Sport

'Dim un geiniog' o gynllun £2.5bn wedi mynd i ddiwydiant dur Cymru

David Chadwick
Mae angen i ASau Llafur Cymru "fynnu cyfran deg i ddur Cymru nawr, cyn i'w llywodraeth eu hunain wario'r hyn sy'n weddill", medd David Chadwick

Does "yr un geiniog" wedi dod i Gymru drwy gynllun Llywodraeth y DU i fuddsoddi £2.5bn mewn dur, yn ôl canfyddiadau Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cadarnhaodd Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach San Steffan "nad yw'r llywodraeth wedi gwario, dyrannu, na neilltuo unrhyw arian o dan yr ymrwymiad £2.5bn yng Nghymru".

Mae'r adran yn nodi bod £751m wedi'i fuddsoddi i gynnal safle British Steel yn Scunthorpe a £172m arall i achub Specialist Steel UK yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, David Chadwick, fod angen i Aelodau Seneddol Llafur Cymru "fynnu cyfran deg i ddur Cymru nawr, cyn i'w llywodraeth eu hunain wario'r hyn sy'n weddill".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi "buddsoddi yn sylweddol" er mwyn gwarchod y diwydiant Dur ym Mhort Talbot, gan gynnwys £500m tuag at ffwrnes drydan newydd yn 2024.

Gwaith dur TATA ym Mhort Talbot
Cafodd ffwrnes chwyth olaf gwaith dur TATA ym Mhort Talbot ei chau ym mis Medi 2024 Getty Images

Yn dilyn cyhoeddi'r cynllun buddsoddi dur newydd ym mis Chwefror llynedd, dywedodd y gweinidog Llafur yn adran ynni San Steffan ar y pryd, Sarah Jones, y gallai'r £2.5bn "fod o fudd i ranbarthau ledled y DU - fel Scunthorpe, Rotherham, Redcar, Sir Gogledd Efrog a Phort Talbot - sydd â hanes cryf o gynhyrchu dur".

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'r arian "yn cael ei wario ar fentrau a fydd yn rhoi dyfodol hir i'r diwydiant - fel cefnogi'r newid i ffwrneisi arc trydan, neu welliannau eraill i alluoedd y DU".

Cafodd ffwrnes chwyth olaf gwaith dur Tata ym Mhort Talbot ei chau ym mis Medi 2024, gyda ffwrnais drydan newydd i fod ar waith erbyn diwedd 2027.

Ond mae pryderon nawr y gallai hyn gael ei ohirio oherwydd problemau cysylltu â'r grid cenedlaethol.

Mae'r Cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod Llywodraeth Prydain eisoes wedi gwario £751m o'r gronfa i gynnal British Steel yn Scunthorpe, wedi i weinidogion ddod â'r cwmni dan berchnogaeth gyhoeddus ym mis Gorffennaf 2025.

Ond ym mis Mawrth eleni, fe rybuddiodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol y gallai'r gwariant ar y safle godi i fwy na £1.5bn erbyn 2028.

Sarah Jones (2024)
Y llynedd, dywedodd yr Aelod Seneddol Sarah Jones y gallai'r £2.5bn "fod o fudd i ranbarthau ledled y DU"

Mae'r £172m a wariwyd hyd yma ar Specialist Steel UK wedi talu am bethau fel diogelu'r safleoedd a chyflogau gweithwyr ers i'r cwmni fynd i'r wal ym mis Awst eleni.

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynlluniau i wladoli'r busnes hwnnw hefyd, sydd â safleoedd yn sir De Efrog a gorllewin canolbarth Lloegr.

Ym mis Medi 2024, cyhoeddwyd cymhorthdal o £500m i TATA Steel ym Mhort Talbot gan Lywodraeth Prydain tuag at adeiladu ffwrnais arc drydan newydd yno, ynghyd ag ymrwymiad gan TATA Steel i fuddsoddi £700m o arian eu hunain.

Grant amodol i'r cwmni oedd hwnnw, yn hytrach na rhan o'r gronfa fuddsoddi diwydiant dur £2.5bn, a gyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol.

'Denu buddsoddiad i brosiectau dur yng Nghymru'

Ym mis Mawrth eleni, pan ofynnodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, faint o'r gronfa £2.5bn ar gyfer y diwydiant dur a fyddai'n cael ei wario yng Nghymru, dywedodd y gweinidog yn yr Adran Fusnes a Masnach ar y pryd, Chris McDonald, y byddai gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru rôl wrth ddenu buddsoddiad ar gyfer prosiectau dur yng Nghymru.

"Y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol fydd prif fecanwaith Llywodraeth y DU ar gyfer darparu cyllid ar gyfer buddsoddi yn y sector dur.

"Fydd penderfyniadau buddsoddi gan y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol yn cael eu gwneud fesul achos, ac mae'n cefnogi prosiectau addawol ledled y DU.

"Yn benodol ar gyfer Cymru, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dod â'r Gronfa Cyfoeth Genedlaethol a'r sector preifat ynghyd mewn menter newydd i helpu i ddenu buddsoddiad i brosiectau dur yng Nghymru, er mwyn cefnogi cymunedau ledled Cymru sy'n dibynnu ar y diwydiant," meddai.

Yn ôl Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yr Aelod Seneddol David Chadwick, mae angen i Lafur alw am fuddsoddi'r arian yma yng Nghymru.

"Roedd Llafur yn hapus i siarad am achub y diwydiant dur yng Nghymru pan oedden nhw eisiau pleidleisiau Cymru.

"Nawr rydyn ni'n gwybod gwerth yr addewidion hynny.

"Byddan nhw'n sôn am Gymru yn eu datganiadau i'r wasg, yn tynnu lluniau mewn offer diogelwch ym Mhort Talbot, ac yn dweud faint maen nhw'n poeni.

"Ac eto, hyd yma, dydyn nhw ddim wedi darparu'r un geiniog i Gymru o'r gronfa ddur y maen nhw wedi ei ganmol gymaint," meddai.

"Ble mae Aelodau Seneddol Cymreig Llafur tra bod hyn oll yn digwydd?

"Mae angen iddyn nhw ddangos gwir galon a mynnu cyfran deg ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru nawr, cyn i'w llywodraeth eu hunain wario'r gweddill."

'Wedi buddsoddi'n helaeth' - Llywodraeth y DU

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi'n helaeth i sicrhau cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, swyddi lleol, a dyfodol y dref.

"Mae hyn yn cynnwys £500m i gefnogi trawsnewidiad Tata Steel Port Talbot – sy'n costio £1.25bn – yn waith dur modern sy'n defnyddio ffwrnais arc drydan; £102m o gymorth uniongyrchol gan y llywodraeth i weithwyr a busnesau yr effeithir arnynt gan y newid hwn; £64m tuag at uwchraddio'r porthladd; a £14.8m ar gyfer adfywio canol y dref.

"Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad y llywodraeth i fuddsoddi hyd at £2.5bn i ailadeiladu diwydiant dur y DU, gan gynnwys drwy'r Gronfa Cyfoeth Genedlaethol - sy'n croesawu ceisiadau sy'n bodloni ei meini prawf gan gwmnïau yng Nghymru a ledled y DU.

"Mae ein strategaeth ddur hefyd yn dwyn ffrwyth i gynhyrchwyr dur yng Nghymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.