Cymrufyw

Edrych yn ôl ar gynhadledd Covid Llywodraeth Cymru - BBC Cymru Fyw

Edrych yn ôl ar gynhadledd Covid Llywodraeth Cymru - BBC Cymru Fyw

Dyna'r cyfan am heddiw o'r llif byw.

  • Fe wnaethom glywed fod nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i ostwng.
  • Dywedodd y prif swyddog meddygol Dr Frank Atherton fod y patrwm i'w weld "ymhob rhan o Gymru".
  • Hefyd mae'r Rhif R wedi gostwng islaw 1 a bellach rhwng 0.7 a 0.9.
  • Ond mae pryder o'r newydd am amrywiolyn sy'n ymledu drwy'r wlad.
  • Mae 'amrywiad Caint' wedi ymledu dros Gymru ac mae nawr yn bresennol yn y rhan fwyaf o ranbarthau mewn lefelau o 50% neu fwy.