Disgwyl penderfyniad terfynol ar gynlluniau dadleuol gwasanaethau strôc
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda wneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol eu gwasanaethau strôc ddydd Iau, wedi ail gyfnod o ymgynghori.
Fis Chwefror, mewn cyfarfod eithriadol, fe benderfynodd aelodau'r bwrdd ymgynghori eto ar opsiwn a ddeilliodd o sylwadau gan y cyhoedd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol.
Byddai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y bwrdd yn golygu canoli gwasanaeth strôc arbenigol yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, gydag ysbytai eraill y bwrdd iechyd yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo'.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae'n rhaid newid gan nad yw'r gwasanaeth strôc presennol yn cyrraedd safonau clinigol.
Ond yn ôl bron i 70% o ymatebion i'r ail ymgynghoriad ni fydd yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn gwella safonau na diogelwch cleifion.
Beth fyddai'n newid?
Mae'r dewis sy'n cael ei ffafrio gan y bwrdd iechyd yn golygu lleihau nifer yr unedau strôc mewn ysbytai o bedwar i un.
Ar hyn o bryd mae wardiau strôc ym mhob un o bedwar ysbyty'r bwrdd iechyd – Bronglais yn Aberystwyth, Llwynhelyg yn Hwlffordd, Glangwili yng Nghaerfyrddin a'r Tywysog Philip yn Llanelli.
Mae'r opsiwn amgen yn golygu y byddai uned strôc dan ofal arbenigwyr 24 awr y dydd yn Ysbyty Glangwili, tra byddai "gwasanaeth trin a throsglwyddo" yn yr ysbytai eraill, ac uned adsefydlu yn Aberystwyth.
I'r cleifion hynny a fyddai'n cael y driniaeth gychwynnol yn Llwynhelyg a Bronglais – byddai taith wedyn i'r ganolfan arbenigol yng Nglangwili, 30 milltir o Hwlffordd, dros 45 milltir o Aberystwyth.
Yng nghinio misol clwb strôc Aberystwyth bu Gordon Land yn disgrifio'r effaith gafodd strôc arno 14 o flynyddoedd yn ôl – dyw e ddim wedi gallu ysgrifennu ei enw ers hynny ar ôl colli nerth ar ochr dde ei gorff.
Cafodd driniaeth yn Ysbyty Bronglais ac yng Nghaerdydd gan ganmol y ddau le – ond dywedodd ei fod yn bryderus am y posibilrwydd o ganoli'r gwasanaeth strôc yng Nghaerfyrddin.
"Yr amser mae'n cymryd i gyrraedd Caerfyrddin – pwy â wyr beth allai ddigwydd yn yr amser yna? Mae'n bellter mawr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth."
Cafodd gŵr Glynis Somers strôc dair blynedd yn ôl – mae'r cwpl y byw yn Aberystwyth ac yn ôl Glynis cafodd Brendan driniaeth dda yn Ysbyty Bronglais.
"Wnaethon nhw edrych ar ôl e yn well nac y byddai King Charles wedi cael ei edrych ar ôl. Mae Bronglais yn ofnadwy o bwysig i ni – edrych ar y catchment area, mae'n mynd lan i'r gogledd!"
Mae Glynis yn galw ar y bwrdd iechyd i gadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais.
Cafodd Brendan driniaeth am gyfnod yn Ysbyty Treforys, ac roedd mynd i'w weld yn anodd, meddai Glynis: "Doedd e ddim yn neis o gwbl.
"Ond pan ddaeth e nôl i'r uned strôc ym Mronglais dwedodd e: 'Wi nol yn y Ritz!' Ro'n nhw wedi edrych ar ei ôl e yn dda."
Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun ehangach – a ddechreuodd yn 2023 - i ddiwygio'r ffordd y mae naw gwasanaeth clinigol yn cael eu rhedeg.
O'r naw gwasanaeth dan sylw, fe benderfynodd y bwrdd iechyd ar ddyfodol wyth ohonynt ym mis Chwefror. Ond gyda'r gwasanaeth strôc yn denu'r "gwrthwynebiad cryfaf" ar y pryd, ni ddaeth aelodau at benderfyniad terfynol.
