Sport

Torf yn dawnsio
Mwynhau un o'r bandiau yng Ngŵyl Ara Deg fis Awst 2022 Garry Stuart/Neuadd Ogwen

Mae cael band hip hop adnabyddus o'r Unol Daleithiau yn perfformio ar lwyfan neuadd gymunedol yn arwydd bod y lle yn llwyddo, yn enwedig os mai'r grŵp wnaeth ofyn am gael chwarae yno.

Dyna ddigwyddodd ym Methesda, sy'n brawf o'r gwaith gan griw lleol i gael Neuadd Ogwen yn ôl ar ei thraed.

Mae'r lleoliad ar stryd fawr y pentref chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen yn gartref i bob math o ddigwyddiadau, ac un o'r blaenoriaethau ydi ei datblygu yn llwyfan i fandiau o bob math.

Gŵyl Ara Deg
Fe gafodd Gŵyl Ara Deg ei chynnal yn Neuadd Ogwen ddiwedd Awst eleni Garry Stuart/Neuadd Ogwen

"Dwi eisiau cael lot mwy o fiwsig Cymraeg yma, efo miwsig o wahanol wledydd y byd hefyd - be' dwi'n licio ydi dod a Cymru i'r byd a'r byd i Gymru," meddai'r rheolwr Dilwyn Llwyd.

Hen neuadd farchnad ydi Neuadd Ogwen a 150 o flynyddoedd yn ôl anifeiliaid oedd y prif atyniad, gyda stoc yn cael eu prynu a'u gwerthu yno. Yn ddiweddarach cafodd ei throi'n neuadd gymunedol cyn i'r lle gau a dechrau mynd a'i ben iddo.

Bron i ddegawd yn ôl penderfynodd cwmni cymunedol Tabernacl gymryd y lle drosodd a denu grantiau i adnewyddu'r lle, a chafodd y neuadd ei hagor ar ei newydd wedd yn 2014.

Neuadd Ogwen
Dilwyn Llwyd ydi rheolwr Neuadd Ogwen. Mae Tabernacl Cyf yn rhedeg y neuadd a thafarn a byncws Y Fic, drws nesaf. Bydd pump o swyddi yn cael eu llenwi yn y dyfodol agos, ac mae'r cwmni yn cyflogi mwy o staff achlysurol pan fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal

Erbyn heddiw mae pob math o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yno - fel ioga, marchnad cynnyrch, cynadleddau, dramâu, sinema, clwb drama i blant, ymarferion côr, sgyrsiau a darlithoedd.

Yn dilyn cyfnod o ddatblygu'r safle dros y misoedd diwethaf, yn cynnwys adnewyddu adeiladau sy'n sownd i'r neuadd i greu ystafelloedd ychwanegol, mae'r neuadd newydd ail agor yn barhaol unwaith eto.

Posteri
Rhai o'r digwyddiadau celfyddydol yn y ganolfan

"Be' dwi 'di trio gwneud ers i ni agor wyth mlynedd yn ôl ydi meddwl, 'os ydi'r adeilad ar gael be' allwn ni wneud efo fo?'" meddai Dilwyn. "'Da ni'n trio cael cymaint o bethau a phosib yma tra mae'r adeilad yn agored."

Gydag aelodau o bwyllgor Cwmni Tabernacl wedi helpu trefnu Pesda Roc yn 2011 ↗ i gofio'r cynhyrchydd cerddoriaeth Les Morrison, roedden nhw'n awyddus i ddatblygu Neuadd Ogwen yn lleoliad i gigs.

Mae hynny'n dwyn ffrwyth erbyn hyn wrth i fwyfwy o artistiaid fynd yno i chwarae.

Carwyn Ellis & Rio 18
Carwyn Ellis & Rio 18 ar y llwyfan yn Neuadd Ogwen yng Ngŵyl Ara Deg eleni Garry Stuart/Neuadd Ogwen

Ymysg y bandiau sydd wedi perfformio yno eleni mae Carwyn Ellis & Rio 18, This is the Kit, Snapped Ankles, Gwenno a Jah Wobble. Roedd nifer o fandiau o'r gwledydd Celtaidd yng Ngŵyl Mawr y Rhai Bychain fis Hydref 2022, yn cynnwys Breabach o'r Alban, Dafydd Iwan o Gymru, a Dièse3 a Youenn Lange o Lydaw.

Mae Bassekou Koyate a'i fand Ngoni Ba, o Mali, eisioes wedi cytuno i berfformio yno yn 2023.

Dilwyn Llwyd yn gweithio yn Neuadd Ogwen
Dilwyn Llwyd yn gweithio wedi i'r neuadd ail-agor ar ôl cyfnod o atgyweirio diweddar

Meddai Dilwyn: "Mae wedi bod yn broses hir. Pan wnaethon ni agor yn 2014 doedd gan fandiau ac asiantau ddim lot o ffydd ynddo ni achos doeddan nhw ddim yn gwybod dim byd amdanon ni ond dros amser 'da ni wedi datblygu perthynas efo asiantau ac artistiaid - ac mae 'na rai 'da ni wedi bwcio yn direct drwy'r band.

"Mae'r bandiau a'r asiant i gyd yn siarad efo'i gilydd ac yn deud 'wnaethon ni wneud noson yn fanna ac roedd o'n wych' - neu ddim. Mae rhai bandiau rŵan yn cysylltu efo ni."

A dyna ddigwyddodd flwyddyn diwetha' gyda'r band hip-hop o Atlanta Arrested Development, grŵp enillodd ddwy wobr Grammy yn 1993 ac sy'n enwog am ganeuon fel Tennessee, People Everyday a Mr Wendell.

Fe werthwyd pob un o'r 400 o docynnau, a does dim hysbyseb gwell i leoliad na chael noson dda.

Arrested Development
Arrested Developent yng ngwobrau'r Black Music Honors yn Georgia, UDA, yn 2019 Prince Williams/Getty

Gobaith Neuadd Ogwen ydi bod llwyddiannau gigs yn sbardun i ddenu mwy o artistiaid o Gymru a thu hwnt i Fethesda.

"Dwi wedi dysgu ambell i dric," meddai Dilwyn. "Os ydi grŵp yn mynd i chwarae i Ddulyn ac wedi bod ym Manceinion dwi'n cysylltu i egluro bod ni hanner ffordd rhwng y ddau.

"Dwi hefyd yn dweud 'da ni ond dwy awr o Fanceinion ac awr a hanner o Lerpwl. Os ydi nhw'n chwarae yn Lloegr neith nhw fynd o Fanceinion, un noson i Lundain noson wedyn - 'dio ddim gwahanol.

"Ar ddiwedd y dydd os ydan ni'n strêt efo nhw a 'da ni'n gallu gwerthu ticedi ac maen nhw'n cael gig dda mae'n gweithio. 'Dio ddim yn rocket science."