Fydd y chwaraewr canol cae, Joe Allen, ddim yn chwarae yng ngêm agoriadol Cymru yn erbyn yr UDA ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd ddydd Llun oherwydd anaf i linyn y gar.
Roedd yna amheuon am ffitrwydd Allen, sy'n chwarae i Abertawe, gan nad yw wedi chwarae ers 17 Medi.
"Fe ddywedon ni yn y dechrau y byddwn ni'n rhoi pob cyfle iddo chwarae yn y gêm gyntaf," meddai rheolwr Cymru, Robert Page.
"Fe fydden ni wedi gallu ei wthio fe ond petai rhywbeth yn digwydd iddo fe fyddai'n bendant allan o'r twrnamaint."
- Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022
- 'Allwch chi ddim anwybyddu' pwysigrwydd mab enwocaf Arberth
Bydd Cymru yn wynebu Iran ddydd Gwener ac yn chwarae eu gêm olaf yng Ngrŵp A yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd.
Roedd Allen, 32, a fu'n chwarae i Gymru yn nwy bencampwriaeth yr Euros wedi gobeithio y byddai'n ddigon ffit i chwarae yn y gêm nos Lun.
Bydd cic gyntaf y gêm am 1900 ein hamser ni.
- Y Gymraeg i'w chlywed yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf
- Pam fod Cwpan y Byd 2022 mor ddadleuol?
- Pryd mae gemau Cwpan y Byd Cymru?
- Pêl-droed: 'Cyfle gwych' i gael mwy i ddysgu Cymraeg
- Bale: 'Mwy yn gwybod am hanes Cymru nawr'
- BBC Bitesize: Gweithgareddau Cwpan y Byd