Yn hytrach, fe benderfynodd aelodau'r bwrdd gefnogi opsiwn amgen ar gyfer dyfodol y gwasanaeth strôc, opsiwn ddaeth i law yn dilyn awgrymiadau gan aelodau'r cyhoedd.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae'n rhaid newid gan nad oes ganddo wasanaeth arbenigol saith diwrnod yr wythnos a dyw'r gwasanaeth ddim yn cwrdd a safonau clinigol.
Dywed y bwrdd iechyd bod "dysgu o bob rhan o'r byd ac o'r Deyrnas Unedig wedi dangos bod canoli i wasanaeth strôc arbenigol yn arwain at ganlyniadau gwell".
Ymateb i'r cynllun yn 'rhanedig'
Gyda'r opsiwn yn un newydd ac yn ddiwygiad o opsiynau gwreiddiol y bwrdd iechyd, fe benderfynodd y bwrdd gynnal cyfnod pellach o ymgynghori.
Ar drothwy'r penderfyniad terfynol, mae adroddiad o'r ymatebion a gafodd eu casglu yn dangos "ymateb rhanedig" ar yr opsiwn amgen.
Yn ôl yr adroddiad, mae 24% o'r rhai wnaeth ymateb yn 'tueddu i gytuno' gyda'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio ond mae 69% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf y byddai'r opsiwn ffafriol yn helpu i wella safonau clinigol, diogelwch cleifion a phrinder staff.
Roedd y prif bryderon yn canolbwyntio ar deithio, amseroedd trosglwyddo, capasiti ambiwlansys, capasiti Ysbyty Glangwili, mynediad i deuluoedd, ac a fyddai gwasanaethau adsefydlu ar gael yn nes at adref.
Yn ôl adroddiad y bwrdd iechyd roedd lefel y gefnogaeth yn dibynnu ar ble roedd pobl yn byw – roedd pobl yn Sir Gaerfyrddin yn fwy tebygol o gefnogi tra bod y pryderon yn gryfach yng Ngheredigion, Sir Benfro, Powys a Gwynedd.
Dywed staff y bwrdd iechyd ei bod hi'n anodd cwrdd â disgwyliadau o dan y drefn bresennol oherwydd cyfyngiadau adnoddau, ac mae llawer yn cefnogi newid fyddai'n darparu gofal arbenigol cynharach.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae staff yn cefnogi'r egwyddor o wella gofal arbenigol ar gyfer strôc drwy ganoli gwasanaethau a gwella llwybrau gofal, ond mae nifer wedi codi pryderon ynghylch yr angen i deithio i gael mynediad at y gwasanaeth arbenigol, capasiti ar gyfer adsefydlu cleifion ar ôl strôc a materion eraill.
Yn ôl Lisa Francis, Cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) mae ymatebion yr ymgyghoriad diweddaraf yn dangos cryfder y teimladau yn erbyn y newidiadau.
"Mae'r ymatebion yn dangos diffyg ymddiriedaeth aruthrol yn y bwrdd iechyd, ac ychydig o hyder y bydd yr opsiwn ffafriol yn arwain at wasanaethau strôc gwell ac yn arwain at ganlyniadau gwell", meddai.
"Nid yw'r bwrdd iechyd wedi gallu rhoi sicrwydd i boblogaeth canolbarth a gorllewin Cymru, ei grwpiau cymunedol, ei wleidyddion, na hyd yn oed i'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu, darparu a gwella gwasanaethau strôc, y bydd ei ddewis a ffefrir yn arwain at welliannau pendant mewn perthynas â'r rhesymau a nodwyd yn y rhesymeg dros y newid."
Ynghyd â'r grŵp ymgyrchu, mae gwleidyddion hefyd yn codi pryderon tebyg.
Dywedodd AS Ceredigion Penfro Paul Davies wrth ei fod wedi "dadlau'n gyson" dros weld gwasanaethau'n aros yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg.
"Nid yw unrhyw newidiadau sy'n arwain at gleifion yn gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth yn dderbyniol", meddai.
Galw am wasanaeth strôc 24/7 o fewn bwrdd iechyd Hywel Dda mae'r AS Anna Nicholl, "fel y gall pobl yng ngorllewin Cymru gael mynediad at y driniaeth strôc sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, ble bynnag y maent".
Mae'r AS Kerry Ferguson, yn dadlau bod angen "gwell trefniadau trafnidiaeth cyn gwneud newidiadau i wasanaethau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook ↗, X ↗, Instagram ↗ neu TikTok ↗.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk ↗.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.