyn lleol - a'r pianydd byd-enwog Llŷr Williams - yn perfformio gweithiau cyfoes Cymreig yn Y Stiwdio
Ed Holden
Miwsig o fath gwahanol oedd gan Mr Phormula - y rapiwr a'r bît-bosciwr Ed Holden
Plentyn mewn hamoc
Mae'n flinedig mynd o gwmpas y Maes, ond mae Beca o Benrhyndeudraeth wedi dod o hyd i'r lle perffaith i ymlacio
Criw yn cael diod wrth fwrdd picnic
Iro'r llwnc ar ôl cystadlu gyda Chôr Cynhaearn
Tair o ferched yn eistedd gyda'u ci
(chwith i'r dde) Nesta Gele - ei enw barddol ers heddiw, Sarah Jones, Lois Jones ac Ubu y ci

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗ neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Enillydd y Goron
Owain Rhys o Gaerdydd, oedd enillydd Y Goron Eisteddfod Genedlaethol