Cymrufyw

Cwpan y Byd: Edrych 'nôl ar gyhoeddiad carfan Cymru - BBC Cymru Fyw

Cwpan y Byd: Edrych 'nôl ar gyhoeddiad carfan Cymru - BBC Cymru Fyw

Diolch am ddilyn ein llif byw wrth i ni ddarganfod y 26 o chwaraewyr lwcus fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022.

Anodd credu mai dim ond 11 diwrnod sydd yna nes dechrau'r gystadleuaeth, a 12 diwrnod tan gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth ers 64 o flynyddoedd!

Cofiwch y bydd modd dilyn pob un o gemau Cymru ar lif byw Cymru Fyw.

A rhag ofn eich bod chi angen eich atgoffa o'r garfan, dyma blant y Rhondda i daflu goleuni ar y sefyllfa!

Carfan Cymru gan blant y Rhondda